xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 6
1. Enw a chyfeiriad y carchar neu’r llety cadw ieuenctid.
2. Lefel a natur y cyswllt a’r cymorth personol sydd i’w ddarparu i’r person ifanc gan yr awdurdod lleol cyfrifol a chan staff y carchar neu’r llety cadw ieuenctid.
3. Y trefniadau a wnaed gan staff y carchar neu’r llety cadw ieuenctid ar gyfer addysg a hyfforddiant y person ifanc, gan gynnwys enw a chyfeiriad unrhyw sefydliad addysgol neu sefydliad hyfforddi y bu’r person ifanc yn ei fynychu, neu unrhyw berson arall oedd yn darparu addysg neu hyfforddiant i’r person ifanc yn union cyn ei roi dan gadwad.
4. Manylion y modd y diwellir anghenion y person ifanc pan fydd yn peidio â bod dan gadwad, sef yn benodol—
(a)pa un a ddarperir llety neu gymorth arall ai peidio i’r person ifanc gan yr awdurdod lleol cyfrifol, awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr, a
(b)sut y bydd yr awdurdod lleol cyfrifol yn cynorthwyo’r person ifanc mewn perthynas ag—
(i)addysg neu hyfforddiant, neu
(ii)cyflogaeth neu weithgaredd pwrpasol arall neu alwedigaeth.
5. Trefniadau a wnaed gan staff y carchar neu’r llety cadw ieuenctid i gynorthwyo’r person ifanc i ddatblygu’r sgiliau ymarferol neu sgiliau eraill sy’n angenrheidiol er mwyn i’r person ifanc fyw yn annibynnol.
6. Manylion am anghenion iechyd y person ifanc (gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd meddwl) a’r trefniadau a wnaed gan staff y carchar neu’r llety cadw ieuenctid i’w diwallu.
7. Y trefniadau a wnaed a’r cymorth sydd i’w ddarparu i alluogi’r person ifanc i ddatblygu a chynnal perthnasau teuluol a chymdeithasol priodol.
8. Manylion am hanes personol, argyhoeddiad crefyddol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol a tharddiad hiliol y person ifanc a’r trefniadau a wnaed gan staff y carchar neu’r llety cadw ieuenctid ar gyfer diwallu ei anghenion crefyddol, diwylliannol ac ieithyddol.