Search Legislation

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 3

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Schedule 3:

Rheoliadau 9(1)(a)(iv) a 15(a)(iv)

ATODLEN 3LL+CTriniaeth aer a gyfoethogir ag osôn

1.  Ni chaiff neb roi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn i ddŵr mwynol naturiol na dŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai—LL+C

(a)ei fod at ddibenion gwahanu cyfansoddion haearn, manganîs, sylffwr ac arsenig o ddŵr lle y maent yn digwydd yn naturiol yn y ffynhonnell;

(b)bod gofynion paragraffau 3, 4 a 5 o Atodlen 4 yn cael eu bodloni cyn y driniaeth; ac

(c)na fydd i’r driniaeth gamau diheintio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

2.  Rhaid i driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn beidio â gwneud y canlynol—LL+C

(a)addasu cyfansoddiad ffisigo-cemegol y dŵr o ran ei ansoddau nodweddiadol; neu

(b)gadael gweddillion yn y dŵr a allai fod yn risg i iechyd cyhoeddus, neu, yn achos y sylweddau a restrir isod, yn uwch na’r lefelau penodedig.

Gweddillion y driniaethTerfyn uchaf ug/l
Osôn toddedig50
Bromad3
Bromofform1

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

3.  Rhaid i berson sy’n ceisio cael awdurdodiad i roi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn—LL+C

(a)gwneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod bwyd y mae’r dŵr a echdynnir yn ei ardal;

(b)caniatáu i gynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw archwilio’r dull o drin arfaethedig a lle’r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi; ac

(c)darparu’r wybodaeth honno i gefnogi’r cais fel y bydd yr awdurdod bwyd yn gofyn amdani.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

4.  Rhaid i’r awdurdod bwyd asesu’r cais ac unrhyw wybodaeth gefnogol a rhaid iddo awdurdodi’r driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn os yw’n fodlon—LL+C

(a)bod cyfiawnhad i broses y driniaeth oherwydd cyfansoddiad y dŵr yn ei ffynhonnell o ran cyfansoddion haearn, manganîs, sylffwr ac arsenig;

(b)bod y person sy’n gwneud y driniaeth yn cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod y driniaeth yn effeithiol ac yn ddiogel; ac

(c)bod y driniaeth fel arall yn cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

5.  Pan fydd yr awdurdod bwyd yn penderfynu awdurdodi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yn unol â pharagraff 4, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig a datgan y dyddiad pan fydd yr awdurdodiad ar gyfer defnydd o’r driniaeth yn effeithiol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

6.  Pan fydd yr awdurdod bwyd yn gwrthod awdurdodi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yn unol â pharagraff 4, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig, gan ddatgan ei resymau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

7.  Pan fydd triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn wedi cael ei hawdurdodi yn unol â pharagraff 4, rhaid i’r person sy’n cyflawni’r driniaeth, er mwyn galluogi’r awdurdod bwyd i asesu p’un a yw’r amodau ym mharagraff 4(a) a (b) yn parhau i gael eu bodloni—LL+C

(a)caniatáu cynrychiolwyr yr awdurdod i archwilio dull y driniaeth a lle’r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi; a

(b)darparu’r wybodaeth honno ynghylch y driniaeth y bydd yr awdurdod bwyd yn gofyn amdani.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

8.  Caiff yr awdurdod bwyd dynnu awdurdodiad triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yn ôl os yw’n cael ei fodloni nad yw’r amodau a bennir ym mharagraff 4 yn cael eu bodloni mwyach, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person sy’n gweithredu’r driniaeth gan ddatgan y rheswm dros dynnu’n ôl.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

9.  Pan fydd yr awdurdod bwyd yn hysbysu person sy’n ceisio cael awdurdodiad i roi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn o benderfyniad yr awdurdod i wrthod awdurdodi triniaeth o dan baragraff 4, neu’n hysbysu’r person sy’n gweithredu triniaeth o’i benderfyniad i dynnu awdurdodiad yn ôl o dan baragraff 8, caiff y person hwnnw wneud cais i’r Asiantaeth am adolygiad o fewn 6 mis i gael ei hysbysu o’r penderfyniad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

10.  Rhaid i’r Asiantaeth, ar ôl cael cais o dan baragraff 9, wneud y canlynol o fewn 3 mis i ddyddiad y cais hwnnw—LL+C

(a)ymchwilio i’r mater fel y mae’r Asiantaeth yn ystyried sy’n briodol;

(b)ystyried canlyniadau’r ymchwiliadau hynny ac unrhyw ffeithiau perthnasol eraill; ac

(c)un ai—

(i)cadarnhau’r penderfyniad; neu

(ii)cyfarwyddo’r awdurdod bwyd i roi neu adfer awdurdodiad o driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn fel y bo’n briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

11.  Rhaid i’r awdurdod bwyd gydymffurfio â chyfarwyddyd yr Asiantaeth o dan baragraff 10(c)(ii) ar unwaith.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources