xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4Amrywiol

Cymorth a llety

9.—(1At ddibenion adran 109(1)(c) o’r Ddeddf, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ddarparu cymorth i ddiwallu anghenion y person ifanc categori 2 mewn perthynas ag addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, fel y darperir ar ei gyfer yng nghynllun llwybr y person ifanc hwnnw.

(2At ddibenion adran 109(3), ystyr “llety addas” (“suitable accommodation”) yw llety—

(a)sydd, i’r graddau sy’n rhesymol ymarferol, yn addas ar gyfer y person ifanc categori 2 yng ngoleuni ei anghenion, gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd ac anghenion sy’n tarddu o anabledd(1),

(b)y mae’r awdurdod lleol cyfrifol wedi ei fodloni mewn cysylltiad ag ef, ynglŷn â chymeriad ac addasrwydd y landlord neu ddarparwr arall, a

(c)y mae’r awdurdod lleol cyfrifol, i’r graddau sy’n rhesymol ymarferol, wedi cymryd i ystyriaeth mewn cysylltiad ag ef—

(i)dymuniadau a theimladau, a

(ii)anghenion addysg, hyfforddiant a chyflogaeth,

y person ifanc categori 2.

(3Wrth benderfynu, at ddibenion paragraff (2)(a), pa un a yw’r llety yn addas ai peidio ar gyfer person ifanc categori 2, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol roi sylw i’r materion a nodir yn Atodlen 3.

(4At ddibenion adrannau 110(8), 112(4), 114(7) a 115(8) o’r Ddeddf—

mae i “addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education” yn Neddf Addysg 1996(2) ac eithrio mai addysg bellach a ddarperir ar sail breswyl amser llawn yn unig sy’n gynwysedig at ddibenion y rheoliad hwn; ac

ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir ar ffurf cwrs o ddisgrifiad y cyfeirir ato mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(3).

Cofnodion

10.—(1Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol sefydlu a chynnal cofnod achos ysgrifenedig ar gyfer pob person ifanc categori 2, categori 3, a chategori 4 (“y cofnod achos”) (“the case record”).

(2Rhaid i’r cofnod achos gynnwys y cofnodion ysgrifenedig sy’n ofynnol yn rhinwedd rheoliad 4(3) a rheoliad 5(3), a’r cofnodion canlynol (“cofnodion perthnasol”) (“relevant records”)—

(a)unrhyw asesiadau o anghenion,

(b)unrhyw gynllun llwybr,

(c)unrhyw adolygiad o’r cynllun llwybr.

(3Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol gadw’r cofnodion perthnasol tan 75fed pen-blwydd y person ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4 y mae’r cofnodion perthnasol yn ymwneud ag ef, neu, os bydd farw’r person ifanc cyn cyrraedd 18 oed, am gyfnod o 15 mlynedd sy’n dechrau gyda dyddiad y farwolaeth.

(4Gellir cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (1) naill ai drwy gadw’r cofnodion ysgrifenedig gwreiddiol neu gopïau ohonynt neu drwy gadw’r cyfan neu ran o’r wybodaeth a gynhwysir ynddynt mewn ffurf hygyrch arall, megis cofnod cyfrifiadurol.

(5Rhaid cadw cofnodion perthnasol yn ddiogel, ac ni chaniateir eu datgelu i unrhyw berson ac eithrio yn unol ag—

(a)unrhyw ddarpariaeth mewn, neu a wneir o dan, neu yn rhinwedd, statud yr awdurdodir mynediad oddi tani i gofnodion o’r fath, neu

(b)unrhyw orchymyn llys sy’n awdurdodi mynediad i gofnodion o’r fath.

Dirymu Rheoliadau

11.  Mae Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001(4) wedi eu dirymu.

(1)

Mae adran 3(5) yn darparu bod person yn “anabl” os oes ganddo anabledd yn yr ystyr a roddir i “disability ” at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15).