- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Mae’n ofynnol i awdurdod lleol(1) ymrwymo i gytundeb ar daliad gohiriedig gydag oedolyn—
(a)os yw paragraff (2) yn gymwys i’r oedolyn;
(b)os yw’r amod yn rheoliad 4 wedi ei fodloni; ac
(c)os yw’r oedolyn yn cytuno i’r holl delerau ac amodau sydd wedi eu cynnwys yn y cytundeb ar daliad gohiriedig yn unol â rheoliad 11.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os yw anghenion yr oedolyn am ofal a chymorth yn cael eu diwallu (neu os ydynt yn mynd i gael eu diwallu) o dan adran 35 neu adran 36(1) o’r Ddeddf a bod y cynllun gofal a chymorth ar gyfer yr oedolyn yn pennu bod yr awdurdod lleol yn mynd i ddiwallu anghenion yr oedolyn drwy ddarparu llety mewn cartref gofal(2);
(b)os yw’n ofynnol (neu os yw’n mynd i fod yn ofynnol) i’r oedolyn dalu ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf;
(c)os yw’r awdurdod lleol wedi cynnal asesiad ariannol o dan adran 63 o’r Ddeddf;
(d)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan yr oedolyn fuddiant mewn eiddo y mae’r oedolyn yn ei feddiannu fel ei gartref neu yr arferai’r oedolyn ei feddiannu fel ei gartref(3), ac—
(i)nad yw gwerth y buddiant hwnnw wedi ei ddiystyru at ddibenion cyfrifo swm cyfalaf yr oedolyn yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 64 o’r Ddeddf(4), a
(ii)nad yw cyfalaf yr oedolyn, llai gwerth y buddiant hwnnw, yn fwy na’r terfyn cyfalaf; ac
(e)os yw incwm asesedig wythnosol yr oedolyn yn annigonol i dalu’r swm llawn sy’n ddyledus gan yr oedolyn o dan adran 59 o’r Ddeddf am y ddarpariaeth o ofal a chymorth mewn cartref gofal ac unrhyw swm y mae’n ofynnol i’r oedolyn ei dalu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 57(2)(5) o’r Ddeddf.
Gweler adran 197(1) o’r Ddeddf o ran ystyr “awdurdod lleol”; mae’r diffiniad yn adran 197(1) wedi ei gyfyngu i awdurdodau lleol yng Nghymru.
Gweler adran 197(1) o’r Ddeddf am ystyr “cartref gofal”.
Gweler adran 68(10) o’r Ddeddf sy’n darparu bod cyfeiriad at gartref person yn gyfeiriad at yr eiddo y mae’r person yn ei feddiannu fel ei unig neu brif breswylfa, a bod cyfeiriad at fuddiant person mewn eiddo yn gyfeiriad at fuddiant cyfreithiol neu lesiannol y person yn yr eiddo hwnnw.
Gweler Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo cyfalaf.
Mae adran 57(2) o’r Ddeddf yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru sy’n darparu ar gyfer talu costau ychwanegol pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol (pan fo costau’r llety hwnnw yn fwy na’r swm y byddai’r awdurdod lleol yn disgwyl mynd iddo fel arfer wrth ddarparu neu drefnu i ddarparu llety i ddiwallu anghenion y person hwnnw).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: