xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd

Swyddogaethau cymorth i deuluoedd

15.  Y swyddogaethau cymorth i deuluoedd yw’r swyddogaethau sydd wedi eu pennu yn Atodlen 2.

Sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd

16.—(1Rhaid i’r cyrff partneriaeth ar gyfer pob un o’r trefniadau partneriaeth sefydlu tîm at ddiben arfer swyddogaethau cymorth i deuluoedd.

(2Enw tîm a sefydlir o dan y rheoliad hwn fydd tîm integredig cymorth i deuluoedd.

(3Caiff y cyrff partneriaeth neilltuo swyddogaethau cymorth i deuluoedd i’r tîm integredig cymorth i deuluoedd.

(4Rhaid i dîm integredig cymorth i deuluoedd gynnwys staff sydd â’r sgiliau a’r profiad addas gan roi sylw—

(a)i’r categorïau o achosion y gellir eu hatgyfeirio ato, a

(b)i’r angen am gymorth gweinyddol ar staff proffesiynol.

Neilltuo ac arfer swyddogaethau cymorth i deuluoedd

17.—(1Rhaid i dîm integredig cymorth i deuluoedd gyflawni’r swyddogaethau cymorth i deuluoedd sydd wedi eu neilltuo iddo.

(2Mae swyddogaethau tîm integredig cymorth i deuluoedd i gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

(3Mae swyddogaethau cymorth i deuluoedd tîm integredig cymorth i deuluoedd i gael eu cyflawni mewn cysylltiad â theulu a atgyfeirir ato gan yr awdurdod lleol.

(4Mae swyddogaeth a arferir o dan y Rheoliadau hyn yn arferadwy ar yr un pryd gan y tîm integredig cymorth i deuluoedd a chan y corff y rhoddir y swyddogaeth iddo.

Trefniadau ar gyfer atgyfeirio achosion at y timau integredig cymorth i deuluoedd

18.—(1Caiff corff partneriaeth atgyfeirio teulu at dîm integredig cymorth i deuluoedd os yw yn rhesymol yn credu neu’n amau—

(a)bod rhiant plentyn yn y teulu hwnnw (neu ddarpar riant)—

(i)yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau,

(ii)yn ddioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig,

(iii)â hanes o ymddwyn yn dreisgar neu’n gamdriniol, neu

(iv)ag anhwylder meddwl; a

(b)o ganlyniad i un neu ragor o’r amgylchiadau hyn, bod y plentyn, neu y bydd y plentyn, yn blentyn y mae angen gofal a chymorth arno a naill ai—

(i)na fydd y plentyn yn gallu aros gyda’r teulu os na ddarperir gwasanaethau cymorth i deuluoedd,

(ii)pan fo’r plentyn yn derbyn gofal, na fydd y plentyn yn gallu dychwelyd i fyw gyda’r teulu os na ddarperir gwasanaethau cymorth i deuluoedd, neu

(iii)bod y plentyn, neu y bydd y plentyn, yn wynebu risg o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu ei niweidio mewn modd arall os na ddarperir gwasanaethau cymorth i deuluoedd.

(2Rhaid i atgyfeiriad at dîm integredig cymorth i deuluoedd gael ei wneud yn unol â gweithdrefn atgyfeirio y cytunir arni gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, mae “teulu” (“family”) yn cynnwys pob un o’r canlynol—

(a)plentyn, rhieni’r plentyn ac, os yw’r awdurdod yn meddwl ei bod yn briodol, unrhyw unigolyn arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn neu â’r rhieni;

(b)unigolion sydd ar fin dod yn rhieni i blentyn ac, os yw’r awdurdod lleol yn meddwl ei bod yn briodol, unrhyw unigolyn arall sy’n gysylltiedig â’r unigolion sydd ar fin dod yn rhieni i’r plentyn hwnnw.

(4Caiff plentyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth gynnwys plentyn sy’n derbyn gofal.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “anhwylder meddwl” (“mental disorder”) yw unrhyw anhwylder neu anabledd meddwl;

mae “cam-drin” (“abuse”) yn cynnwys gweithgarwch rhywiol heb gydsyniad ac ymddygiad afresymol sy’n debygol o achosi niwed seicolegol difrifol; mae cam-drin yn “cam-drin domestig” (“domestic abuse”) os daw oddi wrth unigolyn sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr; ac mae “camdriniol” (“abusive”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 74 o’r Ddeddf;

ystyr “plentyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth” (“child with needs for care and support”) yw plentyn y mae’r awdurdod lleol wedi penderfynu y mae arno anghenion am ofal a chymorth, yn dilyn asesiad o dan adran 21 o’r Ddeddf;

mae “rhiant” (“parent”) mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys unrhyw unigolyn—

(a)

nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu

(b)

sydd â gofal am y plentyn;

ystyr “trais” (“violence”) yw trais neu fygythiadau o drais sy’n debygol o gael eu cyflawni ac mae “treisgar” (“violent”) i’w ddehongli yn unol â hynny; mae trais yn “trais domestig” (“domestic violence”) os daw oddi wrth unigolyn sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr.

(6At ddibenion y diffiniad o “rhiant” (“parent”) ym mharagraff (4)—

(a)mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag a roddir i “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989(1);

(b)wrth benderfynu a oes gan unigolyn ofal am blentyn, mae unrhyw absenoldeb o’r plentyn mewn ysbyty, cartref plant neu leoliad maeth ac unrhyw absenoldeb dros dro arall i’w ddiystyru.