xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENTANWYDDAU AWDURDODEDIG

26.  Brics glo Ecobrite, a weithgynhyrchir gan Arigna Fuels Limited yn Arigna, Carrick-on-Shannon, County Roscommon, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 96% o’r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 250°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd mewn dau faint;

(d)sydd, ar gyfartaledd, yn pwyso 37 gram yn achos y maint lleiaf a 48 gram yn achos y maint mwyaf; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.