- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12. Yn rheoliad 12 (cysylltu â’r asiantaeth fabwysiadu briodol)—
(a)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Mae’r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn cynnwys—
(a)gofyn yn ysgrifenedig i’r Cofrestrydd Cyffredinol am unrhyw wybodaeth o dan reoliad 13 a all fod yn berthnasol at y diben hwn;
(b)gofyn yn ysgrifenedig i’r llys a wnaeth y gorchymyn mabwysiadu am wybodaeth am hunaniaeth yr asiantaeth fabwysiadu briodol;
(c)holi’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y digwyddodd y mabwysiad.”;
(b)ym mharagraff (3) ar ôl “rhaid i’r asiantaeth gyfryngol” mewnosoder “gymryd pob cam rhesymol i”;
(c)yn lle paragraff (4)(a) rhodder—
“(a)cael gwybod a yw’r person mabwysiedig, ar unrhyw adeg, wedi mynegi barn i’r asiantaeth ynghylch—
(i)unrhyw gyswllt yn y dyfodol ag unrhyw berthynas;
(ii)unrhyw gyswllt yn y dyfodol rhwng pobl sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig a pherthnasau i’r person mabwysiedig;
(iii)codi pwnc cyswllt o’r fath gydag ef; a”;
(d)yn lle paragraff (4)(c) rhodder—
“(c)ceisio unrhyw wybodaeth arall sy’n angenrheidiol at ddibenion—
(i)olrhain y person mabwysiedig ac, os nad y person mabwysiedig yw’r gwrthrych, unrhyw wrthrych arall;
(ii)galluogi’r person mabwysiedig i wneud penderfyniad deallus ynghylch a ddylai gydsynio—
(aa)i wybodaeth adnabod amdano’i hun gael ei datgelu;
(bb)i gais fynd yn ei flaen i hwyluso cyswllt rhwng perthynas i’r person mabwysiedig a pherson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig; neu
(cc)i gyswllt â’r ceisydd;
(iii)galluogi unrhyw wrthrych arall i wneud penderfyniad deallus ynghylch a ddylai gydsynio—
(aa)i wybodaeth adnabod amdano’i hun gael ei datgelu; neu
(bb)i gyswllt â’r ceisydd;
(iv)cwnsela’r gwrthrych ac, os nad ef yw’r gwrthrych, y person mabwysiedig mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw; a
(v)cwnsela’r ceisydd.”;
(e)ym mharagraff (5) ar ôl “chais oddi wrth asiantaeth gyfryngol o dan baragraff (4)” mewnosoder “neu o dan ddarpariaeth Seisnig gyfatebol”;
(f)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
“(6) Mae “asiantaeth gyfryngol” at ddibenion paragraff (5) yn cynnwys asiantaeth gyfryngol fel y diffinnir “intermediary agency” o dan ddarpariaeth Seisnig gyfatebol.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: