xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gwent

2.—(1Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

(2Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gwent.

(3Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gwent.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gogledd Cymru

3.—(1Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

(2Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gogledd Cymru.

(3Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gogledd Cymru.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a’r Fro

4.—(1Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

(2Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a’r Fro.

(3Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a’r Fro.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin

5.—(1Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

(2Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin.

(3Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf

6.—(1Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

(2Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf.

(3Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Cymru

7.—(1Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

(2Rhaid i’r cyrff hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Cymru.

(3Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Cymru.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Powys

8.—(1Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

(2Rhaid i’r cyrff hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Powys.

(3Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Powys.

Swyddogaethau penodedig

9.  Y swyddogaethau sydd i’w cyflawni yn unol â’r trefniadau partneriaeth yw’r swyddogaethau a ddisgrifir yn Atodlen 1.

Amcanion y byrddau partneriaeth rhanbarthol

10.  Amcanion bwrdd partneriaeth rhanbarthol yw—

(a)sicrhau bod y cyrff partneriaeth yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol i—

(i)ymateb i’r asesiad o’r boblogaeth a gynhaliwyd yn unol ag adran 14 o’r Ddeddf, a

(ii)gweithredu’r cynlluniau ar gyfer pob un o’r ardaloedd awdurdod lleol a gwmpesir gan y bwrdd y mae’n ofynnol i bob un o’r awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd lleol eu llunio a’u cyhoeddi o dan adran 14A o’r Ddeddf(1);

(b)sicrhau bod y cyrff partneriaeth yn darparu adnoddau digonol ar gyfer y trefniadau partneriaeth, yn unol â’u pwerau o dan adran 167 o’r Ddeddf;

(c)hyrwyddo sefydlu cronfeydd cyfun lle y bo’n briodol.

Aelodaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol

11.—(1Rhaid i aelodaeth bwrdd partneriaeth rhanbarthol gynnwys y canlynol—

(a)o leiaf un aelod etholedig o awdurdod lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(b)o leiaf un aelod o Fwrdd Iechyd Lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(c)y person a benodwyd yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol o dan adran 144 o’r Ddeddf mewn cysylltiad â phob awdurdod lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol, neu ei gynrychiolydd enwebedig;

(d)cynrychiolydd i’r Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(e)dau berson sy’n cynrychioli buddiannau sefydliadau’r trydydd sector yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(f)o leiaf un person sy’n cynrychioli buddiannau darparwyr gofal yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

(g)un person i gynrychioli pobl y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;.

(h)un person i gynrychioli gofalwyr(2) yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

(2Caiff bwrdd partneriaeth rhanbarthol gyfethol unrhyw bersonau eraill y mae’n meddwl eu bod yn briodol i fod yn aelodau o’r bwrdd.

(3Caiff y cyrff partneriaeth dalu taliadau cydnabyddiaeth ariannol a lwfansau i aelodau byrddau partneriaeth rhanbarthol.

(4At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “darparwr gofal” (“care provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(3) mewn cysylltiad â sefydliad neu asiantaeth (o fewn ystyr y Ddeddf honno);

mae i “sefydliad trydydd sector” (“third sector organisation”) yr un ystyr ag yn adran 16(2) o’r Ddeddf.

Adroddiadau

12.—(1Rhaid i fyrddau partneriaeth rhanbarthol lunio adroddiad ar y graddau y mae amcanion y bwrdd yn rheoliad 10 wedi eu cyflawni a rhaid iddynt gyflwyno’r adroddiad hwn i Weinidogion Cymru.

(2Rhaid llunio a chyflwyno’r adroddiad cyntaf erbyn 1 Ebrill 2017.

(3Rhaid llunio a chyflwyno’r adroddiadau yn flynyddol wedi hynny.

Rhannu gwybodaeth

13.—(1At ddibenion cyflawni’r swyddogaethau sy’n cael eu cyflawni gan y trefniadau partneriaeth, rhaid i gorff partneriaeth rannu gwybodaeth—

(a)ag unrhyw un neu ragor o’r cyrff partneriaeth eraill;

(b)â’r bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

(2At ddiben cyflawni’r swyddogaethau cymorth i deuluoedd penodedig, rhaid i dîm integredig cymorth i deuluoedd rannu gwybodaeth—

(a)ag unrhyw un neu ragor o’r cyrff partneriaeth;

(b)â’r bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

(3At ddibenion cyflawni ei amcanion, rhaid i fwrdd partneriaeth rhanbarthol rannu gwybodaeth ag unrhyw un neu ragor o’r cyrff partneriaeth.

(4Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraffau (1), (2) neu (3) yn gymwys os yw’n anghydnaws ag unrhyw un neu ragor o ddyletswyddau eraill y corff, gan gynnwys ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelu Data 1998(4) a Deddf Hawliau Dynol 1998(5).

Dirprwyo swyddogaethau

14.—(1Caiff awdurdod lleol gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau penodedig ar ran unrhyw un neu ragor o’r cyrff partneriaeth eraill sy’n cymryd rhan yn yr un trefniadau partneriaeth.

(2Caiff Bwrdd Iechyd Lleol gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau awdurdod lleol penodedig a ddisgrifir yn Nhabl 1 o Atodlen 1 ar ran unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan yn yr un trefniadau partneriaeth.

(1)

Mewnosodwyd adran 14A i’r Ddeddf gan adran 46 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) a pharagraff 34 o Atodlen 4 iddi.

(2)

Diffinnir “gofalwr” yn adran 3(4) o’r Ddeddf.