Search Legislation

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2015.

Sefydlu Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

2.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn sefydlu cynllun ar gyfer talu pensiynau a buddion eraill i, neu mewn cysylltiad â, gweithwyr tân ac achub(1) sy’n ddiffoddwyr tân yng Nghymru.

(2Enw’r cynllun hwn yw Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015.

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu’n wahanol,

ystyr “absenoldeb cysylltiedig â phlentyn” (“child-related leave”) yw—

(a)

absenoldeb mabwysiadu arferol,

(b)

absenoldeb mamolaeth arferol,

(c)

absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu ychwanegol,

(d)

absenoldeb tadolaeth,

(e)

absenoldeb tadolaeth ychwanegol, neu

(f)

cyfnod o absenoldeb rhiant;

ystyr “absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn” (“reserve forces service leave”) yw absenoldeb o ddyletswydd oherwydd galwad allan neu adalwad i wasanaethu’n barhaol yn lluoedd arfog Ei Mawrhydi o ganlyniad i hysbysiad galw allan a gyflwynwyd, neu orchymyn galw allan neu adalw a wnaed, o dan Ddeddf Lluoedd Wrth Gefn 1996 neu absenoldeb yn ystod hyfforddiant a wneir yn ofynnol o dan adran 22 neu a ganiateir o dan adran 27 o’r Ddeddf honno(2);

ystyr “absenoldeb mabwysiadu arferol” (“ordinary adoption leave”) yw absenoldeb o dan adran 75A o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(3);

ystyr “absenoldeb mabwysiadu ychwanegol” (“additional adoption leave”) yw absenoldeb o dan adran 75B o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(4);

ystyr “absenoldeb mamolaeth arferol” (“ordinary maternity leave”) yw absenoldeb o dan adran 71 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(5);

ystyr “absenoldeb mamolaeth ychwanegol” (“additional maternity leave”) yw absenoldeb o dan adran 73 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(6);

mae i “absenoldeb rhiant” (“parental leave”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhiant etc. 1999(7);

ystyr “absenoldeb tadolaeth” (“paternity leave”) yw absenoldeb o dan reoliad 4 neu 8 o Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu 2002(8);

ystyr “absenoldeb tadolaeth ychwanegol” (“additional paternity leave”) yw absenoldeb o dan Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol 2010(9);

ystyr “actiwari’r cynllun” (“scheme actuary”) yw’r actiwari a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 159 (penodi actiwari’r cynllun a phrisiadau actiwaraidd);

ystyr “addasiad mynegai” (“index adjustment”) yw—

(a)

mewn perthynas â’r balans agoriadol o bensiwn enilledig ar gyfer unrhyw flwyddyn gynllun, y newid mewn enillion ar gyfer y flwyddyn gynllun flaenorol(10), a

(b)

mewn perthynas â’r balans agoriadol o bensiwn enilledig trosglwyddiad clwb ar gyfer unrhyw flwyddyn gynllun, y mynegai ailbrisio mewn-gwasanaeth y byddai’r cynllun sy’n anfon wedi cymhwyso i’r pensiwn trosglwyddedig ar gyfer y flwyddyn gynllun honno, pe na bai’r pensiwn wedi ei drosglwyddo;

ystyr “addasiad mynegai DPC” (“PIA index adjustment”), mewn perthynas â balans agoriadol pensiwn ychwanegol ar gyfer unrhyw flwyddyn gynllun, yw swm y cynnydd y byddid wedi ei wneud yn y flwyddyn honno o dan DPC 1971, yng nghyfradd flynyddol pensiwn o swm hafal i’r balans agoriadol, pe bai—

(a)

y pensiwn hwnnw’n gymwys i’w gynyddu felly, a

(b)

diwrnod cyntaf y flwyddyn ariannol flaenorol yn ddyddiad cychwyn ar gyfer y pensiwn hwnnw;

mae i “addasiad mynegai DPC ymddeol” (“retirement PIA index adjustment”), mewn perthynas â swm pensiwn cronedig, yr ystyr a roddir yn rheoliad 34 (cyfrifo “addasiad mynegai DPC ymddeol”);

mae i “addasiad mynegai ymddeol” (“retirement index adjustment”), mewn perthynas â swm pensiwn cronedig, yr ystyr a roddir yn rheoliad 33 (cyfrifo “addasiad mynegai ymddeol”);

