- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7. Rhagnodir yr wybodaeth ganlynol o dan adran 19(1)(b) o’r Ddeddf (gofynion cais am drwydded)—
(a)enw’r ceisydd;
(b)manylion am unrhyw enwau eraill y mae’r ceisydd wedi eu defnyddio;
(c)cyfeiriad y ceisydd ar gyfer gohebiaeth;
(d)os yw’r ceisydd yn gorff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r ceisydd;
(e)os yw’r ceisydd yn ymgymryd â gwaith gosod a rheoli eiddo ar ran landlord yn rhinwedd busnes, cyfeiriad unrhyw fangreoedd yn ardal yr awdurdod trwyddedu a ddefnyddir at y diben hwnnw;
(f)rhif ffôn cyswllt ar gyfer y ceisydd, os oes un ar gael;
(g)cyfeiriad e-bost cyswllt ar gyfer y ceisydd, os oes un ar gael;
(h)dyddiad geni’r ceisydd, os yn gymwys;
(i)pa un a yw’r ceisydd yn ymgeisio—
(i)mewn cysylltiad ag eiddo rhent y mae’r ceisydd yn landlord arno; neu
(ii)fel person yn gweithredu ar ran y landlord;
(j)manylion am unrhyw drwyddedau, achrediadau gwirfoddol, neu gofrestriadau a ddelir, a wrthodwyd neu a ddirymwyd mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo rhent mewn unrhyw ran arall o’r DU gan ddeiliad arfaethedig y drwydded;
(k)datganiad o —
(i)unrhyw gollfarnau sydd gan y ceisydd yn ymwneud â throseddau sy’n ymwneud â’r materion a restrir yn adran 20(3)(a) o’r Ddeddf;
(ii)unrhyw ddyfarniad yn erbyn y ceisydd gan lys neu dribiwnlys o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1); a
(iii)unrhyw gollfarnau sydd gan y ceisydd sy’n ymwneud â throseddau mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n ymwneud â’r darpariaethau y cyfeirir atynt yn adran 20(3)(c) o’r Ddeddf ac unrhyw ganfyddiad gan lys neu dribiwnlys bod y ceisydd wedi torri unrhyw rai o’r darpariaethau hynny;
(l)os yw’r ceisydd yn gorff corfforaethol, y rhif cofrestru perthnasol;
(m)os yn gymwys, enw a dyddiad geni unrhyw berson cysylltiedig; ac
(n)y modd y mae neu y bydd y ceisydd neu unrhyw berson cysylltiedig yn bodloni’r gofynion hyfforddi a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 19(2)(b) o’r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: