Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015

4.—(1Gwerth unrhyw fangre—

(a)a ddiystyrid o dan baragraff 2 neu 4(b) o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (mangre a gaffaelwyd ar gyfer ei meddiannu, a mangre a feddiennir gan gyn-bartner) ond fel pe rhoddid, ym mhob darpariaeth, y geiriau “his main or only home” yn lle “his home”; neu

(b)a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol fel ei brif neu ei unig gartref gan berthynas cymwys i A, a fu’n meddiannu’r fangre fel ei brif neu ei unig gartref ers rhywdro cyn y dyddiad y darparwyd neu y sicrhawyd, am y tro cyntaf, lety i A mewn cartref gofal yn unol â’r Ddeddf.

(2Caiff awdurdod lleol ddiystyru gwerth unrhyw fangre a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol fel ei brif neu ei unig gartref gan berthynas cymwys i A os meddiannwyd y fangre gan y perthynas cymwys ar ôl y dyddiad y darparwyd neu y sicrhawyd, am y tro cyntaf, lety i A mewn cartref gofal yn unol â’r Ddeddf.

(3Gwerth unrhyw fangre am gyfnod o 12 wythnos pan fo’r awdurdod lleol wedi diystyru gwerth y fangre o dan is-baragraff (1)(b) neu (2) a naill ai bu farw’r perthynas hwnnw neu nad yw bellach yn meddiannu’r fangre oherwydd bod llety wedi ei ddarparu neu ei sicrhau iddo mewn cartref gofal.

(4Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwerth unrhyw fangre am gyfnod o 12 wythnos os oedd y fangre wedi ei meddiannu yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan berthynas cymwys i A fel ei brif neu ei unig gartref ac nad yw’r perthynas hwnnw bellach yn meddiannu’r fangre oherwydd newid annisgwyl yn ei amgylchiadau.

(5Yn y paragraff hwn—

ystyr “perthynas cymwys” (“qualifying relative”) yw—

(a)

partner A;

(b)

aelod arall o deulu A neu berthynas i A sy’n 60 oed neu’n hŷn neu sy’n analluog; neu

(c)

plentyn sydd o dan 18 oed;

mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “child” yn adran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Teulu 1987(1).