- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7. Ar ôl rheoliad 5 mewnosoder—
5A.—(1) Pan fo asiantaeth gyfryngol yn derbyn cais oddi wrth berthynas i berson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â’r person mabwysiedig, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â’r cais os oes feto’n gymwys o dan reoliad 8(1), ac eithrio o dan amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 8(1)(b)(ii).
(2) Pan fo asiantaeth gyfryngol yn derbyn cais oddi wrth berthynas i berson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â pherson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â’r cais—
(a)os oes feto’n gymwys o dan reoliad 8(1), ac eithrio o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 8(1)(b)(ii); neu
(b)os nad yw’r person mabwysiedig yn cydsynio i’r cais fynd yn ei flaen.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (6), pan fo asiantaeth gyfryngol yn derbyn cais oddi wrth berson sydd â pherthynas ragnodedig â pherson mabwysiedig am gynhorthwy i gysylltu â pherthynas i’r person mabwysiedig, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â’r cais os nad yw’r person mabwysiedig yn cydsynio i’r cais fynd yn ei flaen.
(4) Caiff asiantaeth gyfryngol fwrw ymlaen â chais o dan baragraff (3)—
(a)os yw’r asiantaeth gyfryngol wedi cymryd pob cam rhesymol i ddod o hyd i’r person mabwysiedig ond ei bod wedi methu gwneud hynny; neu
(b)pan fo—
(i)y ceisydd naill ai yn briod, plentyn, ŵyr, wyres, gorwyr neu orwyres i’r person mabwysiedig; a
(ii)y ceisydd yn ceisio cysylltu â’r perthynas i’r person mabwysiedig dim ond i gael gwybodaeth am hanes meddygol perthnasau’r person mabwysiedig.
(5) Pan fo paragraff (4)(b) yn gymwys, rhaid i’r asiantaeth gyfryngol beidio â datgelu unrhyw wybodaeth a fyddai, o’i chymryd ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall sydd ym meddiant y person y’i datgelir iddo, yn galluogi’r person mabwysiedig, unrhyw berthynas i’r person mabwysiedig neu unrhyw berson sydd â pherthynas ragnodedig â’r person mabwysiedig i gael ei adnabod neu ei olrhain.
(6) Nid yw unrhyw ofyniad o dan y rheoliad hwn i’r person mabwysiedig gydsynio i gais fynd yn ei flaen yn gymwys—
(a)os yw’r person mabwysiedig wedi marw; neu
(b)os yw’r asiantaeth gyfryngol yn penderfynu na all y person mabwysiedig roi cydsyniad deallus.
(7) Pan fo’n ofynnol cael cydsyniad y person mabwysiedig o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r asiantaeth gyfryngol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod gan y person mabwysiedig ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad deallus.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: