xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 777 (Cy. 61)

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2015

Gwnaed

17 Mawrth 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Mawrth 2015

Yn dod i rym

9 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2015. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 9 Ebrill 2015.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014

2.  Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Rheoliad 2(3)

3.  Yn lle paragraff (3) o reoliad 2 (ffioedd arolygu mewnforio), rhodder—

(3) Ond pan fo mewnforwr neu unrhyw berson arall sy’n gyfrifol am lwyth yn gwneud cais i’r gwiriad iechyd planhigion mewn perthynas â’r llwyth gael ei gynnal y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd a bod y gwiriad iechyd planhigion cyfan yn cael ei gynnal ar y llwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2)(a) mewn perthynas â’r llwyth yw—

(a)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 i’r graddau (os o gwbl) y mae’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(i) yn gymwys iddo; neu

(b)y ffi a bennir yng ngholofn 5 o Atodlen 2 i’r graddau (os o gwbl) y mae’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(ii) yn gymwys iddo.

Atodlen 2

4.  Yn lle Atodlen 2 (ffioedd arolygu mewnforio: cyfraddau gostyngol), rhodder—

Rheoliad 2(2)(a)(ii) a (3)(b)

ATODLEN 2Ffioedd Arolygu Mewnforio: Cyfraddau Gostyngol

Colofn 1 GenwsColofn 2 SwmColofn 3 Gwlad tarddiadColofn 4 Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£)Colofn 5 Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)
Blodau wedi’u torri
Dianthushyd at 20,000 o ran niferColombia1.432.15
Ecuador7.1810.77
Kenya2.393.59
Twrci11.9617.95
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynnyColombia0.01, hyd at uchafswm o 11.480.01, hyd at uchafswm o 17.23
Ecuador0.05, hyd at uchafswm o 57.430.08, hyd at uchafswm o 86.15
Kenya0.02, hyd at uchafswm o 19.140.03, hyd at uchafswm o 28.71
Twrci0.09, hyd at uchafswm o 95.730.13, hyd at uchafswm o 143.59
Rosahyd at 20,000 o ran niferColombia1.432.15
Ecuador1.432.15
Ethiopia4.787.18
Kenya2.393.59
Tanzania7.1810.77
Zambia7.1810.77
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynnyColombia0.01, hyd at uchafswm o 11.480.01, hyd at uchafswm o 17.23
Ecuador0.01, hyd at uchafswm o 11.480.01, hyd at uchafswm o 17.23
Ethiopia0.04, hyd at uchafswm o 38.290.06, hyd at uchafswm o 57.43
Kenya0.02, hyd at uchafswm o 19.140.03, hyd at uchafswm o 28.71
Tanzania0.05, hyd at uchafswm o 57.430.08, hyd at uchafswm o 86.15
Zambia0.05, hyd at uchafswm o 57.430.08, hyd at uchafswm o 86.15
Colofn 1 GenwsColofn 2 SwmColofn 3 Gwlad tarddiadColofn 4 Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd)(£)Colofn 5 Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)
Canghennau gyda deiliant
Phoenixhyd at 100 kgCosta Rica16.7525.13
am bob 100 kg ychwanegol neu ran o hynnyCosta Rica1.66, hyd at uchafswm o 134.022.49, hyd at uchafswm o 201.03
Ffrwythau
Citrushyd at 25,000 kgYr Aifft7.1810.77
Israel4.787.18
Mecsico4.787.18
Moroco2.393.59
Periw4.787.18
Tunisia35.9053.85
Twrci1.432.15
Uruguay35.9053.85
UDA7.1810.77
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyYr Aifft0.280.43
Israel0.190.28
Mecsico0.190.28
Moroco0.090.14
Periw0.190.28
Tunisia1.432.15
Twrci0.050.08
Uruguay1.432.15
UDA0.280.43
Malushyd at 25,000 kgYr Ariannin11.9617.95
Brasil11.9617.95
Chile2.393.59
Seland Newydd4.787.18
De Affrica2.393.59
UDA23.9335.90
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyYr Ariannin0.470.71
Brasil0.470.71
Chile0.090.14
Seland Newydd0.190.28
De Affrica0.090.14
UDA0.951.43
Passiflorahyd at 25,000 kgColombia4.787.18
Kenya4.787.18
De Affrica16.7525.13
Zimbabwe35.9053.85
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyColombia0.190.28
Kenya0.190.28
De Affrica0.661.00
Zimbabwe1.432.15
Colofn 1GenwsColofn 2 SwmColofn 3 Gwlad tarddiadColofn 4 Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£)Colofn 5 Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)
Prunushyd at 25,000 kgYr Ariannin23.9335.90
Chile4.787.18
Moroco23.9335.90
De Affrica4.787.18
Twrci4.787.18
UDA4.787.18
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyYr Ariannin0.951.43
Chile0.190.28
Moroco0.951.43
De Affrica0.190.28
Twrci0.190.28
UDA0.190.28
Psidiumhyd at 25,000 kgBrasil35.9053.85
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyBrasil1.432.15
Pyrushyd at 25,000 kgYr Ariannin4.787.18
Chile7.1810.77
Tsieina23.9335.90
De Affrica4.787.18
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyYr Ariannin0.190.28
Chile0.280.43
Tsieina0.951.43
De Affrica0.190.28
Vacciniumhyd at 25,000 kgYr Ariannin11.9617.95
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyYr Ariannin0.470.71
Llysiau
Capsicumhyd at 25,000 kgIsrael2.393.59
Moroco4.787.18
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyIsrael0.090.14
Moroco0.190.28
Momordicahyd at 25,000 kgSurinam16.7525.13
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnySurinam0.661.00
Solanum melongenahyd at 25,000 kgKenya4.787.18
Twrci4.787.18
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyKenya0.190.28
Twrci0.190.28

Rebecca Evans

Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

17 Mawrth 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1792 (Cy. 185)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r prif Reoliadau yn gweithredu Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1) (“y Gyfarwyddeb”). Mae Erthygl 13d o’r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol bod Aelod Wladwriaethau yn codi ffioedd i dalu am gostau’r gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion mewn perthynas â mewnforion penodol o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd a nodir yn Atodiad V, Rhan B o’r Gyfarwyddeb.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 2(3) o’r prif Reoliadau er mwyn egluro’r ffioedd sy’n daladwy mewn perthynas â gwiriadau iechyd planhigion a wneir ar lwythi (neu rannau o lwythi) y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd.

Mae Atodlen 2 i’r prif Reoliadau yn nodi’r ffioedd cyfradd ostyngol ar gyfer planhigion a chynhyrchion planhigion penodol sy’n ddarostyngedig i wiriadau iechyd planhigion lefel is a gytunwyd o dan y weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 13a(2) a 18(2) o’r Gyfarwyddeb. Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 er mwyn rhoi effaith i’r hysbysiad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ar 30 Medi 2014 am y gwiriadau iechyd planhigion lefel is sy’n gymwys i blanhigion a chynhyrchion planhigion penodol.

Mae’r cyfraddau arolygu ar gyfer Citrus o Dunisia ac Uruguay wedi cynyddu (o 25% i 75% ac o 15% i 75% yn y drefn honno) ac mae’r ffioedd wedi codi i gyfateb â hynny.

Nid yw ffrwythau Mangifera o Frasil yn gymwys mwyach ar gyfer ffioedd cyfradd ostyngol gan fod y nwydd hwn yn ddarostyngedig i gyfradd arolygu o 100%. Mae’r cofnod perthnasol, felly, wedi ei dynnu o Atodlen 2 ac mae’r ffioedd yn Atodlen 1 i’r prif Reoliadau yn cael eu cymhwyso i’r llwythi hyn.

Mae cyfraddau arolygu’r canlynol wedi gostwng ac mae’r ffioedd wedi gostwng i gyfateb â hynny: Rosa o Zambia (o 25% i 15%), Citrus o Fecsico a Pheriw (o 15% i 10%), Prunus o Dwrci ac UDA (15% i 10%), Psidium o Frasil (o 100% i 75%) a Pyrus o Chile (o 25% i 15%).

Mae ffrwythau Capsicum o Foroco yn gymwys ar gyfer ffi ar gyfradd ostyngol sy’n cyfateb i’w cyfradd arolygu o 10%. Mae’r ffi ostyngol ar gyfer y nwydd hwn wedi ei hychwanegu at Atodlen 2.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1973 p. 51. Diwygiwyd is-adran (1) gan O.S. 2011/1043, erthygl 6(1)(e).

(2)

Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).