- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
85.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person yn bartner sy’n goroesi mewn perthynas ag aelod os yw’r person hwnnw, ar ddyddiad marwolaeth yr aelod—
(a)yn briod â’r aelod neu’n bartner sifil i’r aelod;
(b)yn cyd-fyw â’r aelod ac—
(i)nad yw’n briod â’r aelod hwnnw nac mewn partneriaeth sifil â’r aelod hwnnw,
(ii)nad yw’n briod ag unrhyw berson arall nac yn bartner sifil i unrhyw berson arall,
(iii)gallai ymuno mewn priodas neu bartneriaeth sifil â’r aelod o dan gyfraith Cymru a Lloegr ond nad yw wedi gwneud hynny,
(iv)yn ddibynnol yn ariannol ar yr aelod o’r cynllun, neu mewn cyflwr o gyd-ddibyniaeth ariannol gilyddol â’r aelod o’r cynllun, a
(v)mewn perthynas hirdymor â’r aelod o’r cynllun.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “perthynas hirdymor” (“long-term relationship”) yw perthynas sydd wedi parhau am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf, sy’n diweddu ar y dyddiad y digwydd i fater statws y person mewn perthynas â’r aelod gael ei ystyried, neu pa bynnag gyfnod byrrach a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun mewn unrhyw achos priodol.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “partner sy’n cyd-fyw” (“cohabiting partner”) yw person sy’n bodloni’r gofynion ym mharagraff (1)(b).
86. At ddibenion y Rhan hon, ystyr “cyfnod dechreuol” (“initial period”) yw’r cyfnod o 13 wythnos sy’n cychwyn ar y diwrnod ar ôl marwolaeth yr aelod, pan ganiateir i bensiwn profedigaeth fod yn daladwy i unrhyw bartner sy’n goroesi neu i blentyn cymwys.
87.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phartner sy’n goroesi aelod a fu farw, os oedd yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod actif gyda mwy na thri mis o wasanaeth cymwys.
(2) Mae hawl gan bartner sy’n goroesi, ac y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, i gael pensiwn partner sy’n goroesi.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 91 (lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang), cyfradd flynyddol pensiwn y partner sy’n goroesi yw swm sy’n hafal i hanner y pensiwn y byddai hawl gan yr aelod i’w gael pe bai’r aelod wedi ymddeol ar sail afiechyd gyda dyfarniad o bensiwn afiechyd haen uchaf ar ddyddiad marwolaeth yr aelod.
88.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phartner sy’n goroesi aelod a oedd, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod gohiriedig.
(2) Mae hawl gan bartner sy’n goroesi, ac y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, i gael pensiwn partner sy’n goroesi.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 91 (lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang), cyfradd flynyddol pensiwn y partner sy’n goroesi yw swm sy’n hafal i hanner y swm dros dro o bensiwn gohiriedig a bennir yng nghyfrif yr aelod gohiriedig a swm y pensiwn ychwanegol (os oes un) a bennir yn y cyfrif pensiwn ychwanegol.
89.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phartner sy’n goroesi aelod (P) a oedd, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod-bensiynwr.
(2) Mae hawl gan bartner sy’n goroesi, ac y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, i gael pensiwn partner sy’n goroesi.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 91 (lleihau pensiynau mewn achosion o wahaniaeth oedran eang), cyfradd flynyddol pensiwn y partner sy’n goroesi yw swm sy’n hafal i hanner swm y gyfradd flynyddol o bensiwn ymddeol a oedd yn daladwy i P yn union cyn ei farwolaeth.
(4) Os oedd gostyngiad talu’n gynnar wedi ei wneud ar ymddeoliad P, y swm ym mharagraff (2) yw hanner y swm o bensiwn ymddeol a fyddai wedi bod yn daladwy i P pe na bai’r gostyngiad hwnnw wedi ei wneud.
90.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae hawl gan bartner sy’n goroesi aelod actif, neu aelod-bensiynwr, i gael pensiwn profedigaeth am y cyfnod dechreuol.
(2) Nid oes hawl gan bartner sy’n goroesi aelod actif i gael pensiwn profedigaeth os nad oedd gan yr aelod actif dri mis o leiaf o wasanaeth cymwys.
(3) Os oedd yr aelod yn aelod actif ar ddyddiad ei farwolaeth, mae swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraff (1) yn hafal i’r gwahaniaeth rhwng swm wythnosol y tâl pensiynadwy a delid i’r aelod ar ddyddiad ei farwolaeth neu, os trinnid yr aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, y swm wythnosol o dâl pensiynadwy tybiedig, a swm wythnosol pensiwn y partner sy’n goroesi.
(4) Os oedd yr aelod yn aelod-bensiynwr ar ddyddiad ei farwolaeth, mae swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraff (1) yn hafal i’r gwahaniaeth rhwng swm wythnosol y pensiwn yr oedd hawl gan yr aelod i’w gael ar ddyddiad ei farwolaeth, a swm wythnosol pensiwn y partner sy’n goroesi.
91.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yw pensiwn partner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod o’r cynllun hwn, yn daladwy i berson sydd dros 12 mlynedd yn iau na’r aelod.
(2) Gostyngir cyfradd flynyddol y pensiwn hwnnw gan y lleiaf o’r canlynol—
(a)50% o swm cyfradd flynyddol y pensiwn a gyfrifwyd felly; neu
lle mae N yn dynodi’r nifer o flynyddoedd cyfan y mae’r partner sy’n goroesi yn iau na’r aelod.
92.—(1) Os oes gan berson sy’n briod neu’n bartner sifil sy’n goroesi aelod actif, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr ymadawedig, leiafswm gwarantedig o dan adran 17(1) o DCauP 1993 mewn perthynas â buddion mewn cysylltiad â’r aelod ymadawedig o dan y cynllun hwn—
(a)nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n caniatáu, nac yn ei gwneud yn ofynnol, unrhyw beth a fyddai’n peri i ofynion a wnaed gan, neu o dan, y Ddeddf honno mewn perthynas â pherson o’r fath, a hawliau person o’r fath o dan gynllun, beidio â chael eu bodloni yn achos y person;
(b)nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n rhwystro unrhyw beth rhag cael ei wneud, sy’n angenrheidiol neu’n hwylus at y diben o fodloni gofynion o’r fath yn achos y person.
(2) Nid yw paragraffau (3) a (4) yn lleihau dim ar gyffredinolrwydd paragraff (1).
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan, ac eithrio o ganlyniad i’r rheoliad hwn—
(a)na fyddai pensiwn yn daladwy i’r partner sy’n goroesi o dan y Rhan hon; neu
(b)byddai cyfradd wythnosol y pensiynau sy’n daladwy yn llai na’r lleiafswm gwarantedig.
(4) Os yw paragraff (3) yn gymwys—
(a)mae pensiwn sydd â’i gyfradd wythnosol yn hafal i’r lleiafswm gwarantedig yn daladwy am ei oes i’r partner sy’n goroesi neu, yn ôl fel y digwydd, bydd pensiynau sydd â’u cyfradd wythnosol gyfanredol yn hafal i’r lleiafswm gwarantedig yn daladwy felly; neu
(b)os yw paragraff (3)(b) yn gymwys, cynyddir y pensiynau sy’n daladwy i’r swm a bennir yn is-baragraff (a).
(5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys i bensiwn—
(a)sydd wedi ei fforffedu—
(i)o ganlyniad i gollfarn am frad, neu
(ii)mewn achos pan fo’r drosedd berthnasol o dan reoliad 181 (fforffedu: troseddau a gyflawnir gan aelodau, partneriaid sy’n goroesi neu blant cymwys) yn dod o fewn paragraff (b) o’r diffiniad, yn y rheoliad hwnnw, o “trosedd berthnasol” (troseddau o dan y Deddfau Cyfrinachau Swyddogol); neu
(b)pan fo’r pensiwn hwnnw wedi ei gymudo o dan reoliad 177 (cymudo pensiynau bach), a’r amodau yn rheoliad 60 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Contractio Allan) 1996(2) wedi eu bodloni.
93.—(1) Os bydd farw aelod, sydd â thri mis o leiaf o wasanaeth cymwys, gan adael plentyn cymwys, mae pensiwn plentyn cymwys yn daladwy, a phensiwn profedigaeth, wrth ddibynnu ar amgylchiadau’r aelod ymadawedig, yn daladwy, mewn cysylltiad â’r plentyn.
(2) Nid oes pensiwn plentyn cymwys yn daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod cyn genedigaeth plentyn.
(3) Os yw’r plentyn, ar ôl dyddiad marwolaeth yr aelod, yn peidio â bod yn blentyn cymwys bydd y pensiwn yn peidio â bod yn daladwy oni bai a hyd nes bo’r plentyn yn dod yn blentyn cymwys drachefn; ond os na fydd y plentyn yn peidio â bod yn blentyn cymwys, bydd y pensiwn yn daladwy am ei oes.
94.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, mewn perthynas ag aelod ymadawedig, ystyr “plentyn” (“child”) yw—
(a)plentyn naturiol, llysblentyn neu blentyn mabwysiedig yr aelod; neu
(b)plentyn naturiol, llysblentyn neu blentyn mabwysiedig priod yr aelod, neu blentyn naturiol, llysblentyn neu blentyn mabwysiedig i bartner sifil yr aelod neu i bartner a oedd yn cyd-fyw â’r aelod; neu
(c)unrhyw blentyn naturiol yr aelod, a anwyd ar ôl marwolaeth yr aelod, ac yr oedd mam y plentyn yn feichiog â’r plentyn hwnnw ar ddyddiad marwolaeth yr aelod.
(2) Mae plentyn yr aelod ymadawedig yn “blentyn cymwys” (“eligible child”)—
(a)os oedd y plentyn, ar ddyddiad marwolaeth yr aelod ymadawedig, yn ddibynnol yn ariannol ar yr aelod ymadawedig hwnnw;
(b)os nad oedd y plentyn yn briod neu mewn partneriaeth sifil; ac
(c)os yw’r plentyn yn bodloni unrhyw un o’r amodau A i C.
(3) Amod A yw fod y person o dan 18 mlwydd oed.
(4) Amod B yw fod y person mewn addysg amser llawn neu ar gwrs sy’n parhau am o leiaf un flwyddyn, ac nad yw’r person wedi cyrraedd 23 mlwydd oed.
(5) Amod C yw fod y person, oherwydd ei anallu meddyliol neu gorfforol parhaol, yn ddibynnol ar yr aelod ymadawedig ar ddyddiad marwolaeth yr aelod ymadawedig.
95.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phlentyn cymwys aelod a fu farw, os oedd yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod actif a chanddo fwy na thri mis o wasanaeth cymwys.
(2) Cyfradd flynyddol pensiwn plentyn cymwys y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo yw swm sy’n hafal i’r gyfran benodedig o’r pensiwn y byddai hawl gan yr aelod i’w chael pe bai’r aelod wedi ymddeol ar sail afiechyd gyda dyfarniad o bensiwn afiechyd haen uchaf ar y dyddiad y bu farw’r aelod.
96.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phlentyn cymwys aelod a fu farw, os oedd yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod gohiriedig.
(2) Y gyfradd flynyddol o bensiwn plentyn cymwys yw swm sy’n hafal i’r gyfran benodedig o swm dros dro o bensiwn gohiriedig a bennir yn y cyfrif aelod gohiriedig a swm y pensiwn ychwanegol (os oes un) a bennir yn y cyfrif pensiwn ychwanegol.
97.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phlentyn cymwys aelod a fu farw, os oedd yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn aelod-bensiynwr (P).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), cyfradd flynyddol o bensiwn plentyn cymwys yw swm sy’n hafal i’r gyfran benodedig o swm y pensiwn ymddeol a oedd yn daladwy i P yn union cyn ei farwolaeth.
(3) Os gwnaed gostyngiad talu’n gynnar ar ymddeoliad P, y swm ym mharagraff (2) yw’r gyfran benodedig o swm y pensiwn ymddeol a fyddai wedi bod yn daladwy pe na bai’r gostyngiad hwnnw wedi ei wneud.
98.—(1) Y gyfran benodedig yw un chwarter os oes un plentyn cymwys ar ddyddiad marwolaeth yr aelod.
(2) Os oes mwy nag un plentyn cymwys ar ddyddiad marwolaeth yr aelod, y gyfran benodedig yw hanner y pensiwn a grybwyllir yn rheoliadau 95 (pensiwn plentyn cymwys ar farwolaeth aelod actif), 96 (pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy ar farwolaeth aelod gohiriedig) a 97 (pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr) wedi ei rannu â nifer y plant cymwys fel bod pob plentyn cymwys yn cael cyfran gyfartal.
(3) Os yw person yn peidio â bod yn blentyn cymwys, rhaid i daliadau pensiwn y person hwnnw beidio, ac os oes dal mwy nag un plentyn cymwys, rhaid i swm y pensiwn hwnnw gael ei ddosrannu’n gyfartal rhwng y plant cymwys sy’n weddill (os oes rhai).
99.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os nad oedd gan unrhyw berson, ar ddyddiad marwolaeth yr aelod, hawl i gael pensiwn partner sy’n goroesi.
(2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, ac os oes plentyn cymwys, mae hawl gan y plentyn hwnnw hefyd i gael y swm o bensiwn yn unol â pharagraffau (3) neu (4) y byddai partner sy’n goroesi wedi ei gael—
(a)o dan reoliad 87 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod actif) os oedd yr aelod (P) yn aelod actif ar ddyddiad ei farwolaeth;
(b)o dan reoliad 88 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod gohiriedig) os oedd P yn aelod gohiriedig ar ddyddiad ei farwolaeth;
(c)o dan reoliad 89 (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod-bensiynwr) os oedd P yn aelod-bensiynwr ar ddyddiad ei farwolaeth.
(3) Os nad oes dim ond un plentyn cymwys, bydd y plentyn hwnnw’n cael swm ychwanegol sy’n hafal i’r swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2).
(4) Os oes mwy nag un plentyn cymwys ar ddyddiad marwolaeth P, rhennir y swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2) rhwng nifer y plant cymwys, fel bod pob plentyn cymwys yn cael cyfran gyfartal.
(5) Os yw person yn peidio â bod yn blentyn cymwys, rhaid i daliadau cyfran y person hwnnw o’r swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2) beidio, a rhaid dosrannu’r gyfran honno yn gyfartal rhwng y plant cymwys sy’n weddill (os oes rhai).
100. Os oedd buddion yr aelod, ar ddyddiad ei farwolaeth, yn ddarostyngedig i ostyngiad o dan adran 31 o DDLlPh 1999, rhaid cyfrifo unrhyw bensiwn plentyn cymwys fel pe na bai’r gostyngiad hwnnw wedi ei wneud.
101.—(1) Os nad oes pensiwn partner sy’n goroesi yn daladwy ar farwolaeth yr aelod, mae pensiwn profedigaeth yn daladwy i blentyn cymwys sydd â hawl i gael pensiwn plentyn cymwys ar farwolaeth aelod actif neu aelod-bensiynwr.
(2) Os bydd farw’r partner sy’n goroesi cyn diwedd y cyfnod dechreuol, a phensiwn profedigaeth yn daladwy i’r partner sy’n goroesi, mae pensiwn profedigaeth yn daladwy i unrhyw blentyn cymwys am y rhan o’r cyfnod dechreuol sy’n weddill, neu, os yw’n gynharach, hyd nes bo’r plentyn yn peidio â bod yn gymwys i gael pensiwn plentyn cymwys.
(3) Os oedd yr aelod yn aelod actif ar ddyddiad ei farwolaeth, mae swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraffau (1) neu (2) yn hafal i’r gwahaniaeth rhwng swm wythnosol y tâl pensiynadwy a delid i’r aelod ar ddyddiad ei farwolaeth neu, os trinnid yr aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, y swm wythnosol o dâl pensiynadwy tybiedig, a swm wythnosol y pensiwn partner sy’n goroesi.
(4) Os oedd yr aelod yn aelod-bensiynwr, mae swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraffau (1) neu (2) yn hafal i’r gwahaniaeth rhwng swm wythnosol y pensiwn yr oedd hawl gan yr aelod i’w gael ar ddyddiad ei farwolaeth a swm wythnosol y pensiwn partner sy’n goroesi.
(5) Os oes mwy nag un plentyn cymwys, rhennir swm wythnosol y pensiwn profedigaeth sy’n daladwy o dan baragraffau (1) neu (2) gyda nifer y plant cymwys, fel bod pob plentyn cymwys yn cael cyfran gyfartal.
(6) Os yw person yn peidio â bod yn blentyn cymwys cyn diwedd y cyfnod dechreuol, rhaid i daliadau cyfran y person hwnnw o’r pensiwn profedigaeth beidio, a rhaid dosrannu’r gyfran honno yn gyfartal rhwng y plant cymwys sy’n weddill (os oes rhai).
102.—(1) Yn y Bennod hon, ystyr “tâl terfynol” (“final pay”) yw’r mwyaf o’r canlynol—
(a)swm tâl pensiynadwy yr aelod yn ystod y cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod yn y cyfnod o 365 diwrnod sy’n diweddu gyda’r diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy; a
(b)swm tâl pensiynadwy yr aelod yn ystod y cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod yn y cyfnod o dair blynedd sy’n diweddu gyda’r diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy, wedi ei rannu gyda thri.
(2) Os oedd y cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod yn llai na 365 diwrnod, y swm ym mharagraff (1)(a) yw swm sy’n hafal i dâl blynyddol terfynol yr aelod;
(3) At y diben o benderfynu pa un o’r symiau a grybwyllir ym mharagraff (1) yw’r mwyaf—
(a)os oedd y cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod yn llai na thair blynedd, y swm ym mharagraff (1)(b) yw cyfanswm y tâl pensiynadwy a gafodd am y gwasanaeth hwnnw wedi ei rannu gyda nifer y blynyddoedd mewn gwasanaeth pensiynadwy, a gyfrifir yn unol â rheoliad 192 (cyfrifo cyfnodau o aelodaeth a gwasanaeth); a
(b)os trinnir aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig ar gyfer unrhyw gyfnod a gynhwysir ym mharagraff (1)(a) neu (1)(b), mae tâl pensiynadwy yn y rheoliad hwn yn cynnwys y tâl pensiynadwy tybiedig hwnnw.
(4) Ond os yw’r cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yn cynnwys y diwrnod 29 Chwefror, mae paragraffau (1)(a) a (2) yn cael effaith fel pe rhoddid “366” yn lle “365”.
103.—(1) At ddibenion y Bennod hon, tâl blynyddol terfynol aelod yw TT x 365/N, lle—
(a)TT yw tâl pensiynadwy yr aelod yn ystod cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr aelod; a
(b)N yw nifer y diwrnodau yn y cyfnod hwnnw.
(2) Ond os yw’r cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy yn cynnwys y diwrnod 29 Chwefror, mae paragraff (1) yn cael effaith fel pe rhoddid “366” yn lle “365”.
104. Caiff y rheolwr cynllun, yn ôl ei ddisgresiwn absoliwt, dalu unrhyw gyfandaliad o fudd marwolaeth sy’n daladwy o dan y Bennod hon i, neu er budd, enwebai’r aelod, ei gynrychiolwyr personol, neu unrhyw berson y mae’n ymddangos i’r rheolwr cynllun a fu’n berthynas neu’n ddibynnydd yr aelod.
105.—(1) Os bydd farw aelod actif, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu cyfandaliad budd marwolaeth.
(2) Swm y cyfandaliad budd marwolaeth yw swm sy’n hafal i dair gwaith swm tâl terfynol yr aelod.
(3) Os oes gan aelod actif fwy nag un cyfrif aelod actif, mae cyfandaliad budd marwolaeth yn daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r cyfrifon hynny.
106.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os bydd farw aelod-bensiynwr o fewn pum mlynedd ar ôl i’r pensiwn ddod yn daladwy.
(2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu cyfandaliad budd marwolaeth.
(3) Mae swm y cyfandaliad budd marwolaeth yn hafal i—
(a)cyfanswm blynyddol pensiynau’r aelod, wedi ei luosi gyda phump; llai
(b)cyfanswm unrhyw daliadau pensiwn a wnaed i’r aelod o dan y cynllun hwn.
(4) Ym mharagraff (3)(a), ystyr “cyfanswm blynyddol pensiynau’r aelod” (“total annual amount of the member’s pensions”) yw cyfanswm y gyfradd flynyddol o bensiwn ymddeol a ddangosir yng nghyfrifon pensiwn yr aelod, a gyfrifir fel pe bai dyddiad marwolaeth yr aelod yn ddyddiad cychwyn ar gyfer y pensiwn hwnnw.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, diystyrir unrhyw symiau a dalwyd, neu sy’n daladwy i’r aelod, neu mewn cysylltiad â’r aelod, yn y swyddogaeth o aelod â chredyd pensiwn.
107. Os oedd person (P) ar yr adeg y bu P farw, yn aelod-bensiynwr o’r cynllun hwn ac yn aelod actif o’r cynllun hwn, swm y cyfandaliad budd marwolaeth sy’n daladwy yw’r mwyaf o swm y cyfandaliad budd marwolaeth taladwy o dan reoliad 105 (cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod actif) a swm y cyfandaliad budd marwolaeth taladwy o dan reoliad 106 (cyfandaliad sy’n daladwy ar farwolaeth aelod-bensiynwr).
108.—(1) Os bydd farw aelod â chredyd pensiwn cyn bod unrhyw fuddion sy’n deillio o gredyd pensiwn wedi dod yn daladwy i’r aelod, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu cyfandaliad budd marwolaeth yn unol â pharagraff (2).
(2) Mae swm y cyfandaliad budd marwolaeth yn hafal i luoswm 2.25 a chyfradd flynyddol y pensiwn y byddai’r aelod â chredyd pensiwn wedi bod â hawl i gael, pe bai hawl wedi bod ganddo i gael taliad o’r pensiwn ar unwaith ar ddyddiad ei farwolaeth.
(3) Os bydd farw aelod â chredyd pensiwn o fewn pum mlynedd wedi i bensiwn yr aelod â chredyd pensiwn ddod yn daladwy, a chyn iddo gyrraedd 75 mlwydd oed, rhaid i’r rheolwr cynllun dalu cyfandaliad budd marwolaeth yn unol â pharagraff (4).
(4) Swm y cyfandaliad budd marwolaeth yw’r gwahaniaeth rhwng—
(a)y swm sy’n bum gwaith swm pensiwn yr aelod â chredyd pensiwn; a
(b)y rhandaliadau o bensiwn sydd wedi eu talu.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “swm pensiwn yr aelod â chredyd pensiwn” (“amount of the pension credit member’s pension”) yw swm blynyddol y pensiwn hwnnw ar y dyddiad y daeth pensiwn yr aelod â chredyd pensiwn yn daladwy.
(6) Os oedd yr aelod ymadawedig yn aelod â chredyd pensiwn gyda hawl i gael dau neu ragor o gredydau pensiwn, mae cyfandaliadau budd marwolaeth o dan y cynllun hwn yn daladwy mewn cysylltiad â’r aelod fel pe bai’r aelod yn ddau neu ragor o aelodau, pob un â hawl i gael un o’r credydau pensiwn.
109.—(1) Mae pensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys yn daladwy o’r diwrnod ar ôl dyddiad marwolaeth yr aelod.
(2) Rhaid talu pensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy mewn cysylltiad â phlentyn cymwys o dan 18 mlwydd oed i ba bynnag berson arall a benderfynir gan y rheolwr cynllun, a rhaid i’r rheolwr cynllun ei gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw’n ei ddefnyddio er budd y plentyn cymwys yn unol â chyfarwyddiadau’r rheolwr cynllun.
110.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)os, ar farwolaeth aelod, dyfarnwyd a thalwyd pensiwn o dan y Rhan hon; a
(b)os, yn ddiweddarach, mae’n ymddangos i’r rheolwr cynllun fod yr aelod neu’r person y talwyd y pensiwn iddo wedi gwneud datganiad anwir neu wedi celu yn fwriadol ffaith berthnasol mewn cysylltiad â’r dyfarniad.
(2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, caiff y rheolwr cynllun—
(a)peidio â thalu’r pensiwn; a
(b)adennill unrhyw daliad a wnaed o dan y dyfarniad.
(3) Nid yw paragraff (2) yn effeithio ar hawl y rheolwr cynllun i adennill taliad neu or-daliad o dan unrhyw ddarpariaeth arall pan fo’r rheolwr cynllun o’r farn y byddai’n briodol gwneud hynny.
111.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yn dilyn marwolaeth aelod actif, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr—
(a)telir pensiwn mewn cysylltiad ag un neu ragor o bersonau o dan y Rhan hon ar y sail eu bod yn blant cymwys ar ddyddiad marwolaeth yr aelod, ac nad oedd unrhyw blant cymwys eraill ar y pryd; a
(b)yn ddiweddarach, mae’n ymddangos—
(i)nad oedd person, y talwyd pensiwn o’r fath mewn cysylltiad ag ef, yn blentyn cymwys ar ddyddiad y farwolaeth,
(ii)bod person ychwanegol yn blentyn cymwys, neu
(iii)bod plentyn a anwyd ar ôl marwolaeth yr aelod yn blentyn cymwys.
(2) Caiff y rheolwr cynllun wneud pa bynnag addasiadau sy’n ofynnol yn wyneb y ffeithiau fel y maent yn ymddangos yn ddiweddarach, yn swm y pensiynau sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r plant dan sylw, a chaiff yr addasiadau hynny fod yn gymwys yn ôl-weithredol.
(3) Nid yw paragraff (2) yn effeithio ar hawl y rheolwr cynllun i adennill taliad neu or-daliad mewn unrhyw achos pan fo’r rheolwr cynllun o’r farn y byddai’n briodol gwneud hynny.
112.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (P) a fyddai’n gymwys i gael buddion fel partner sy’n goroesi neu fel plentyn cymwys yn dilyn marwolaeth aelod actif, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr, wedi ei gollfarnu am lofruddiaeth neu ddynladdiad yr aelod hwnnw, a’r gollfarn honno wedi ei diddymu yn ddiweddarach, yn dilyn apêl.
(2) Os yw P wedyn yn gymwys i gael pensiwn partner sy’n goroesi, bydd unrhyw gynnydd mewn pensiwn plentyn cymwys o dan reoliad 99 (cynnydd mewn pensiwn plentyn cymwys pan nad oes partner sy’n goroesi) yn peidio â bod yn daladwy o’r dyddiad y diddymir y gollfarn.
(3) Os yw P wedyn yn gymwys i gael pensiwn plentyn cymwys, ac os oes mwy nag un person yn cael pensiwn plentyn cymwys ar y diwrnod cyn y diddymir y gollfarn, bydd swm pob pensiwn plentyn cymwys yn cael ei ostwng, o’r dyddiad y diddymir y gollfarn, i’r swm o bensiwn plentyn cymwys a benderfynir yn unol â’r gyfran benodedig a fyddai wedi bod yn gymwys i’r nifer hwnnw o blant cymwys.
113.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os—
(a)bydd farw aelod ar ôl cyrraedd 75 mlwydd oed; a
(b)ac eithrio o dan y rheoliad hwn, na fyddai unrhyw ran o bensiwn, y caiff unrhyw berson yr hawl i’w gael o dan y Rhan hon yn dilyn y farwolaeth, yn gymwys fel pensiwn cynllun dibynyddion at ddibenion adran 167 o DC 2004 (y rheolau buddion marwolaeth pensiwn).
(2) Caniateir addasu’r budd sy’n daladwy i’r person ym mha bynnag fodd a benderfynir gan y rheolwr cynllun, fel y bo’n gymwys fel pensiwn cynllun dibynyddion at ddibenion adran 167 o DC 2004.
Diwygiwyd adran 17 gan Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau etc.) 1999 (p. 2), Atodlen 1, paragraff 39; Deddf Cymorth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol 2000 (p. 19), Atodlen 5, paragraff 1 ac Atodlen 9, Rhan 3; Deddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 284(2); Deddf Pensiynau 2007 (p. 22), adran 14(2); Deddf Priodasau (Cyplau o’r Un Rhyw) 2013 (p. 30), Atodlen 4, paragraffau 18 ac 20; ac O.S. 2005/2050 a 2014/560.
O.S. 1996/1172. Amnewidiwyd rheoliad 60 gan O.S. 2006/744 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2006/1337, 2009/2930 a 2010/499.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: