- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10.—(1) Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i’r oedolyn dalu swm tuag at gostau gweinyddol yr awdurdod lleol ar yr amod bod yr awdurdod lleol, cyn ymrwymo i’r cytundeb ar daliad gohiriedig, yn hysbysu’r oedolyn ei fod yn bwriadu gwneud hynny, ac yn cydymffurfio ag is-baragraffau (a) i (c) o baragraff (3).
(2) Caniateir trin y swm y mae’r awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i’r oedolyn ei dalu tuag at ei gostau gweinyddol yn yr un ffordd â swm gofynnol yr oedolyn, oni fydd yr oedolyn yn gofyn am gael talu’r swm hwnnw ar wahân.
(3) Ond rhaid i’r awdurdod lleol—
(a)cyn ymrwymo i’r cytundeb ar daliad gohiriedig, roi i’r oedolyn amcangyfrif o’r swm y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i’r oedolyn ei dalu tuag at gostau gweinyddol yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â gwneud y cytundeb ar daliad gohiriedig a chofrestru unrhyw arwystl ar y gofrestr tir neu ar y gofrestr pridiannau tir;
(b)cyn ymrwymo i’r cytundeb ar daliad gohiriedig, roi i’r oedolyn amcan o’r swm y bydd yn ofynnol i’r oedolyn ei dalu tuag at gostau gweinyddol yr awdurdod lleol yn ystod y cyfnod pan yw’r cytundeb ar daliad gohiriedig mewn grym a gwybodaeth i alluogi’r oedolyn i ganfod unrhyw newidiadau yn swm taliadau o’r fath;
(c)cyn gofyn am daliad tuag at gostau gweinyddol yr awdurdod lleol, neu drin swm taliad o’r fath yn yr un ffordd â’r swm gofynnol, ddarparu datganiad i’r oedolyn sy’n nodi swm y taliad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: