- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) At ddibenion adran 104(6)(a) o’r Ddeddf, mae plant sy’n dod o fewn paragraff (2) yn gategori ychwanegol o bersonau ifanc categori 2.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae plentyn yn dod o fewn y paragraff hwn—
(a)os yw’r plentyn yn 16 neu 17 oed,
(b)os nad yw’r plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal(1), ac
(c)pan gyrhaeddodd 16 oed, roedd y plentyn dan gadwad neu mewn ysbyty, ac yn union cyn ei roi dan gadwad neu ei dderbyn i ysbyty, roedd wedi bod yn derbyn gofal gan awdurdod lleol am gyfnod neu gyfnodau yr oedd eu cyfanswm yn 13 wythnos o leiaf a’r cyfnod hwnnw wedi dechrau ar ôl i’r plentyn gyrraedd 14 oed(2).
(3) Wrth gyfrifo’r cyfnod o 13 wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan oedd y plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yng nghwrs cyfres o leoliadau byrdymor a drefnwyd ymlaen llaw, nad oedd yr un ohonynt yn hwy na 4 wythnos, a phan oedd y plentyn ar ddiwedd pob lleoliad o’r fath yn dychwelyd i ofal ei riant neu berson nad oedd yn rhiant y plentyn ond a oedd â chyfrifoldeb rhiant amdano.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid peidio â thrin plentyn fel person ifanc categori 2, os bu’n byw am gyfnod di-dor o chwe mis neu ragor (pa un a gychwynnodd y cyfnod hwnnw cyn ynteu ar ôl iddo beidio â derbyn gofal) gydag—
(a)ei riant,
(b)rhywun nad yw’n rhiant iddo ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano, neu
(c)os oedd y plentyn mewn gofal a gorchymyn trefniadau plentyn mewn grym yn union cyn gwneud y gorchymyn gofal, person a enwyd yn y gorchymyn trefniadau plentyn fel y person yr oedd y plentyn i fyw gydag ef,
hyd yn oed os yw’r plentyn yn dod o fewn y diffiniad o berson ifanc categori 2 yn adran 104(2) o’r Ddeddf.
(5) Pan fo’r trefniadau byw a ddisgrifir ym mharagraff (4) yn diffygio, a’r plentyn yn peidio â byw gyda’r person dan sylw, rhaid trin y plentyn fel person ifanc categori 2.
(6) At ddibenion paragraff (4), gorchymyn trefniadau plentyn yw gorchymyn a gyfansoddir o, neu sy’n cynnwys, trefniadau mewn perthynas ag un neu’r ddau o’r canlynol—
(a)gyda phwy y bydd y plentyn yn byw, a
(b)pa bryd y bydd y plentyn yn byw gydag unrhyw berson.
(7) At ddibenion y rheoliad hwn—
mae i “gorchymyn trefniadau plentyn” yr ystyr a roddir i “child arrangements order” yn adran 8(1) o Ddeddf Plant 1989(3); ac
mae i “ysbyty” yr ystyr a roddir i “hospital” yn Neddf Iechyd Meddwl 1983(4)
Ar gyfer ystyr “gorchymyn gofal” gweler adran 197(3) o’r Ddeddf.
Ar gyfer ystyr “derbyn gofal” gweler adran 74 o’r Ddeddf (plentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol).
1989 p. 42. Diwygiwyd adran 8(1) gan adran 12 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: