- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Rheoliad 4(2)(a) a 4(2)(d)(i)
1. Rhaid i berson sy’n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o’r ddaear yng Nghymru fel dŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2009/54 wneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod bwyd y mae’r dŵr a echdynnir yn ei ardal, gan roi’r wybodaeth a ganlyn—LL+C
(a)y manylion a bennir ym mharagraff 10(a) o Ran 3;
(b)y wybodaeth a geir o ganlyniad i’r arolygon a’r dadansoddiad y gofynnir amdanynt o dan baragraff 10(b) ac (c), fel y’i darllenir gyda pharagraff 11, o Ran 3; ac
(c)tystiolaeth i ddangos nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
2. Pan fydd yn ofynnol rhoi gwybodaeth ar yr anionau, catïonau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac yr elfennau hybrin yn unol â pharagraff 1(b), rhaid mynegi crynodiad bob anion, catïon, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio ac elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf y tablau yn Rhan 4 o’r Atodlen hon yn yr uned fesur a bennir yn ail golofn y tablau yn Rhan 4.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
3. Pan fydd gwybodaeth a ofynnir gan baragraff 1 wedi’i rhoi, rhaid i’r awdurdod bwyd ei hasesu a chydnabod y dŵr y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef yn ddŵr mwynol naturiol os yw wedi’i fodloni—LL+C
(a)bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy’n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2009/54;
(b)bod nodweddion y dŵr wedi eu hasesu yn unol â’r canlynol—
(i)y pwyntiau a rifir 1 i 4 ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2009/54;
(ii)y manylion a’r meini prawf a restrir yn Rhan 3 o’r Atodlen hon, a
(iii)dulliau gwyddonol cydnabyddedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
4. Rhaid i’r awdurdod bwyd, wrth roi cydnabyddiaeth i ddŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 3, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o’r fath a’r rhesymau dros ei roi yn y London Gazette.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
5. Rhaid i berson sy’n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o’r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE yn ddŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2009/54 wneud cais ysgrifenedig i’r Asiantaeth, gan roi’r wybodaeth ganlynol—LL+C
(a)y manylion a bennir ym mharagraff 10(a) o Ran 3;
(b)y wybodaeth a geir o ganlyniad i’r arolygon a’r dadansoddiad y gofynnir amdanynt o dan baragraff 10(b) ac (c), fel y’i darllenir gyda pharagraff 11, o Ran 3; ac
(c)tystiolaeth i ddangos nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
6. Pan fydd yn ofynnol rhoi gwybodaeth ar yr anionau, catïonau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac yr elfennau hybrin yn unol â pharagraff 5(b), rhaid mynegi crynodiad bob anion, catïon, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio ac elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf y tablau yn Rhan 4 o’r Atodlen hon yn yr uned fesur a bennir yn ail golofn y tablau yn Rhan 4.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
7. Rhaid i’r Asiantaeth gydnabod y cyfryw ddŵr os bydd yr awdurdod cyfrifol yn y wlad yr echdynnir y dŵr ohoni wedi ardystio—LL+C
(a)ei fod wedi’i fodloni—
(i)bod y gofynion ym mharagraffau 10(b) ac (c) o Ran 3 wedi’u sefydlu;
(ii)gyda’r dystiolaeth a roddir yn unol â pharagraff 5(c); a
(b)bod archwiliadau cyfnodol wedi cael eu gwneud i ganfod—
(i)bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy’n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2009/54;
(ii)bod nodweddion y dŵr wedi’u hasesu yn unol â’r canlynol—
(aa)y pwyntiau a rifir 1 i 4 ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2009/54;
(bb)y manylion a’r meini prawf a restrir yn Rhan 3 o’r Atodlen hon; ac
(cc)dulliau gwyddonol cydnabyddedig; a
(iii)bod darpariaethau Atodlen 4 yn cael eu cymhwyso gan y person sy’n datblygu’r ffynnon.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
8. Bydd cydnabyddiaeth o’r cyfryw ddŵr yn dirwyn i ben ar ôl cyfnod o bum mlynedd oni fydd awdurdod cyfrifol y wlad yr echdynnwyd y dŵr ohoni wedi adnewyddu’r ardystiad sy’n ofynnol gan baragraff 7.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
9. Rhaid i’r Asiantaeth, pan fydd yn cydnabod dŵr yn unol â’r Rhan hon, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o’r fath yn y London Gazette, yr Edinburgh Gazette a’r Belfast Gazette.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
10. Rhaid i berson sy’n ceisio cael dŵr wedi’i gydnabod fel dŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 neu baragraff 5 o Ran 2 o’r Atodlen hon gynnal—LL+C
(a)arolygon daearegol a hydroddaearegol sy’n cynnwys y manylion canlynol—
(i)union safle’r dalgylch gan ddangos ei uchder ar fap â graddfa heb fod yn fwy na 1:1,000;
(ii)adroddiad daearegol manwl ar darddiad a natur y tir;
(iii)stratigraffeg yr haen hydroddaearegol;
(iv)disgrifiad o weithrediadau’r dalgylch; a
(v)darnodi’r ardal neu fanylion o fesurau eraill sy’n diogelu’r ffynnon rhag llygredd.
(b)arolygon ffisegol, cemegol a ffisigo-cemegol y mae’n rhaid iddynt sefydlu—
(i)cyfradd llif y ffynnon;
(ii)tymheredd y dŵr yn ei ffynhonnell a thymheredd yr awyrgylch;
(iii)y berthynas rhwng natur y tir a natur a math y mwynau yn y dŵr;
(iv)y gweddillion sych ar 180ºC a 260ºC;
(v)y dargludedd neu wrthedd trydanol, gan bennu mesur y tymheredd;
(vi)y crynodiad ïonau hydrogen (pH);
(vii)yr anionau a’r catïonau;
(viii)yr elfennau sydd heb eu hïoneiddio;
(ix)yr elfennau hybrin;
(x)y priodweddau radio-actinolegol yn y ffynhonnell;
(xi)pan fydd yn briodol, lefelau isotop perthnasol elfennau ansoddol y dŵr, ocsigen (16O–18O) a hydrogen (protiwm, dewteriwm, tritiwm); a
(xii)gwenwyndra rhai elfennau ansoddol y dŵr, gan gymryd i ystyriaeth y terfynau a osodir ar gyfer pob un ohonynt;
(c)dadansoddiad microbiolegol yn y ffynhonnell y mae’n rhaid iddo ddangos—
(i)absenoldeb parasitiaid a micro-organebau pathogenig;
(ii)penderfyniad meintiol cyfrif cytref y gellir ei adfywio sy’n dangos halogi ysgarthol, ac sy’n dangos absenoldeb—
(aa)Escherichia coli a cholifformau eraill mewn 250ml ar 37ºC a 44.5ºC,
(bb)streptococi ysgarthol mewn 250ml,
(cc)anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn 50ml, a
(dd)Pseudomonas aeruginosa mewn 250ml; a
(iii)cyfanswm cyfrif cytref y gellir ei adfywio fesul ml o ddŵr—
(aa)ar 20 i 22ºC mewn 72 awr ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin, a
(bb)ar 37ºC mewn 24 awr ar agar-agar.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
11.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i berson sy’n ceisio cael dŵr wedi’i gydnabod fel dŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 neu baragraff 5 o Ran 2 o’r Atodlen hon gynnal dadansoddiad clinigol a ffarmacolegol yn unol â dulliau gwyddonol cydnabyddedig a ddylai weddu i nodweddion arbennig y dŵr mwynol naturiol a’i effaith ar y corff dynol, megis troethlif, swyddogaethau gastrig a choluddol, a gwneud iawn am ddiffygion mwynol.LL+C
(2) Caniateir i ddadansoddiadau clinigol, mewn achosion priodol, gael eu cynnal yn lle’r dadansoddiadau ffarmacolegol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), ar yr amod bod cysondeb a chytundeb nifer sylweddol o arsylliadau clinigol yn galluogi bod modd cael yr un canlyniadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 Rhn. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Anionau | Uned fesur |
---|---|
Borad BO3 - | mg/l |
Carbonad CO32- | mg/l |
Clorid Cl- | mg/l |
Fflworid F - | mg/l |
Hydrogen Carbonad HCO3- | mg/l |
Nitrad NO3 - | mg/l |
Nitrid NO2 - | mg/l |
Ffosffad PO BO4 3- | mg/l |
Silicad SiO2 2- | mg/l |
Sylffad SO4 2- | mg/l |
Sylffid S2- | mg/l |
Catïonau | Uned fesur |
---|---|
Alwminiwm Al | mg/l |
Amoniwm NH4 + | mg/l |
Calsiwm Ca | mg/l |
Magnesiwm Mg | mg/l |
Potasiwm K | mg/l |
Sodiwm Na | mg/l |
Cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio | Uned fesur |
---|---|
Cyfanswm carbon organig C | mg/l |
Carbon deuocsid rhydd CO2 | mg/l |
Silica SiO2 | mg/l |
Elfennau hybrin | Uned fesur |
---|---|
Bariwm Ba | mg/l |
Bromin (cyfanswm) Br | mg/l |
Cobalt Co | mg/l |
Copr Cu | mg/l |
Ïodin (cyfanswm) I | mg/l |
Haearn Fe | mg/l |
Lithiwm Li | mg/l |
Manganîs Mn | mg/l |
Molybdenwm Mo | mg/l |
Strontiwm Sr | mg/l |
Zinc Zn | mg/l |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: