xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1. Unrhyw swm a delir fel treth ar incwm a gymerir i ystyriaeth o dan reoliad 13 (cyfrifo incwm).
2.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fo gan A anghenion am ofal a chymorth ac eithrio darpariaeth o lety mewn cartref gofal, neu pan fo A yn breswylydd dros dro, unrhyw gostau cysylltiedig â thai y mae A’n atebol am eu talu mewn cysylltiad ag unig neu brif gartref A.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r graddau fod y costau cysylltiedig â thai y mae A yn atebol am eu talu yn daliad, cyfraniad neu ad-daliad neu’n swm a ddiystyrir o dan baragraff 3.
(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “costau cysylltiedig â thai” (“housing-related costs”) yw unrhyw ad-daliadau morgais, taliadau o rent neu rent tir, treth gyngor neu ffioedd gwasanaeth (ac eithrio ffioedd gwasanaeth sy’n anghymwys o dan Atodlen 1 i Reoliadau Budd-dal Tai 2006 (ffioedd anghymwys)).
3.—(1) Unrhyw daliad y byddid yn ei ddiystyru o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (budd-dal tai).
(2) Unrhyw daliad o gymhorthdal incwm tuag at gostau tai a ddyfernir yn unol ag Atodlen 3 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (costau tai) neu unrhyw swm y tybia’r awdurdod lleol a ddyfernid fel taliad tuag at gostau tai pe bai A yn cael cymhorthdal incwm.
(3) Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 46 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (lleihau atebolrwydd am dreth gyngor).
4. Unrhyw daliadau uniongyrchol a geir gan A neu ar ran A yn unol ag adrannau 50 neu 52 o’r Ddeddf.
5. Unrhyw daliad mewn cysylltiad ag unrhyw dreuliau a dynnwyd gan A, pan fo A—
(a)wedi ei gymryd ymlaen gan gorff elusennol neu wirfoddol; neu
(b)yn wirfoddolwr,
os nad yw A yn cael unrhyw gydnabyddiaeth neu elw o’i waith.
6. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 3 neu 4A o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (treuliau enillwyr cyflogedig a thâl salwch statudol yng Ngogledd Iwerddon).
7. Yr elfen symudedd mewn unrhyw lwfans byw i’r anabl neu’r elfen symudedd mewn taliad annibyniaeth bersonol.
8. Unrhyw daliad annibyniaeth y lluoedd arfog.
9. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 8 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (atodiad symudedd).
10. Os yw A yn breswylydd dros dro—
(a)unrhyw lwfans gweini;
(b)yr elfen gofal mewn unrhyw lwfans byw i’r anabl; neu
(c)yr elfen byw dyddiol mewn unrhyw daliad annibyniaeth bersonol.
11. Unrhyw daliad consesiynol a wnaed i ddigolledu am fethiant i dalu—
(a)unrhyw daliad a bennir ym mharagraff 7 neu 10; neu
(b)unrhyw gymhorthdal incwm.
12. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 10 neu 11 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (taliadau i dderbynwyr medalau a dyfarniadau addysgol).
13. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 13 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (cyfranogwyr mewn cynlluniau hyfforddi).
14.—(1) Ac eithrio pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, ac yn ddarostyngedig i baragraffau 45 a 46, unrhyw daliad perthnasol a wneir neu sy’n daladwy ar adegau rheolaidd ac eithrio unrhyw daliad sydd i’w ddiystyru o dan baragraff 30.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff 46, unrhyw daliad perthnasol a wneir neu sy’n daladwy ar adegau rheolaidd a fwriedir ac a ddefnyddir ar gyfer unrhyw eitem nas cymerwyd i ystyriaeth wrth asesu cost resymol diwallu neu sicrhau angen A am ofal a chymorth.
(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “taliad perthnasol” (“relevant payment”) yw—
(a)taliad elusennol;
(b)taliad gwirfoddol;
(c)taliad (nad yw’n dod o fewn paragraff (a) neu (b)) oddi wrth ymddiriedolaeth y mae ei chronfeydd yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw anaf personol i A;
(d)taliad o dan flwydd-dal a brynwyd—
(i)yn unol ag unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i A; neu
(ii)o gronfeydd sy’n deillio o daliad a wnaed,
o ganlyniad i unrhyw anaf personol i A;
(e)taliad (nad yw’n dod o fewn paragraffau (a) i (d)) a gafwyd yn rhinwedd unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i A o ganlyniad i unrhyw anaf personol i A.
15.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3)—
(a)pan nad yw A yn preswylio gyda’i briod neu ei bartner sifil; a
(b)o leiaf 50% o unrhyw bensiwn galwedigaethol A, neu o unrhyw incwm o gynllun pensiwn personol A, yn cael ei dalu i’w briod neu mewn cysylltiad â’i briod ar gyfer cynnal y priod hwnnw, neu i’w bartner sifil ar gyfer cynnal y partner sifil hwnnw,
swm sy’n hafal i 50% o’r pensiwn, pensiynau neu incwm sydd dan sylw.
(2) Pan fo gan A hawl i bensiynau neu incwm y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) o fwy nag un ffynhonnell, rhaid agregu’r holl bensiynau ac incwm y mae hawl gan A i’w cael at ddibenion yr is-baragraff hwnnw.
(3) Nid yw’r paragraff hwn yn cael effaith mewn cysylltiad â’r rhan o unrhyw bensiwn neu incwm y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) y mae hawl gyfreithiol gan briod neu bartner sifil A i’w chael, pa un a yw hynny o dan orchymyn llys ai peidio.
16. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 16 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (pensiynau penodedig) ac eithrio paragraff 16(cc), ond fel pe bai’r cyfeiriad ym mharagraff 16 o’r Atodlen honno at baragraffau 36 a 37 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gyfeiriad at baragraff 46 o’r Atodlen hon ac fel pe bai, mewn perthynas â pharagraff 16(a) o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm, y cyfeiriad yng ngeiriau agoriadol paragraff 16 o’r Atodlen honno at £10 yn gyfeiriad at £25 ac fel bai’r cyfeiriad ym mharagraff 16(a) at baragraff 8 neu 9 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gyfeiriad at baragraff 9 neu 10 o’r Atodlen hon.
17. Unrhyw daliad incwm gwarantedig y cyfeirir ato yn erthygl 15(1)(c) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011.
18. Yn ddarostyngedig i baragraff 46, £10 o unrhyw daliad incwm gwarantedig goroeswr y cyfeirir ato yn erthygl 29(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011 ac, os yw swm y taliad hwnnw wedi ei ostwng i lai na £10 gan bensiwn sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) o’r Gorchymyn hwnnw, cymaint o’r pensiwn hwnnw na fyddai, wedi ei agregu â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig goroeswr a ddiystyrir, yn fwy na £10.
19. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraffau 17 i 20 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (blwydd-daliadau, taliadau gan drydydd partïon tuag at gostau byw, taliadau contractiol mewn cysylltiad â meddiannu annedd a thaliadau gan letywyr).
20. Unrhyw incwm mewn nwyddau neu wasanaethau.
21.—(1) Unrhyw incwm sy’n deillio o gyfalaf y mae gan A hawl lesiannol iddo, neu y trinnir A o dan reoliad 24 fel pe bai gan A hawl lesiannol iddo ond, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nid incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraff 1, 4, 8, 14 neu 22 o Atodlen 2.
(2) Unrhyw incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraff 4, 22 neu 24 o Atodlen 2, ond yn unig i’r graddau o unrhyw ad-daliadau morgais a thaliadau treth gyngor neu daliadau dŵr y mae A yn atebol i’w gwneud mewn cysylltiad â’r annedd neu’r fangre yn ystod y cyfnod pan fo’r incwm hwnnw yn cronni.
22. Unrhyw incwm a ddiystyrid o dan baragraff 23 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (incwm y tu allan i’r Deyrnas Unedig).
23. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 24 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (ffi neu gomisiwn am drosi incwm i sterling).
24.—(1) Unrhyw daliad a wneir i A mewn cysylltiad â phlentyn neu berson ifanc sy’n aelod o deulu A—
(a)yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 2(6)(b) neu 3 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
(b)yn unol â chynllun lwfans mabwysiadu a wnaed o dan adran 71 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007 (cynlluniau lwfansau mabwysiadu)(1);
(c)sydd yn daliad a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 15(1) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 15 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno (cyfraniad awdurdod lleol i gynhaliaeth plentyn pan fo plentyn yn byw gyda pherson o ganlyniad i orchymyn trefniadau plentyn)(2).
(2) Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddo, a wneir i A yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 2(6)(b) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.
25. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 26 neu 28 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (darparu llety a chynhaliaeth ar gyfer plant mewn gofal, a dyletswydd awdurdodau lleol i hyrwyddo lles plant a phwerau i roi cynhorthwy ariannol i bersonau sydd neu a fu yn eu gofal).
26. Unrhyw daliad a gafwyd o dan bolisi yswiriant a godwyd i yswirio rhag y risg o fod yn analluog i barhau ad-daliadau ar fenthyciad i gaffael neu gadw buddiant mewn annedd a feddiennir gan A fel ei brif neu unig gartref, neu ar gyfer atgyweiriadau a gwelliannau i’r cartref hwnnw, ac a ddefnyddir ar gyfer ad-daliadau o’r fath, i’r graddau nad yw’n fwy nag agregiad y canlynol—
(a)swm taladwy, a gyfrifir ar sail wythnosol, unrhyw log ar y benthyciad;
(b)swm unrhyw daliad, a gyfrifir ar sail wythnosol, sy’n daladwy ar y benthyciad ac a briodolir i ad-dalu’r cyfalaf; ac
(c)swm, a gyfrifir ar sail wythnosol, y premiwm sy’n daladwy ar y polisi hwnnw.
27. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 31 neu 31A o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (taliadau cronfa gymdeithasol a darpariaeth lles lleol).
28. Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw daliad o incwm o dan reoliad 19 (incwm a drinnir fel cyfalaf).
29. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 33 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (bonws Nadolig pensiynwr).
30. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 39 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (y Gronfa, yr Ymddiriedolaethau Macfarlane ac ymddiriedolaethau a Chronfeydd eraill a’r Gronfa Byw’n Annibynnol).
31. Unrhyw daliad a wneir o dan neu gan Gynllun Byw’n Annibynnol Cymru.
32. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraffau 40, 43 a 48 i 51 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (digollediad budd-dal tai, taliadau rheithwyr a thystion, treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd, taliadau bwyd lles, taliadau cynllun ymweliadau carchar a thaliadau cyflogaeth personau anabl).
33.—(1) Unrhyw fudd-dal plant, ac eithrio mewn amgylchiadau pan fo’r plentyn neu’r person ifanc cymwys y mae’r budd-dal plant yn daladwy mewn cysylltiad ag ef gydag A, a llety wedi ei ddarparu neu ei sicrhau ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc cymwys hwnnw yn unol â’r Ddeddf.
(2) Yn y paragraff hwn, mae i “plentyn” a “person ifanc cymwys”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “child” a “qualifying young person” yn adran 142 o Ddeddf 1992.
34. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 53 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (codiadau mewn cyfraddau budd-daliadau etc.).
35. Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraffau 54 i 56 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (pensiynau atodol etc.).
36. Unrhyw daliad a wnaed gan awdurdod lleol i A, neu ar ran A, mewn perthynas â gwasanaethau lles y talwyd grant i’r awdurdod lleol mewn cysylltiad â hwy gan Weinidogion Cymru o dan adran 93(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, pan fo A yn gymwys i gael y taliad hwnnw.
37. Unrhyw lwfans gwarcheidwad.
38. Unrhyw gredyd treth plant.
39. Unrhyw gredyd treth gwaith.
40.—(1) Pan fo A yn cael credyd cynilion fel person heb bartner a chydag incwm cymhwyso nad yw’n fwy na’r gwarant isafswm safonol—
(a)swm y credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn £5.75 neu’n llai; neu
(b)£5.75 o’r credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn fwy na £5.75.
(2) Pan fo A—
(a)heb bartner;
(b)wedi cyrraedd 65 oed; ac
(c)gydag incwm cymhwyso sy’n fwy na’r gwarant isafswm safonol,
swm o £5.75.
(3) Pan fo A yn cael credyd cynilion fel person sydd â phartner ac incwm cymhwyso nad yw’n fwy na’r gwarant isafswm safonol—
(a)swm y credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn £8.60 neu’n llai; neu
(b)£8.60 o’r credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn fwy nag £8.60.
(4) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), pan fo A—
(a)gyda phartner;
(b)wedi—
(i)cyrraedd 65 oed; neu
(ii)wedi cyrraedd oedran credyd pensiwn a phartner A wedi cyrraedd 65 oed; ac
(c)gydag incwm cymhwyso sy’n fwy na’r gwarant isafswm safonol,
swm o £8.60.
(5) Pan fo—
(a)y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (4) wedi ei ddiystyru wrth asesu incwm partner A o dan y Rheoliadau hyn; neu
(b)partner A yn derbyn credyd cynilion,
nid yw is-baragraff (4) yn gymwys i A.
(6) At ddibenion y paragraff hwn—
(a)mae gan A bartner os ystyrid bod gan A bartner at ddibenion y Rheoliadau Credyd Pensiwn;
(b)mae “incwm cymhwyso” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “qualifying income” yn rheoliad 9 o’r Rheoliadau Credyd Pensiwn, ac at ddibenion is-baragraffau (3) a (4) mae incwm cymhwyso A yn cynnwys unrhyw incwm cymhwyso sydd gan bartner A;
(c)ystyr “gwarant isafswm safonol” (“standard minimum guarantee”) yw, at ddibenion—
(i)is-baragraffau (1) a (2), y swm a ragnodir gan reoliad 6(1)(b) o’r Rheoliadau Credyd Pensiwn; a
(ii)is-baragraffau (3) a (4), y swm a ragnodir gan reoliad 6(1)(a) o’r Rheoliadau Credyd Pensiwn.
41. Unrhyw daliad i breswylydd dros dro a wneir yn lle glo consesiynol yn unol ag adran 19(1)(b) neu (c) o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994(3).
42. Unrhyw daliad a wneir i A o dan adran 63(6)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(4) (“Deddf 1968”) (lwfansau teithio a lwfansau eraill i bersonau sy’n manteisio ar hyfforddiant) at y diben o dalu costau gofal plant pan ddarperir yr hyfforddiant yn unol ag—
(a)adran 63(1)(a) o Ddeddf 1968; neu
(b)adran 63(1)(b) o Ddeddf 1968 a phan fo A yn cael ei gyflogi mewn gweithgaredd, neu’n ystyried cael ei gyflogi mewn gweithgaredd sy’n ymwneud â, neu sy’n gysylltiedig â, gwasanaeth y mae’n rhaid, neu y caniateir, ei ddarparu neu ei sicrhau fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.
43. Unrhyw daliad a wneir i A yn unol â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cymorth gwarcheidwaid arbennig)(5) pan fo A yn ddarpar warcheidwad arbennig neu’n warcheidwad arbennig.
44.—(1) Pan fo A yn fyfyriwr, unrhyw grant neu ddyfarniad arall, benthyciad myfyriwr, incwm a ddefnyddir i wneud ad-daliadau ar fenthyciad myfyriwr neu daliad arall a gafwyd gan A at ddibenion ei gwrs o astudiaeth mewn sefydliad addysgol.
(2) Yn y paragraff hwn, mae i “cwrs o astudiaeth”, “myfyriwr” a “benthyciad myfyriwr”, yn eu trefn, yr un ystyron ag a roddir i “course of study”, “student” a “student loan” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm.
1989 p. 41 (“Deddf 1989”). Diwygiwyd adran 15(1) o Ddeddf 1989 gan baragraff 10(1) o Atodlen 16 i Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p. 41). Diwygiwyd paragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf 1989 gan adran 78(3) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) a pharagraff 40(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6).
Mewnosodwyd adran 14F gan adran 115(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38).