Rheoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) a deuant i rym ar 1 Ebrill 2016. Maent yn dirymu, ac yn disodli’n rhannol, Reoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001.

Mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r cymorth sydd i’w ddarparu i bersonau ifanc penodol nad ydynt bellach yn derbyn gofal gan awdurdod lleol sef, sef personau ifanc categori 2 (fel y’u diffinnir gan adran 104(2) o’r Ddeddf a rheoliad 3) ac i bersonau ifanc categori 3 a chategori 4 (fel y’u diffinnir gan adran 104(2) o’r Ddeddf).

Maent yn ailddeddfu (gyda rhai newidiadau) ddarpariaethau yn Rheoliadau 2001 (ac eithrio’r darpariaethau hynny sy’n ymwneud â phersonau ifanc y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hynny fel plant “cymwys” ac a ddiffinnir yn awr fel personau ifanc categori 1 yn unol ag adran 104(2) o’r Ddeddf, a gynhwysir bellach yn Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r ffordd y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol gynnal asesiad o anghenion personau ifanc categori 2, categori 3 a chategori 4 (rheoliad 5), ac ynglŷn â pharatoi ac adolygu cynlluniau llwybr, sef cynlluniau sy’n nodi’r cyngor a chymorth arall y mae’r awdurdod lleol cyfrifol, a phersonau eraill pan fo’n briodol, yn bwriadu eu darparu (rheoliadau 6 a 7 ac Atodlenni 1 a 2).

Maent yn rhagnodi swyddogaethau cynghorwyr personol a benodir ar gyfer personau ifanc categori 2, categori 3 a chategori 4 (rheoliad 8) ac yn gwneud darpariaeth ynghylch cymorth arall ac addasrwydd llety (rheoliad 9 ac Atodlen 3). Maent yn darparu ar gyfer sefydlu a chadw cofnodion mewn perthynas ag asesiadau a chynlluniau llwybr (rheoliad 10).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.