Diwygio rheoliad 6 (dehongli)
3.—(1) Yn rheoliad 6 (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder——
““ystyr “daliad a randdirymwyd” (“derogated holding”) yw daliad y mae gan randdirymiad effaith drosto”;
“ystyr “rhanddirymiad” (“derogation”) yw rhanddirymiad a roddir o dan Ran 3A o derfyn y cyfanswm o nitrogen mewn tail da byw y gellir ei ddodi ar dir bob blwyddyn yn unol â pharagraff 2(b) o Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC a Phenderfyniad y Comisiwn 2013/781/EU(1)”
“ystyr “cais i randdirymu” (“derogation application”) yw cais am randdirymiad”;
(2) yn y diffiniad “cynllun gwrteithio” ar ôl y geiriau “reoliad 14(1)(c)” mewnosoder—
““neu gynlluniau eraill cyffelyb sy’n ofynnol o dan Atodlen 5.”.
(1)
OJ Rhif L 346, 20.12.2013, t 65.