ystyr “aelod” (“member”), mewn perthynas â’r cynllun hwn, yw aelod actif, aelod gohiriedig, neu aelod-bensiynwr o’r cynllun hwn;

mae i “aelod â chredyd pensiwn” (“pension credit member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 30 (aelod â chredyd pensiwn);

ystyr “aelod â debyd pensiwn” (“pension debit member”), mewn perthynas â’r cynllun hwn, yw person sy’n aelod o’r cynllun hwn ac y mae ei fuddion, neu ei fuddion yn y dyfodol, o dan y cynllun hwn wedi eu lleihau o dan adran 31 o DDLlPh 1999 (lleihau budd o dan orchymyn rhannu pensiwn);

mae i “aelod a ddiogelir” (“protected member”), mewn perthynas â Chynllun 1992 neu CPNDT, yr ystyr a roddir yn Atodlen 2;

mae i “aelod actif” (“active member”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 28 (aelodaeth actif);

mae i “aelod gohiriedig” (“deferred member”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 29 (aelodaeth ohiriedig);

mae i “aelod trosiannol” (“transition member”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 1 o Atodlen 2;

ystyr “aelod-bensiynwr” (“pensioner member”), mewn perthynas â’r cynllun hwn, yw person sydd â’r hawl ganddo i gael taliad o bensiwn ymddeol ar unwaith o dan y cynllun hwn;

mae i “aelod-oroeswr” (“survivor member”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 61 (sefydlu cyfrif aelod-oroeswr);

mae i “anghydfod undebol” yr ystyr a roddir i “trade dispute” yn adran 218 o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992(11);

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru, y penderfynwyd arno yn unol ag adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(12);

mae i “balans agoriadol” (“opening balance”), mewn perthynas â disgrifiad o bensiwn ar gyfer blwyddyn gynllun ac eithrio pensiwn ychwanegol, yr ystyr a roddir yn rheoliad 44 (balans agoriadol, addasiad mynegai ac ychwanegiad oedran) ac mewn perthynas â phensiwn ychwanegol, yr ystyr a roddir yn rheoliad 49 (y cyfrif i bennu’r balans agoriadol a’r addasiad mynegai DPC);

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o un flwyddyn sy’n dechrau gydag 1 Ebrill ac yn diweddu gyda 31 Mawrth;

ystyr “blwyddyn dreth” (“tax year”) yw cyfnod o un flwyddyn sy’n gyfnod asesu at ddibenion treth incwm;

ystyr “blwyddyn gynllun” (“scheme year”) yw cyfnod o un flwyddyn sy’n dechrau gydag 1 Ebrill ac yn diweddu gyda 31 Mawrth;

ystyr “blwyddyn gynllun actif olaf” (“last active scheme year”) yw’r flwyddyn gynllun pan fo aelod actif o’r cynllun hwn yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn;

ystyr “blwyddyn ymadael” (“leaving year”) yw’r flwyddyn gynllun y mae’r diwrnod olaf perthnasol yn digwydd ynddi;

ystyr “buddion marwolaeth” (“death benefits”) yw

un rhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)

pensiwn partner sy’n goroesi,

(b)

pensiwn plentyn cymwys, neu

(c)

cyfandaliad budd marwolaeth;

ystyr “buddion ymddeol” (“retirement benefits”) yw buddion sy’n daladwy o dan Ran 5 (buddion ymddeol);

ystyr “Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru” (“Firefighters’ Pensions Scheme Advisory Board for Wales”) yw bwrdd a sefydlwyd o dan reoliad 10 (bwrdd cynghori’r cynllun: sefydlu);

ystyr “bwrdd pensiynau lleol” (“local pension board”) yw bwrdd a sefydlir o dan reoliad 5 (byrddau pensiynau lleol: sefydlu);

ystyr “canllawiau actiwaraidd” (“actuarial guidance”) yw canllawiau actiwaraidd a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun;

ystyr “cofrestredig” (“registered”), mewn perthynas â chynllun pensiwn, yw cofrestredig o dan Bennod 2 o Ran 4 (cofrestru cynlluniau pensiwn) o DC 2004;

ystyr “CPNDT” (“NFPS”) yw Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) fel y’i nodir yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(13);

ystyr “credyd pensiwn” (“pension credit”) yw credyd o dan adran 29(1)(b) o DDLlPh 1999;

ystyr “cyfanswm y dyraniad” (“total allocation amount”), mewn perthynas â swm pensiwn ymddeol, yw cyfanswm y pensiwn hwnnw a ddyrennir o dan Bennod 6 o Ran 5 (buddion ymddeol);

mae i “cyflogaeth gynllun” (“scheme employment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 15 (cyflogaeth gynllun);

ystyr “cyflogaeth reolaidd” (“regular employment”) yw cyflogaeth am o leiaf 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd am gyfnod o ddim llai na 12 mis yn olynol gan ddechrau gyda’r dyddiad pan fo mater galluogrwydd person i wneud gwaith cyflogedig yn codi;

mae i “cyflogwr cynllun” (“scheme employer”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 15 (cyflogaeth gynllun);

ystyr “cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy” (“continuous period of pensionable service”), mewn perthynas â’r cynllun hwn, yw cyfnod o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn gan ddiystyru unrhyw fwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na phum mlynedd, oni ddarperir yn wahanol;

ystyr “cyfnod tâl” (“pay period”) yw’r cyfnod y gwneir taliad o dâl pensiynadwy mewn cysylltiad ag ef;

mae i “cyfradd wythnosol”, mewn perthynas â lleiafswm pensiwn gwarantedig, yr ystyr a roddir i “weekly rate” yn rheoliad 55(2) o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Contractio Allan) 1996(14);

mae i “cyfran benodedig” (“specified proportion”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 98 (cyfran benodedig);

mae i “cyfraniadau aelodau” (“member contributions”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 119(8) (cyfraniadau aelodau);

mae i “cyfrif aelod â chredyd pensiwn” (“pension credit member’s account”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 63 (sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn);

ystyr “cyfrif aelod actif” (“active member’s account”) yw’r cyfrif a sefydlwyd o dan reoliad 40 (sefydlu cyfrif aelod actif);

mae i “cyfrif aelod gohiriedig” (“deferred member’s account”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 53 (sefydlu cyfrif aelod gohiriedig);

mae i “cyfrif ymddeol” (“retirement account”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 59 (sefydlu cyfrif ymddeol ac addasiadau eraill);

ystyr “Cynllun 1992” (“1992 Scheme”) yw Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 fel y’i nodir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(15) ac fel y mae’n cael effaith yng Nghymru;

ystyr “cynllun clwb” (“club scheme”) yw cynllun pensiwn galwedigaethol cofrestredig (ac eithrio cynllun cysylltiedig) sydd wedi cytuno i wneud a derbyn taliadau gwerth trosglwyddiad clwb o dan y trefniadau trosglwyddiadau clwb;

ystyr “cynllun cysylltiedig” (“connected scheme”) yw cynllun pensiwn statudol arall sy’n gysylltiedig â’r cynllun hwn o fewn ystyr adran 4(6) o Ddeddf 2013;

ystyr “y cynllun hwn” (“this scheme”) yw’r cynllun a sefydlir gan y Rheoliadau hyn;

mae i “cynllun pensiwn galwedigaethol” (“occupational pension scheme”) yr ystyr a roddir yn adran 1 o DCauP 1993(16);

ystyr “cynllun pensiwn personol” yw cynllun pensiwn personol o fewn y diffiniad o “personal pension scheme” yn adran 1 o DCauP 1993 sydd yn gynllun pensiwn cofrestredig;

ystyr “cynllun sy’n anfon” (“sending scheme”) yw cynllun clwb sy’n talu gwerth trosglwyddiad clwb;

ystyr “DC 2004” (“FA 2004”) yw Deddf Cyllid 2004(17);

ystyr “DCauP 1993” (“PSA 1993”) yw Deddf Cynlluniau Pensiwn 1993(18);

ystyr “DDLlPh 1999” (“WRPA 1999”) yw Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999(19);

ystyr “Deddf 2013” (“2013 Act”) yw Deddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013;

ystyr “DPC 1971” (“PIA 1971”) yw Deddf Pensiynau (Cynnydd) 1971(20);

ystyr “dewisiad i ddyrannu” (“allocation election”) yw dewisiad o dan reoliad 81 (dewisiad i ddyrannu);

ystyr “dewisiad pensiwn ychwanegol” (“added pension election”) yw’r dewisiad i wneud taliadau pensiwn ychwanegol;

ystyr “diffoddwr tân gwirfoddol” (“volunteer firefighter”) yw person (P) sy’n cymryd rhan weithredol mewn ymladd tân ar gyfer awdurdod—

(a)

fel diffoddwr tân, ond nid fel diffoddwr rheolaidd na diffoddwr tân wrth gefn,

(b)

ar delerau y mae’n ofynnol oddi tanynt, neu y caniateir ei gwneud yn ofynnol oddi tanynt, fod P yn ymladd tân, neu y caniateir ei gwneud yn ofynnol ei fod yn cyflawni dyletswyddau eraill sy’n briodol i rôl P fel diffoddwr tân (pa un ai yn lle ymladd tân, neu’n ychwanegol at ymladd tân),

(c)

rhywfodd ac eithrio ar sail dros dro, a

(d)

sydd dan rwymedigaeth i fod yn bresennol ar y cyfryw adegau a ystyrir yn angenrheidiol gan y swyddog cyfrifol ac yn unol â’r gorchmynion a gaiff P;

ystyr “diffoddwr tân rheolaidd” (“regular firefighter”) yw person (P) a gyflogir (pa un ai am amser cyflawn neu’n rhan amser) gan awdurdod—

(a)

fel diffoddwr tân, ond nid fel diffoddwr tân wrth gefn na diffoddwr tân gwirfoddol,

(b)

ar delerau y mae’n ofynnol oddi tanynt, neu y caniateir ei gwneud yn ofynnol oddi tanynt, fod P yn ymladd tân neu, heb doriad ym mharhad y cyfryw gyflogaeth, y caniateir ei gwneud yn ofynnol ei fod yn cyflawni dyletswyddau eraill sy’n briodol i rôl P fel diffoddwr tân (pa un ai yn lle ymladd tân, neu’n ychwanegol at ymladd tân), ac

(c)

rhywfodd ac eithrio ar sail dros dro;

ystyr “diffoddwr tân wrth gefn” (“retained firefighter”) yw person (P) a gyflogir gan awdurdod—

(a)

fel diffoddwr tân, ond nid fel diffoddwr tân rheolaidd na diffoddwr tân gwirfoddol,

(b)

ar delerau y mae’n ofynnol oddi tanynt, neu y caniateir ei gwneud yn ofynnol oddi tanynt, fod P yn ymladd tân neu, heb doriad ym mharhad y cyfryw gyflogaeth, y caniateir ei gwneud yn ofynnol ei fod yn cyflawni dyletswyddau eraill sy’n briodol i rôl P fel diffoddwr tân (pa un ai yn lle ymladd tân, neu’n ychwanegol at ymladd tân),

(c)

rhywfodd ac eithrio ar sail dros dro, a

(d)

sydd dan rwymedigaeth i fod yn bresennol ar y cyfryw adegau a ystyrir yn angenrheidiol gan y swyddog cyfrifol ac yn unol â’r gorchmynion a gaiff P;

ystyr “diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy” (“last day of pensionable service”) yw diwrnod olaf cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn;

ystyr “y diwrnod olaf perthnasol” (“the relevant last day”) yw—

(a)

yn achos aelod rhan-ymddeoledig, y diwrnod yr arferwyd yr opsiwn o ran-ymddeoliad, a

(b)

mewn achosion eraill, diwrnod olaf gwasanaeth pensiynadwy’r aelod;

mae i “dyddiad cau” (“closing date”), mewn perthynas ag aelod trosiannol, yr ystyr a roddir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 (darpariaethau trosiannol);

ystyr “dyddiad cychwyn” (“beginning date”), mewn perthynas â phensiwn nad yw’n briodoladwy (yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol) i gredyd pensiwn, yw’r dyddiad yr ystyrir bod y pensiwn yn cychwyn at ddiben adran 8(2) (ystyr “pension” a darpariaethau atodol eraill) o DPC 1971(21);

ystyr “dyfarniad” (“award”) yw dyfarniad o fudd o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “dyfarniad afiechyd” (“ill-health award”) yw—

(a)

pensiwn afiechyd haen isaf, a

(b)

pensiwn afiechyd haen uchaf pan fo hwnnw hefyd wedi ei ddyfarnu;

ystyr “gorchymyn rhannu pensiwn” (“pension sharing order”) yw unrhyw ddarpariaeth neu orchymyn a bennir yn adran 28 o DDLlPh 1999(22);

mae i “gostyngiad talu’n gynnar” (“early payment reduction”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 70 (gostyngiad talu’n gynnar);

ystyr “gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy” (“pensionable public service”) yw gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun presennol(23) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol fel y’i diffinnir ym mharagraff 1 o Atodlen 2;

mae i “gwasanaeth cymwys” (“qualifying service”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 66 (gwasanaeth cymwys);

mae i “gwerth trosglwyddiad” neu “gwerth trosglwyddo” (“transfer value”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 141 (dehongli mewn perthynas â Rhan 10);

mae i “gwerth trosglwyddiad clwb” (“club transfer value”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 141 (dehongli mewn perthynas â Rhan 10);

mae i “hawliau credyd pensiwn” yr ystyr a roddir i “pension credit rights” yn adran 124(1) o Ddeddf Pensiynau 1995(24);

mae i “lwfans blynyddol” (“annual allowance”) yr ystyr a roddir yn adran 228 (lwfans blynyddol) o DC 2004(25);

ystyr “lleiafswm gwarantedig” (“guaranteed minimum”) yw’r lleiafswm gwarantedig fel y’i diffinnir yn adrannau 14(26) (lleiafswm gwarantedig enillydd) ac 17(27) (pensiynau lleiafswm ar gyfer gwragedd a gwŷr gweddw) o DCauP 1993—

(a)

fel y’i cynyddir yn unol ag adran 109(28) o’r Ddeddf honno (cynnydd blynyddol mewn pensiynau lleiafswm gwarantedig), a

(b)

os gwnaed gostyngiad o dan adran 15A(29) o’r Ddeddf honno (gostwng lleiafswm gwarantedig o ganlyniad i ddebyd pensiwn), fel y’i gostyngwyd yn unol â’r adran honno;

mae i “lluoedd wrth gefn” yr ystyr a roddir i “reserve forces” yn adran 1(2) o Ddeddf y Lluoedd Wrth Gefn 1996(30);

ystyr “mynegai ailbrisio mewn-gwasanaeth” (“in-service revaluation index”), mewn perthynas â chynllun pensiwn, yw canran y cynnydd neu’r lleihad a wneir yn enillion pensiynadwy person, neu gyfran o’r enillion hynny sydd wedi cronni fel pensiwn, drwy’u hailbrisio tra bo’r person hwnnw mewn gwasanaeth pensiynadwy yn y cynllun pensiwn hwnnw;

ystyr “oedran LlPG” (“GMP age”) yw 65 yn achos dyn neu 60 yn achos menyw;

ystyr “oedran pensiwn arferol” (“normal pension age”), mewn perthynas â’r cynllun hwn, yw 60 fel sy’n ofynnol gan adran 10(2) o Ddeddf 2013;

mae “oedran pensiwn gohiriedig” (“deferred pension age”) yr un peth ag oedran pensiwn y wladwriaeth y person, neu 65 os yw 65 yn fwy;

ystyr “opsiwn cymudo” (“commutation option”) yw’r opsiwn i gyfnewid rhan o bensiwn am gyfandaliad—

(a)

sy’n arferadwy o dan reoliad 80 (opsiwn i gymudo rhan o’r pensiwn) mewn perthynas â phensiwn ymddeol, neu

(b)

sy’n arferadwy o dan reoliad 118 (cymudo rhan o bensiwn) mewn perthynas â phensiwn aelod â chredyd pensiwn;

ystyr “opsiwn o ran-ymddeoliad” (“partial retirement option”) yw’r opsiwn sy’n arferadwy o dan reoliad 72 (arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad);

mae i “parhad gwasanaeth” (“continuity of service”), mewn perthynas ag aelod trosiannol, yr ystyr a roddir ym mharagraff 2 o Atodlen 2;

mae i “partner sy’n cyd-fyw” (“cohabiting partner”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 85 (ystyr “partner sy’n goroesi”);

mae i “partner sy’n goroesi” (“surviving partner”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 85 (ystyr “partner sy’n goroesi”);

ystyr “pensiwn aelod â chredyd pensiwn” (“pension credit member’s pension”) yw pensiwn sy’n daladwy o dan reoliad 114 (hawlogaeth i bensiwn aelod â chredyd pensiwn);

ystyr “pensiwn afiechyd haen isaf” (“lower tier ill-health pension”) yw pensiwn afiechyd haen isaf sy’n daladwy o dan reoliad 74(1) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf);

ystyr “pensiwn afiechyd haen uchaf” (“higher tier ill-health pension”) yw pensiwn afiechyd haen uchaf sy’n daladwy o dan reoliad 74(2) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf);

ystyr “pensiwn enilledig” (“earned pension”) yw pensiwn enilledig sy’n daladwy heb ostyngiad actiwaraidd yn yr oedran pensiwn arferol;

mae i “pensiwn enilledig cronedig” (“accrued earned pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 32(3) (cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol);

ystyr “pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb” (“club transfer earned pension”) yw pensiwn sy’n briodoladwy i dderbyniad o daliad gwerth trosglwyddiad clwb;

mae i “pensiwn enilledig ymddeol” (“retirement earned pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 60(2) (y cyfrif i bennu swm y pensiwn ymddeol (aelodau actif));

ystyr “pensiwn partner sy’n goroesi” (“surviving partner’s pension”) yw pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi o dan reoliad 87 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod actif), rheoliad 88 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod gohiriedig) neu reoliad 89 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod-bensiynwr);

mae i “pensiwn plentyn cymwys” (“eligible child’s pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 93 (pensiwn plentyn cymwys);

ystyr “pensiwn trosglwyddedig” (“transferred pension”) yw pensiwn sydd i’w briodoli i dderbyn taliad gwerth trosglwyddiad;

mae i “pensiwn ychwanegol cronedig” (“accrued added pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 32(4) (cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol);

mae i “pensiwn ychwanegol ymddeol” (“retirement added pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 60(3) (y cyfrif i bennu swm y pensiwn ymddeol (aelodau actif));

ystyr “pensiwn ymddeol” (“retirement pension”) yw—

(a)

mewn perthynas ag aelod-bensiynwr a oedd yn aelod actif ar yr adeg yr hawliodd bensiwn ymddeol, pensiwn enilledig ymddeol, a phensiwn ychwanegol ymddeol (os oes un);

(b)

mewn perthynas ag aelod-bensiynwr a oedd yn aelod gohiriedig ar yr adeg yr hawliodd bensiwn ymddeol, swm y pensiwn gohiriedig ymddeol;

mae i “person cymwys” (“eligible person”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 16 (personau cymwys);

mae i “plentyn cymwys” (“eligible child”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 94 (ystyr “plentyn cymwys”);

ystyr “rôl” (“role”), mewn perthynas â diffoddwr tân, yw’r rôl y cyflogir y diffoddwr tân ynddi am y tro, sef rôl a nodir yn “Fire and Rescue Services Rolemaps” a ddyroddwyd gan Gyd-gyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Tân ac Achub yr Awdurdodau Lleol yn Awst 2005(31);

mae i “rheolwr cynllun” (“scheme manager”), ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu’n wahanol, yr ystyr a roddir yn rheoliad 4 (rheolwr cynllun);

mae i “swm dros dro o bensiwn gohiriedig” (“provisional amount of deferred pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 54 (swm dros dro o bensiwn gohiriedig);

ystyr “swm y cymudiad” (“the commutation amount”), mewn perthynas â phensiwn, yw swm y pensiwn a gyfnewidir am gyfandaliad o ganlyniad i arfer yr opsiwn cymudo;

ystyr “swm y dyraniad” (“allocation amount”) yw swm y pensiwn a ddyrennir o ganlyniad i wneud dewisiad i ddyrannu;

mae i “swm y pensiwn enilledig cronedig” (“amount of accrued earned pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 32(3) (cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol);

mae i “swm y pensiwn gohiriedig ymddeol” (“retirement amount of deferred pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 55(3) (swm y pensiwn gohiriedig ymddeol);

ystyr “swm y pensiwn ychwanegol” (“amount of added pension”) yw’r symiau a gredydir i’r cyfrif pensiwn ychwanegol o dan baragraffau 11 neu 14 o Atodlen 1;

mae i “swm y pensiwn ychwanegol cronedig” (“amount of accrued added pension”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 32(4) (cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol);

ystyr “tâl cyfeirio” (“reference pay”), mewn perthynas â thâl diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol am unrhyw gyfnod, yw tâl pensiynadwy cyfwerth ag amser cyflawn am y cyfnod hwnnw y byddai diffoddwr tân rheolaidd sy’n cael ei gyflogi mewn rôl debyg a chyda gwasanaeth cymwys cyfwerth yn ei gael;

mae i “tâl lwfans blynyddol” (“annual allowance charge”) yr ystyr a roddir yn adran 227 (tâl lwfans blynyddol) o DC 2004(32);

mae i “tâl pensiynadwy” (“pensionable pay”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 26 (tâl pensiynadwy);

mae i “tâl pensiynadwy tybiedig” (“assumed pensionable pay”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 27 (ystyr “tâl pensiynadwy tybiedig”);

ystyr “tâl statudol” (“statutory pay”) yw—

(a)

tâl mabwysiadu statudol yn yr ystyr a roddir i “statutory adoption pay” yn adran 171ZL(1) (hawlogaeth) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(33),

(b)

tâl mamolaeth statudol yn yr ystyr a roddir i “statutory materity pay” yn adran 164(1) (tâl mamolaeth statudol – hawlogaeth a rhwymedigaeth i dalu) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(34),

(c)

tâl tadolaeth statudol arferol yn yr ystyr a roddir i “ordinary statutory paternity pay” yn adran 171ZA(1) (hawlogaeth: genedigaeth) neu 171ZB(1) (hawlogaeth: mabwysiadu) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(35), neu

(d)

tâl tadolaeth statudol ychwanegol yn yr ystyr a roddir i “additional statutory paternity pay” yn adran 171ZEA(1) (hawlogaeth i gael tâl tadolaeth statudol ychwanegol: genedigaeth) neu 171ZEB(1) (hawlogaeth i gael tâl tadolaeth statudol ychwanegol: mabwysiadu) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(36);

ystyr “taliad gwerth trosglwyddiad” (“transfer value payment”) yw taliad o werth trosglwyddiad;

ystyr “taliad gwerth trosglwyddiad clwb” (“club transfer value payment”) yw taliad o werth trosglwyddiad clwb;

ystyr “taliad trosglwyddo” (“transfer payment”) yw taliad gwerth trosglwyddiad neu daliad gwerth trosglwyddiad clwb;

ystyr “taliadau pensiwn ychwanegol” (“added pension payments”) yw naill ai taliadau rheolaidd neu gyfandaliad ar gyfer pensiwn ychwanegol, a wneir i’r cynllun hwn;

ystyr “trefniadau trosglwyddiadau clwb” (“club transfer arrangements”) yw trefniadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru fel rhai sy’n darparu trefniadau cilyddol rhwng y cynllun hwn a chynlluniau pensiwn galwedigaethol cofrestredig eraill ar gyfer gwneud a chael taliadau o werthoedd trosglwyddiad clwb;

ystyr “trosglwyddiad clwb” (“club transfer”) yw trosglwyddiad i mewn i’r cynllun hwn neu allan ohono o dan y trefniadau trosglwyddiadau clwb;

mae i “ychwanegiad oedran” (“age addition”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 35 (penderfynu’r “ychwanegiad oedran”);

mae i “ychwanegiad oedran tybiedig” (“assumed age addition”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 36 (penderfynu’r “ychwanegiad oedran tybiedig”);

ystyr “YMCA” (“IQMP”) yw ymarferydd meddygol sydd â diploma mewn meddygaeth alwedigaethol neu gymhwyster cyfwerth neu uwch a ddyroddwyd gan awdurdod cymwys mewn Gwladwriaeth AEE, neu sy’n Gydymaith, Aelod neu Gymrawd o’r Gyfadran Meddygaeth Alwedigaethol neu sefydliad cyfwerth mewn Gwladwriaeth AEE; ac at ddibenion y diffiniad hwn, mae i “awdurdod cymwys” yr ystyr a roddir i “competent authority” yn adran 55(1) o Ddeddf Feddygol 1983(37).

(1)

Gweler paragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 ar gyfer y diffiniad o “fire and rescue workers”.

(2)

Diwygiwyd adran 27 gan baragraff 1 o Atodlen 17 i Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006 (p. 52).

(3)

Mewnosodwyd adran 75A gan adran 3 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22). Fe’i diwygiwyd gan adrannau 118, 121 a 122 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), a chan baragraff 33 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18).

(4)

1996 p. 18; mewnosodwyd adran 75B gan Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22), adran 3.

(5)

Amnewidiwyd adran 71 gan Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999. Fe’i diwygiwyd gan adran 118 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), paragraff 31 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd (p. 18) a chan adran 17 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22).

(6)

Amnewidiwyd adran 73 gan Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 (p. 26), adran 7 ac Atodlen 4.

(7)

O.S. 1999/3312, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

O.S. 2002/2788. Diwygiwyd rheoliadau 4 ac 8 gan O.S. 2005/1114 a 2014/2112.

(10)

O dan adran 9 o Ddeddf 2013, y newid mewn enillion sydd i’w gymhwyso mewn cyfnod yw’r cynnydd canran neu’r lleihad canran a bennir mewn gorchymyn Trysorlys o dan yr adran honno mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw.

(13)

O.S. 2007/1072 (Cy. 110); gwnaed diwygiadau i Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(14)

O.S. 1996/1172. Diwygiwyd rheoliad 55(2) gan O.S. 2014/560.

(15)

O.S. 1992/129. Newidiwyd enw’r cynllun i Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) gan O.S. 2004/2918 (Cy. 257). Nid yw’r diwygiadau eraill a wnaed yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(16)

Gwnaed diwygiadau perthnasol i adran 1 gan adran 239 o Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35) a chan O.S. 2007/3014.

(21)

Diwygiwyd adran 8(2) gan Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p. 7), adran 1(5) a chan DLlPh 1999 (p. 30), adran 39(1) a (4). Caniateir cymhwyso adran 8(2) o DPC 1971 yn ddarostyngedig i ba bynnag newidiadau, addasiadau ac eithriadau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 5(3) o’r Ddeddf honno.

(22)

Diwygiwyd adran 28 gan Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004 (p. 33), Atodlen 27, paragraff 159 ac Atodlen 30, paragraff 1; Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 18 a Deddf Pensiynau 2008 (p. 30), adran 128.

(23)

Gweler adran 18(2) o Ddeddf 2013 ar gyfer ystyr “existing scheme”.

(24)

1995 p. 26. Gwnaed diwygiadau i adran 124(1) o’r Ddeddf honno nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(25)

Amnewidiwyd adran 228 gan Ddeddf Cyllid 2011 (p. 11), Atodlen 17, paragraffau 1 a 4 ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Cyllid 2013 (p. 29), adran 49.

(26)

Diwygiwyd adran 14 gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26), Atodlen 5, paragraff 27 ac Atodlen 7, Rhan 3; Deddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau etc.) 1999 (p. 2), Atodlen 1, paragraff 38; a Deddf Enillion Troseddau 2002 (p. 29), Atodlen 11, paragraffau 1 a 22.

(28)

Diwygiwyd adran 109 gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26), adran 55 ac O.S. 2005/2050.

(29)

Mewnosodwyd adran 15A gan Ddeddf Diwygio Lles a phensiynau 1999 (p. 30), adran 32(1) a (3).

(32)

Diwygiwyd adran 227 gan Ddeddf Cyllid 2011, adrannau 65 a 66, Atodlen 16, paragraff 45 ac Atodlen 17, paragraffau 1 a 3.

(33)

1992 p. 4. Mewnosodwyd adran 171ZL gan adran 4 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22), ac fe’i diwygiwyd gan adran 21 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) a chan O.S. 2006/2012.

(34)

Diwygiwyd adran 164 gan Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22), adran 20(b), Atodlen 8, paragraff 1 ac Atodlen 7, paragraff 6 a chan Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau, etc.) 1999 (p. 2), Atodlen 1, paragraff 12.

(35)

Mewnosodwyd adrannau 171ZA a 171ZB gan Ddeddf Cyflogaeth 2002, adran 2. Diwygiwyd is-adrannau (1) o’r adrannau hynny gan Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18), Atodlen 1, paragraffau 12 a 13.

(36)

Mewnosodwyd adrannau 171ZEA a 171ZEB gan adrannau 6 a 7 o Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18).

(37)

1983 p. 54; mewnosodwyd y diffiniad o “competent authority” gan O.S. 2007/3101.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources