- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Os yw incwm asesedig wythnosol yr oedolyn, mewn unrhyw wythnos pan fo’r cytundeb ar daliad gohiriedig mewn grym, yn fwy na swm y warant isafswm briodol sy’n gymwys yn achos yr oedolyn, caniateir i’r awdurdod lleol beidio â gohirio swm sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol o dan adran 59 o’r Ddeddf ac unrhyw swm y mae’n ofynnol i’r oedolyn ei dalu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 57(2) o’r Ddeddf ar gyfer diwallu anghenion yr oedolyn am yr wythnos honno drwy ddarparu llety mewn cartref gofal.
(2) Ond ni chaniateir i’r swm y caiff yr awdurdod lleol, o dan y rheoliad hwn, benderfynu peidio â’i ohirio mewn cysylltiad â’r wythnos honno fod yn fwy na’r gwahaniaeth rhwng incwm asesedig yr oedolyn yn yr wythnos honno a swm y warant isafswm briodol.
(3) Pan fo’r awdurdod lleol yn penderfynu peidio â gohirio swm o dan baragraff (1), caiff gynnwys teler yn y cytundeb ar daliad gohiriedig sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r oedolyn dalu neu sicrhau y telir y swm sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol.
(4) Ym mharagraff (3) y swm sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol yw’r swm y mae’r awdurdod lleol, yn unol â’r rheoliad hwn, yn penderfynu peidio â’i ohirio.
(5) Rhaid cyfrifo swm incwm asesedig wythnosol yr oedolyn yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 64 o’r Ddeddf.
(6) Ond nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ohirio unrhyw swm sy’n ddyledus iddo o dan adran 59 o’r Ddeddf neu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 57(2) o’r Ddeddf os caniateir i’r awdurdod lleol, o dan baragraff (3), neu yn unol â thelerau’r cytundeb ar daliad gohiriedig, roi’r gorau i ohirio’r swm hwnnw.
(7) At ddibenion paragraffau (1) a (2), mae “gwarant isafswm briodol” i gael ei dehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “appropriate minimum guarantee” yn adran 2(3) o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: