xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Gwnaed
8 Rhagfyr 2015
Yn dod i rym
9 Rhagfyr 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 16 o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol ag adran 17(2) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Addasu Canlyniadol) 2015 a daw i rym ar 9 Rhagfyr 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae adran 46(4) o Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998(2) wedi ei haddasu fel a ganlyn—
(a)ar ddiwedd paragraff (b) hepgorer “and”;
(b)ar ddiwedd paragraff (c) mewnosoder—
“; and
(d)the Agricultural Sector (Wales) Act 2014.”
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud addasiad canlyniadol i Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998 (“Deddf 1998”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 46(4) o Ddeddf 1998 drwy fewnosod cyfeiriad at Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae’r ddarpariaeth yn sicrhau na ellir erlyn person o dan Ddeddf 1998 a Deddf 2014 am drosedd sy’n codi o’r un ymddygiad.
Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer y Gorchymyn hwn gan na ragwelir y bydd yn effeithio o gwbl ar y sector cyhoeddus, y sector preifat, y sector elusennol na’r sector gwirfoddol.
1998 p. 39. Mae adran 46(4)(a) wedi ei diddymu gan adran 72 o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 a pharagraff 2 o Atodlen 20 iddi. Nid yw’r diddymiad yn cael effaith yng Nghymru eto.