Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015

RHAN 4Trin a chyfrifo cyfalaf

Cyfrifo cyfalaf

18.—(1Cyfalaf A sydd i’w gymryd i ystyriaeth mewn asesiad ariannol, yn ddarostyngedig i baragraff (2), yw’r cyfan o gyfalaf A fel y’i cyfrifir yn unol â’r Rhan hon ac unrhyw incwm a drinnir fel cyfalaf o dan reoliad 19.

(2Wrth gyfrifo cyfalaf person o dan baragraff (1), rhaid diystyru unrhyw gyfalaf, pan fo’n gymwys, a bennir yn Atodlen 2.

Incwm a drinnir fel cyfalaf

19.—(1Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw swm ar ffurf ad-daliad o dreth incwm a ddidynnwyd o elw neu enillion trethadwy i dreth incwm o dan Atodlen D neu E i Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1998(1).

(2Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw dâl gwyliau nad yw’n enillion.

(3Ac eithrio incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraffau 1, 4, 8, 14, 22 a 24 o Atodlen 2, rhaid trin fel cyfalaf unrhyw incwm A sy’n deillio o gyfalaf, ond hynny yn unig ar y dyddiad pan fo taliad arferol ohono yn ddyledus i A.

(4Pan fo A yn enillydd cyflogedig, rhaid trin fel cyfalaf unrhyw flaendal o enillion neu unrhyw fenthyciad a roddir gan gyflogwr A.

(5Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw daliad elusennol neu wirfoddol nad yw’n cael ei dalu neu’n daladwy ar adegau rheolaidd, ac eithrio taliad a wneir o dan y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, Ymddiriedolaeth Macfarlane, Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig), Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) (Rhif 2), y Gronfa Byw’n Annibynnol neu Gynllun Byw’n Annibynnol Cymru(2).

(6Rhaid trin fel cyfalaf A unrhyw daliad gwirfoddol o incwm a wneir i A gan drydydd parti at y diben o gynorthwyo A i dalu unrhyw ôl-ddyledion o’r taliadau, cyfraniadau neu ad-daliadau y gofynnodd yr awdurdod lleol amdanynt gan y person am lety a ddarparwyd neu a sicrhawyd yn unol â’r Ddeddf.

(7Yn y rheoliad hwn, mae i “y Gronfa”, “Ymddiriedolaeth Eileen”, “Ymddiriedolaeth Macfarlane”, “Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig)”, “Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) (Rhif 2)” ac “y Gronfa Byw’n Annibynnol” yr ystyron, yn eu trefn, a roddir i “the Fund”, “the Eileen Trust”, “the Macfarlane Trust”, “the Macfarlane (Special Payments) Trust”, “the Macfarlane (Special Payments) (No. 2) Trust” a “the Independent Living Fund” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm.

Cyfrifo cyfalaf yn y Deyrnas Unedig

20.  Rhaid cyfrifo’r cyfalaf a feddir gan A yn y Deyrnas Unedig yn ôl naill ai ei werth cyfredol ar y farchnad neu ei werth ildio (pa un bynnag yw’r uchaf), llai—

(a)os byddai treuliau a briodolid i’r gwerthiant, 10%; a

(b)swm unrhyw lyffethair a sicrhawyd ar y cyfalaf.

Cyfrifo cyfalaf y tu allan i’r Deyrnas Unedig

21.  Rhaid cyfrifo’r cyfalaf a feddir gan A y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn unol â’r dull a nodir yn rheoliad 50 o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (cyfrifo cyfalaf y tu allan i’r Deyrnas Unedig).

Cyfalaf tybiannol

22.—(1Rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw gyfalaf y mae A wedi amddifadu ei hunan ohono at y diben o leihau’r swm y mae A yn atebol i’w dalu, ei ad-dalu neu ei gyfrannu tuag at gost gofal a chymorth i ddiwallu ei anghenion, ac eithrio—

(a)pan fo’r cyfalaf hwnnw’n deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw anaf personol a’r cyfalaf wedi ei osod ar ymddiried er budd A;

(b)i’r graddau y mae’r cyfalaf a drinnir fel pe bai A yn ei feddu wedi ei leihau yn unol â rheoliad 23 (y rheol cyfalaf tybiannol lleihaol); neu

(c)unrhyw swm y cyfeirir ato ym mharagraff 44(1) neu 45(a) o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (diystyru digolledu am anafiadau personol neu farwolaeth, a weinyddir gan y Llys).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caniateir trin A fel pe bai’n meddu unrhyw daliad o gyfalaf y byddid yn ei drin fel cyfalaf a feddir gan hawlydd cymhorthdal incwm o dan reoliad 51(2) neu (3) o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (cyfalaf tybiannol).

(3At ddibenion paragraff (2), mae rheoliad 51(2)(c) o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gymwys fel pe rhoddid cyfeiriad at Atodlen 2 (cyfrifo cyfalaf) yn lle’r cyfeiriad at Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm.

(4Pan drinnir A fel pe bai’n meddu cyfalaf o dan baragraff (1) neu (2), mae darpariaethau’r Rhan hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm y cyfalaf fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol a feddir gan A.

Y rheol cyfalaf tybiannol lleihaol

23.—(1Pan drinnir A fel pe bai’n meddu cyfalaf o dan reoliad 22 (“cyfalaf tybiannol”), yna, am bob wythnos neu ran o wythnos y dyfarnodd yr awdurdod lleol fod A yn atebol i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau tuag at gost ei ofal a chymorth ar gyfradd uwch na’r gyfradd y byddid wedi asesu A yn atebol i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau pe na bai gan A gyfalaf tybiannol, rhaid lleihau swm cyfalaf tybiannol A gan ddefnyddio’r dull a nodir ym mharagraff (2).

(2Rhaid i’r awdurdod lleol leihau swm cyfalaf tybiannol A o’r gwahaniaeth rhwng—

(a)y gyfradd uchaf y cyfeirir ati ym mharagraff (1); a

(b)y gyfradd y byddai A, yn unol â hi, wedi ei asesu’n atebol i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau tuag at gost y cyfryw ofal a chymorth am yr wythnos honno neu’r rhan honno o wythnos, pe bai A wedi ei asesu yn rhywun sy’n meddu dim cyfalaf tybiannol.

Cyfalaf a ddelir ar y cyd

24.—(1Pan fo gan A ac un neu ragor o bersonau eraill hawl lesiannol mewn meddiant i unrhyw ased cyfalaf ac eithrio buddiant mewn tir—

(a)onid yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid trin pob person fel pe bai gan bob un ohonynt hawl mewn meddiant i gyfran gyfartal o’r buddiant llesiannol cyfan; a

(b)rhaid trin yr ased hwnnw fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan A hawl lesiannol mewn meddiant i gyfran sy’n llai neu, yn ôl y digwydd, yn fwy, na chyfran gyfartal o’r ystad lesiannol gyfan.

(3Pan fo paragraff (2) yn gymwys, cyfran A o’r buddiant llesiannol cyfan fydd y gyfran wirioneddol (fel y’i penderfynir gan yr awdurdod lleol) a rhaid ei thrin fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol.

(2)

Bydd cyn-dderbynwyr taliadau o’r Gronfa Byw’n Annibynnol (sydd wedi cau bellach) yn cael taliadau o Gynllun Byw’n Annibynnol Cymru a hynny’n effeithiol o fis Gorffennaf 2015.