xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cronfeydd Cyfun

Sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun

19.—(1Mae’n ofynnol i gyrff partneriaeth pob un o’r trefniadau partneriaeth sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun mewn perthynas ag—

(a)arfer eu swyddogaethau llety cartref gofal;

(b)arfer eu swyddogaethau cymorth i deuluoedd;

(c)unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau penodedig y maent yn penderfynu y byddant yn eu harfer ar y cyd o ganlyniad i asesiad a gynhelir o dan adran 14 o’r Ddeddf neu unrhyw gynllun a lunnir o dan adran 14A o’r Ddeddf(1).

(2Yn y rheoliad hwn—

mae i “cartref gofal” yr un ystyr ag a roddir i “care home” yn Neddf Safonau Gofal 2000;

ystyr “swyddogaethau llety cartref gofal” (“care home accommodation functions”) yw—

(a)

swyddogaethau awdurdod lleol o dan adrannau 35 ac 36 o’r Ddeddf, pan benderfynwyd diwallu anghenion yr oedolyn drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu llety mewn cartref gofal;

(b)

swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 mewn perthynas ag oedolyn, mewn achosion—

(i)

pan fo gan yr oedolyn angen sylfaenol am ofal iechyd a phenderfynwyd diwallu anghenion yr oedolyn drwy drefnu i ddarparu llety mewn cartref gofal, neu

(ii)

pan na fo gan yr oedolyn angen sylfaenol am ofal iechyd ond na ellir diwallu anghenion yr oedolyn ond drwy drefnu gan yr awdurdod lleol i ddarparu llety ynghyd â gofal nyrsio.

(1)

Gweler y troednodyn i reoliad 10(a)(ii).