xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1795 (Cy. 255)

Tai, Cymru

Rheoliadau Tai (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2015

Gwnaed

12 Hydref 2015

Yn dod i rym

19 Hydref 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 176(1) a (5) o Ddeddf Tai 1985(1) fel y’u hymestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(3).

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).