- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
5.—(1) Rhaid i’r partïon—
(a)cydweithredu â’i gilydd er mwyn gyrru’r achos yn ei flaen,
(b)cydweithredu drwy roi dogfennau neu wybodaeth i’w gilydd, er mwyn galluogi pob parti i baratoi datganiad achos,
(c)cynorthwyo’r Tribiwnlys i hyrwyddo’r amcan pennaf, a
(d)cydweithredu â’r Tribiwnlys yn gyffredinol.
(2) Caiff y Tribiwnlys dynnu pa bynnag gasgliadau anffafriol sy’n cael eu hystyried yn briodol gan y Tribiwnlys, o fethiant parti i gydymffurfio ag unrhyw un o’r rhwymedigaethau sy’n cael eu pennu ym mharagraff (1).
(3) Pan fo’r Tribiwnlys yn tynnu casgliad anffafriol o dan baragraff (2), caiff y Tribiwnlys gyflwyno hysbysiad i’r parti diffygiol bod y Tribiwnlys yn bwriadu gwneud gorchymyn i ddileu—
(a)y cais, os y ceisydd yw’r parti diffygiol,
(b)y datganiad achos a’r dystiolaeth ysgrifenedig, os y Comisiynydd neu barti arall yw’r parti diffygiol.
(4) Rhaid i’r hysbysiad ym mharagraff (3) wahodd sylwadau a rhaid i’r Tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau sy’n cael eu gwneud.
(5) At ddibenion y rheol hon—
(a)rhaid i hysbysiad sy’n gwahodd sylwadau roi gwybod i’r parti diffygiol y caiff y parti hwnnw, o fewn cyfnod (ddim hwyrach na 10 niwrnod gwaith) sy’n cael ei bennu yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar,
(b)bydd sylwadau wedi eu gwneud—
(i)yn achos sylwadau ysgrifenedig, os ydynt yn cael eu gwneud o fewn y cyfnod penodedig, a
(ii)yn achos sylwadau llafar, os yw’r parti sy’n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.
(6) Caiff y Tribiwnlys, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau sydd wedi’u gwneud gan y parti diffygiol, orchymyn dileu achos y parti hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: