- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Wrth gynnal asesiad o anghenion o dan reoliad 5, ac wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr o dan reoliad 6 neu 7, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol, ac eithrio pan nad yw’n rhesymol ymarferol—
(a)canfod a rhoi sylw i safbwyntiau’r person ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4 (y person ifanc perthnasol) y mae’r asesiad neu’r cynllun llwybr yn ymwneud ag ef(1), a
(b)cymryd pob cam rhesymol i alluogi’r person ifanc perthnasol i fod yn bresennol a chymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod yr ystyrir ei achos ynddo.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ddarparu copïau i’r person ifanc perthnasol o’r canlynol—
(a)canlyniadau’r asesiad,
(b)y cynllun llwybr,
(c)pob adolygiad o’r cynllun llwybr,
a rhaid iddo esbonio cynnwys pob dogfen i’r person ifanc perthnasol, gan roi sylw i lefel ei ddealltwriaeth, ac eithrio pan nad yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
(3) Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau y cedwir cofnod ysgrifenedig o’r safbwynt a gaffaelir o dan baragraff (1)(a).
5.—(1) Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol asesu anghenion pob person ifanc categori 2 a 4 a phob person ifanc categori 3 nad oes ganddo gynllun llwybr eisoes, yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid cwblhau’r asesiad anghenion—
(a)yn achos person ifanc categori 2, ddim hwyrach na 3 mis ar ôl y dyddiad y daeth y person ifanc yn berson ifanc categori 2,
(b)yn achos person ifanc categori 3 nad oes ganddo gynllun llwybr eisoes, ddim hwyrach na 3 mis ar ôl y dyddiad y daeth y person ifanc yn berson ifanc categori 3, ac
(c)yn achos person ifanc categori 4, ddim hwyrach na 3 mis ar ôl y dyddiad yr hysbysir yr awdurdod lleol cyfrifol fod y person ifanc categori 4 yn dilyn, neu’n dymuno dilyn, rhaglen o addysg neu hyfforddiant.
(3) Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau y cedwir cofnod ysgrifenedig o’r canlynol—
(a)enwau’r personau y casglwyd eu safbwyntiau at y diben o gynnal yr asesiad,
(b)yr wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr asesiad,
(c)y trafodaethau mewn unrhyw gyfarfod a gynhaliwyd mewn cysylltiad ag unrhyw agwedd ar yr asesiad, a
(d)canlyniadau’r asesiad.
(4) Wrth gynnal asesiad o anghenion person ifanc categori 2, neu berson ifanc categori 3 nad oes ganddo gynllun llwybr eisoes, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol—
(a)cymryd i ystyriaeth—
(i)a yw’r person ifanc dan gadwad,
(ii)pan fo’r person ifanc yn berson ifanc categori 3, pa un a oes ganddo drefniant byw ôl-18 ai peidio,
(iii)iechyd a datblygiad y person ifanc,
(iv)anghenion y person ifanc o ran addysg, hyfforddiant a chyflogaeth,
(v)y cymorth sydd ar gael i’r person ifanc oddi wrth aelodau o’i deulu a phersonau eraill,
(vi)anghenion ariannol y person ifanc,
(vii)i ba raddau mae’r person ifanc yn meddu’r sgiliau ymarferol a’r sgiliau eraill sydd eu hangen ar gyfer byw’n annibynnol, ac
(viii)anghenion y person ifanc o ran cyngor a chymorth arall; a
(b)ac eithrio pan nad yw’n rhesymol ymarferol, neu pan nad yw’n briodol gwneud hynny, canfod a chymryd i ystyriaeth safbwyntiau’r canlynol—
(i)rhieni’r person ifanc,
(ii)unrhyw berson nad yw’n rhiant y person ifanc ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano,
(iii)unrhyw berson sy’n gofalu o ddydd i ddydd am y person ifanc, neu’n darparu llety iddo,
(iv)unrhyw ysgol, coleg neu sefydliad yn y sector addysg bellach a fynychir gan y person ifanc,
(v)yr awdurdod lleol, neu’r awdurdod lleol yn Lloegr ar gyfer yr ardal y mae’r person ifanc yn byw ynddi os yw’n wahanol i’r awdurdod lleol cyfrifol,
(vi)unrhyw berson sy’n darparu gofal iechyd neu driniaeth i’r person ifanc,
(vii)pan fo’r person ifanc dan gadwad, llywodraethwr, cyfarwyddwr neu reolwr cofrestredig (yn ôl fel y digwydd), y carchar neu’r llety cadw ieuenctid,
(viii)pan fo’r person ifanc yn berson ifanc categori 3 sydd â threfniant byw ôl-18, cyn-riant maeth y person ifanc,
(ix)unrhyw berson sy’n darparu cymorth ar ffurf cynrychiolaeth i’r person ifanc o dan adran 178 o’r Ddeddf (2),
(x)cynghorydd personol y person ifanc, ac
(xi)unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod lleol cyfrifol neu’r person ifanc y gallai ei safbwyntiau fod yn berthnasol;
(c)pan fo’r person ifanc categori 2—
(i)yn ddioddefwr, neu pan fo rheswm dros gredu y gallai fod yn ddioddefwr, masnachu mewn bodau dynol yn yr ystyr a roddir i “trafficking in human beings” yng Nghonfensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn Erbyn Masnachu mewn Bodau Dynol(3),
(ii)yn blentyn ar ei ben ei hunan yn ceisio lloches, yn yr ystyr a roddir i “unaccompanied asylum-seeking child” yn y Rheolau Mewnfudo, sydd wedi gwneud cais am loches, neu wedi dynodi wrth yr awdurdod lleol cyfrifol ei fwriad i wneud cais am loches, a heb gael caniatâd amhenodol i aros,
cymryd i ystyriaeth anghenion y person ifanc o ganlyniad i’r statws hwnnw.
(5) Wrth gynnal asesiad o anghenion person ifanc categori 3 sydd â threfniant byw ôl-18, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ystyried a yw’r trefniant hwnnw yn bellach yn gyson â llesiant y person ifanc ac a ddylid parhau’r trefniant.
(6) Wrth gynnal asesiad o anghenion person ifanc categori 4, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol—
(a)cymryd i ystyriaeth—
(i)pa un a yw’r person ifanc dan gadwad ai peidio,
(ii)anghenion y person ifanc categori 4 am addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, a
(iii)unrhyw ystyriaethau eraill y tybia’r awdurdod lleol cyfrifol yn berthnasol, a
(b)ac eithrio pan nad yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, cymryd i ystyriaeth safbwyntiau’r canlynol—
(i)y cynghorydd personol,
(ii)pan fo’r person ifanc categori 4 dan gadwad, llywodraethwr, cyfarwyddwr neu reolwr cofrestredig (yn ôl fel y digwydd), y carchar neu’r llety cadw ieuenctid, a
(iii)unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod lleol cyfrifol neu’r person ifanc categori 4 y gallai ei safbwyntiau fod yn berthnasol.
(7) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “Rheolau Mewnfudo” (“Immigration Rules”) yw’r rheolau a osodwyd ar y pryd gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel y crybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (4); ac
mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institution within the further education sector” yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(5).
6.—(1) Rhaid paratoi cynllun llwybr yn unol ag adran 107(3) neu (4) o’r Ddeddf cyn gynted ag y bo modd ar ôl cwblhau’r asesiad o anghenion y cyfeirir ato yn rheoliad 5.
(2) Rhaid i’r cynllun llwybr gynnwys, yn benodol—
(a)yn achos cynllun a baratoir ar gyfer person ifanc categori 2 neu gategori 3, y materion y cyfeirir atynt yn Atodlen 1,
(b)yn achos cynllun a baratoir ar gyfer person ifanc categori 2 neu 3 sydd dan gadwad, y materion y cyfeirir atynt yn Atodlen 2,
(c)yn achos cynllun a baratoir ar gyfer person ifanc categori 4, y materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1 i 4 o Atodlen 1, a
(d)yn achos cynllun a baratoir ar gyfer person ifanc categori 4 sydd dan gadwad, y materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1 i 4 o Atodlen 2.
(3) Rhaid i’r cynllun llwybr, mewn perthynas â phob un o’r materion a gynhwysir ynddo yn rhinwedd paragraff (2), nodi’r canlynol—
(a)y modd y mae’r awdurdod lleol cyfrifol neu staff carchar neu lety cadw ieuenctid (pan fo’n berthnasol) yn bwriadu diwallu anghenion y person ifanc y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef, a
(b)erbyn pa ddyddiad, a chan bwy, y cymerir unrhyw gamau sy’n ofynnol er mwyn cyflawni unrhyw agwedd ar y cynllun llwybr.
(4) Rhaid i’r cynllun llwybr, unrhyw adolygiad o’r cynllun ac unrhyw newidiadau ynddo o ganlyniad i’r cyfryw adolygiad gael eu cofnodi mewn ysgrifen.
7.—(1) Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol adolygu cynllun llwybr pob person ifanc categori 2, categori 3 a chategori 4 yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol drefnu adolygiad—
(a)os gofynnir iddo wneud hynny gan y person ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4,
(b)os yw’r awdurdod lleol cyfrifol, neu’r cynghorydd personol, yn tybio bod adolygiad yn angenrheidiol,
(c)os yw’r person ifanc dan gadwad ac, fel arall, na fyddai adolygiad yn digwydd cyn bo’r person ifanc yn peidio â bod dan gadwad, a
(d)beth bynnag fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis.
(3) Os yw’r awdurdod lleol cyfrifol yn darparu llety i’r person ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4 yn unol ag adrannau 109, 110 neu 112 o’r Ddeddf, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol hefyd—
(a)trefnu adolygiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y darparwyd llety gyntaf, a
(b)ar ôl cwblhau adolygiad o dan is-baragraff (a), penderfynu fesul pa ysbaid (o ddim mwy na 3 mis) y cynhelir adolygiadau dilynol.
Rhaid i unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf gydymffurfio â’r swyddogaethau cyffredinol a gynhwysir yn adrannau 5 i 7 o’r Ddeddf, sef yn benodol adrannau 5(a), 6(2) a (4) a 7(2).
Adran 178 o’r Ddeddf – cynhorthwy i bersonau sy’n cyflwyno sylwadau.
CETS Rhif 197.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: