xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
21 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 145(3) a (4) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.
2. Yn ddarostyngedig i erthyglau 4, 5, 6, 7 ac 8, y diwrnod penodedig i’r darpariaethau yn y Ddeddf a restrwyd yn yr Atodlen ddod i rym at y dibenion a bennwyd (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yw 27 Ebrill 2015.
3. Yn ddarostyngedig i erthyglau 4, 5 ac 8, y diwrnod penodedig i adran 78 o’r Ddeddf (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb) ddod i rym at yr holl ddibenion sy’n weddill yw 1 Gorffennaf 2015.
4. Mae’r darpariaethau darfodol a throsiannol a’r darpariaethau arbed a ganlyn yn cael effaith.
5.—(1) Er gwaethaf cychwyn adran 61 o’r Ddeddf, ac Atodlen 2 iddi, mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014(2) yn parhau i gael effaith (yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiad neu ddirymiad wedyn) fel pe baent wedi eu gwneud o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i’r Ddeddf.
(2) I’r graddau y mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 yn parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff (1), maent yn gwneud hynny yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn—
(a)yn rheoliad 5(1) mae’r cyfeiriad at “Ran 7 o Ddeddf 1996” yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at “adran 66, 68, 73 neu 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014”; a
(b)yn rheoliad 6(1) mae’r cyfeiriad at “Ran 7 o Ddeddf 1996” yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at “adran 66, 68, 73 neu 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014”.
6.—(1) Daw’r erthygl hon i rym ar 27 Ebrill 2015.
(2) Mae’r erthygl hon yn gwneud addasiad darfodol i adran 75(2)(d) o’r Ddeddf gydag effaith tan 1 Gorffennaf 2015.
(3) Hyd nes i adran 78 o’r Ddeddf (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb) ddod i rym yn llawn yn rhinwedd erthygl 3, mae adran 75(2)(d) i’w darllen fel pe bai’r geiriau “os yw’r awdurdod yn rhoi sylw i ba un a yw ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio (gweler adran 77)” wedi eu hepgor.
7.—(1) Daw’r erthygl hon i rym ar 27 Ebrill 2015.
(2) Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â cheisydd sydd wedi gwneud cais, cyn 27 Ebrill 2015, i awdurdod tai lleol am lety neu gynhorthwy i sicrhau llety o dan Ran 7 o Ddeddf Tai 1996(3).
(3) Er gwaethaf erthyglau 2 a 3, mae Rhan 7 o Ddeddf Tai 1996 yn parhau mewn grym mewn perthynas â’r ceiswyr hyn.
8.—(1) Mae’r erthygl hon yn gwneud addasiad darfodol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970(4)fel y mae’n gymwys i Gymru, gydag effaith o 27 Ebrill 2015.
(2) Hyd nes i Atodlen 2 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(5) ddod i rym, mae Atodlen 1 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 i’w darllen o ran ei chymhwyso at Gymru—
(a)fel pe bai’r eitem ar gyfer Deddf Tai 1996 wedi ei hepgor;
(b)fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn lle’r eitem honno:
“Housing (Wales) Act 2014 Section 95(2), (3) and (4); but only where those functions apply by virtue of subsection (5)(b) of that section. | Co-operation and information sharing in relation to homeless persons and persons threatened with homelessness.” |
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
21 Ebrill 2015
Erthygl 2
1. Adran 50 (dyletswydd i gynnal adolygiad digartrefedd a llunio strategaeth ddigartrefedd) at bob diben sy’n weddill;
2. Adran 51 (adolygiadau digartrefedd) at bob diben;
3. Adran 52 (strategaethau digartrefedd) at bob diben;
4. Adran 53 (trosolwg o’r bennod hon) at bob diben;
5. Adran 54 (cymhwyso termau allweddol) at bob diben;
6. Adran 55 (ystyr digartrefedd a’r bygythiad o ddigartrefedd) at bob diben;
7. Adran 56 (ystyr llety sydd ar gael i’w feddiannu) at bob diben;
8. Adran 57 (a yw’n rhesymol parhau i feddiannu llety) at bob diben sy’n weddill;
9. Adran 58 (ystyr camdriniaeth a camdriniaeth ddomestig) at bob diben;
10. Adran 59 (addasrwydd llety) at bob diben sy’n weddill;
11. Adran 60 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i gael gafael ar gymorth) at bob diben;
12. Adran 61 (cymhwystra am gymorth o dan y bennod hon) at bob diben;
13. Adran 62 (dyletswydd i asesu) at bob diben;
14. Adran 63 (hysbysu am ganlyniad asesiad) at bob diben;
15. Adran 64 (sut i sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety ar gael) at bob diben sy’n weddill;
16. Adran 65 (ystyr cynorthwyo i sicrhau) at bob diben;
17. Adran 66 (dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref) at bob diben;
18. Adran 67 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 66 yn dod i ben) at bob diben;
19. Adran 68 (dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol) at bob diben;
20. Adran 69 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 68 yn dod i ben) at bob diben;
21. Adran 70 (angen blaenoriaethol am lety) at bob diben;
22. Adran 71 (ystyr hyglwyf yn adran 70) at bob diben;
23. Adran 72 (pŵer i ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau ynghylch angen blaenoriaethol am lety) at bob diben sy’n weddill;
24. Adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref) at bob diben;
25. Adran 74 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben) at bob diben;
26. Adran 75(1), (2) a (4) (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben) at bob diben(6);
27. Adran 76 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben) at bob diben;
28. Adran 77 (ystyr bod yn ddigartref yn fwriadol) at bob diben;
29. Adran 78(2) (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb) at ddibenion galluogi awdurdod tai lleol i wneud penderfyniad a chyhoeddi hysbysiad o’r penderfyniad hwnnw(7);
30. Adran 79 (amgylchiadau pellach pan fo’r dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr yn dod i ben) at bob diben;
31. Adran 80 (atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall) at bob diben sy’n weddill;
32. Adran 81 (cysylltiad lleol) at bob diben sy’n weddill;
33. Adran 82 (dyletswyddau i geisydd y mae ei achos yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio) at bob diben;
34. Adran 83 (achosion a atgyfeirir gan awdurdod tai lleol yn Lloegr) at bob diben;
35. Adran 84 (hysbysiad bod dyletswyddau wedi dod i ben) at bob diben;
36. Adran 85 (hawl i ofyn am adolygiad) at bob diben;
37. Adran 86 (gweithdrefn ar gyfer adolygiad) at bob diben sy’n weddill;
38. Adran 87 (effaith penderfyniad mewn adolygiad neu apêl na chafodd camau rhesymol eu cymryd) at bob diben;
39. Adran 88 (hawl i apelio i lys sirol ar bwynt cyfreithiol) at bob diben;
40. Adran 89 (apelau yn erbyn gwrthodiad i letya wrth aros am apêl) at bob diben;
41. Adran 90 (ffioedd) at bob diben;
42. Adran 91 (lleoli y tu allan i’r ardal) at bob diben;
43. Adran 92 (llety interim: trefniadau â landlord preifat) at bob diben;
44. Adran 93 (gwarchod eiddo) at bob diben;
45. Adran 94 (gwarchod eiddo: darpariaethau atodol) at bob diben;
46. Adran 95 (cydweithredu) at bob diben sy’n weddill;
47. Adran 96 (cydweithredu mewn achosion penodol yn ymwneud â phlant) at bob diben;
48. Adran 97 (datganiadau anwir, celu gwybodaeth a methiant i ddatgelu newid mewn amgylchiadau) at bob diben;
49. Adran 98 (canllawiau) at bob diben sy’n weddill;
50. Adran 99 (dehongli’r bennod hon a mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio) at bob diben sy’n weddill;
51. Adran 100 (diwygiadau canlyniadol) at bob diben;
52. Atodlen 2 at bob diben sy’n weddill; a
53. Rhan 1 o Atodlen 3 at bob diben.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 27 Ebrill 2015, Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”), ac eithrio adran 75(3) (aelwydydd sy’n ddigartref yn fwriadol ac sydd â phlant) ac, yn rhannol, adran 78 (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb). Mae’r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaethau darfodol a throsiannol a darpariaethau arbed o ganlyniad i gychwyn Rhan 2.
Dyma’r trydydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf.
Mae erthygl 2 yn cychwyn, i’r graddau nad yw wedi ei chychwyn eisoes, Ran 2 (digartrefedd) o’r Ddeddf, yn ddarostyngedig i’r eithriadau isod. Mae adran 100 o’r Ddeddf yn cyflwyno Rhan 1 o Atodlen 3 sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol ynglŷn â Rhan 2 o’r Ddeddf. Mae’r diwygiadau hyn, ymhlith pethau eraill, yn cael yr effaith o gyfyngu cymhwyso Rhan 7 o Ddeddf Tai 1996 at Loegr.
Mae erthygl 2 hefyd yn cychwyn adran 78 o’r Ddeddf, ond dim ond at ddibenion caniatáu i awdurdodau tai lleol benderfynu rhoi sylw i ddigartrefedd bwriadol mewn perthynas â chategorïau penodedig o geiswyr. Mae’n caniatáu hefyd i hysbysiadau penderfyniadau gael eu cyhoeddi.
Mae erthygl 3 yn dwyn adran 78 i rym at bob diben sy’n weddill ar 1 Gorffennaf 2015.
Mae erthygl 5 yn arbed Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014. Mae hefyd yn addasu’r Rheoliadau fel eu bod yn gweithredu fel pe baent wedi eu gwneud o dan y Ddeddf.
Mae erthygl 6 yn addasu adran 75(2)(d) o’r Ddeddf i hepgor y cyfeiriad at benderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb, nes i adran 78 ddod i rym yn llawn ar 1 Gorffennaf 2015.
Mae erthygl 7 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â pherson sydd wedi gwneud cais cyn 27 Ebrill 2015 am gymorth o dan Ran 7 o Ddeddf Tai 1996.
Mae erthygl 8 yn gwneud addasiad darfodol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970, er mwyn cyfeirio at swyddogaethau digartrefedd yr awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol o dan y Ddeddf.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau canlynol yn y Ddeddf wedi eu dwyn i rym yn llawn (oni nodir fel arall) drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 2 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 3 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 5 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 6 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 7 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 8 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 10 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 12 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 14 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 15 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 16 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 19 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 20 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 21 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 23 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 29 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 34 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 40 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 41 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 42 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 46 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 49 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 50 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 57 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 59 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 64 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 72 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 78 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 80 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 81 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 86 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 95 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 98 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 99 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 101 | 25 Chwefror 2015 | (Cy. 39) |
Adran 102 | 25 Chwefror 2015 | (Cy. 39) |
Adran 105 | 25 Chwefror 2015 | (Cy. 39) |
Adran 106 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 106 (at y dibenion sy’n weddill) | 25 Chwefror 2015 | (Cy. 39) |
Adran 107 | 25 Chwefror 2015 | (Cy. 39) |
Adran 108 | 25 Chwefror 2015 | (Cy. 39) |
Adran 109 | 25 Chwefror 2015 | (Cy. 39) |
Adran 110 | 25 Chwefror 2015 | (Cy. 39) |
Adrannau 111 i 128 | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 130 a Rhan 3 o Atodlen 3 | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 131(4)(c) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 137 | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 140 | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 141 a Rhan 5 o Atodlen 3 | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Adran 144 | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Paragraff 1 o Atodlen 2 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | (Cy. 316) |
Rhan 2 o Atodlen 3 | 25 Chwefror 2015 | (Cy. 39) |
Gweler hefyd adran 145(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ac adran 145(2) ar gyfer y darpariaethau hynny a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.
Nid yw adran 75(3) yn cael ei chychwyn ar hyn o bryd ac mae adran 75(2)(d) yn cael ei haddasu dros dro gan erthygl 6 hyd nes y daw adran 78 i rym yn llawn ar 1 Gorffennaf 2015.
Mae erthygl 3 yn dwyn adran 78 i rym yn llawn at bob diben ar 1 Gorffennaf 2015.