- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Rhaid i awdurdod lleol, cyn gwneud penderfyniad i waredu cae chwarae, neu unrhyw ran o gae chwarae, gyhoeddi hysbysiad (“yr hysbysiad”) am ddwy wythnos yn olynol mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal yr awdurdod lleol.
(2) Rhaid i’r hysbysiad y mae paragraff (1) yn cyfeirio ato—
(a)datgan bod yr awdurdod lleol yn bwriadu gwaredu cae chwarae;
(b)hysbysu’r cyhoedd ym mha le neu leoedd ac ar ba adegau y caniateir edrych ar fanylion y gwarediad arfaethedig, ac am ba gyfnod y bydd manylion y gwarediad arfaethedig ar gael i edrych arnynt; ac
(c)hysbysu’r cyhoedd o’i hawl i gyflwyno sylwadau i’r awdurdod lleol mewn perthynas â’r gwarediad arfaethedig, drwy ba fodd y mae’n rhaid iddo wneud hynny ac erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gael unrhyw sylwadau.
(3) Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod manylion y gwarediad arfaethedig ar gael i edrych arnynt yn ystod oriau swyddfa arferol ym mhrif swyddfa’r awdurdod lleol, os oes un ganddo, ac os yw’n rhesymol ymarferol, mewn un neu ragor o leoedd yn ardal yr awdurdod lleol.
(4) Rhaid i’r awdurdod lleol bennu cyfnod o 6 wythnos o leiaf, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad gyntaf, pan fo’n rhaid i fanylion y gwarediad arfaethedig fod ar gael i edrych arnynt yn unol â pharagraff (2)(b).
(5) Rhaid i’r dyddiad a bennir gan yr awdurdod lleol fel y dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid iddo gael sylwadau ar y gwarediad arfaethedig yn unol â pharagraff (2)(c), fod o leiaf 6 wythnos ar ôl y dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad gyntaf.
(6) Heb fod yn hwyrach na’r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad gyntaf, rhaid i’r awdurdod lleol—
(a)arddangos copi o’r hysbysiad mewn o leiaf un lle ar y cae chwarae neu gerllaw’r cae chwarae y mae’r gwarediad arfaethedig yn ymwneud ag ef, a pha un bynnag wrth bob mynedfa swyddogol i’r cae chwarae, am o leiaf 6 wythnos;
(b)pan fo gan yr awdurdod lleol wefan, rhoi copi o’r hysbysiad hwnnw ar y wefan honno am o leiaf 6 wythnos;
(c)anfon copi o’r hysbysiad at unrhyw berchennog neu feddiannydd tir sy’n ffinio â’r cae chwarae;
(d)anfon copi o’r hysbysiad a manylion y gwarediad arfaethedig at—
(i)unrhyw awdurdod lleol y mae ei ardal yn cynnwys unrhyw ran o’r cae chwarae y mae’r gwarediad arfaethedig yn ymwneud ag ef neu sy’n rhannu ffin ag unrhyw ran o gae o’r fath;
(ii)Cyngor Chwaraeon Cymru(1);
(iii)y National Playing Fields Association(2);
(iv)y personau hynny y mae’n ymddangos i’r awdurdod lleol eu bod yn cynrychioli buddiannau personau yn ardal yr awdurdod lleol, neu yn ardal awdurdod lleol sy’n rhannu ffin ag unrhyw ran o’r cae chwarae, sy’n gwneud defnydd o’r cae chwarae;
(v)unrhyw gorff y mae ei brif amcanion yn cynnwys gwarchod—
(aa)mannau agored ledled Cymru; neu
(bb)cyfleoedd i chwarae ar gyfer plant ledled Cymru;
(vi)unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod.
(7) Rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu copi o’r manylion am y gwarediad arfaethedig i unrhyw berson (ar ôl talu ffi resymol, os yw hynny’n ofynnol gan yr awdurdod lleol) y mae’r awdurdod lleol yn cael cais ganddo yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Sefydlwyd gan Siarter Brenhinol dyddiedig 4 Chwefror 1972, gan weithredu o dan yr enw “Chwaraeon Cymru”.
Sefydlwyd yn 1925 ac ymgorfforwyd gan Siarter Brenhinol yn 1933, gan weithredu o dan yr enw “Fields in Trust”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: