Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2015 a deuant i rym ar 23 Tchwedd 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i achosion gerbron tribiwnlysoedd eiddo preswyl ar gyfer penderfynu ceisiadau(1) mewn cysylltiad â mangreoedd yng Nghymru.
(1)
Diffinnir y term “ceisiadau” yn rheoliad 2 o Reoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012, fel y’u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn.