Adroddiadau
12.—(1) Rhaid i fyrddau partneriaeth rhanbarthol lunio adroddiad ar y graddau y mae amcanion y bwrdd yn rheoliad 10 wedi eu cyflawni a rhaid iddynt gyflwyno’r adroddiad hwn i Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid llunio a chyflwyno’r adroddiad cyntaf erbyn 1 Ebrill 2017.
(3) Rhaid llunio a chyflwyno’r adroddiadau yn flynyddol wedi hynny.