- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1792 (Cy. 185)) (“y prif Reoliadau”).
Mae’r prif Reoliadau yn gweithredu Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1) (“y Gyfarwyddeb”). Mae Erthygl 13d o’r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol bod Aelod Wladwriaethau yn codi ffioedd i dalu am gostau’r gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion mewn perthynas â mewnforion penodol o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd a nodir yn Atodiad V, Rhan B o’r Gyfarwyddeb.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 2(3) o’r prif Reoliadau er mwyn egluro’r ffioedd sy’n daladwy mewn perthynas â gwiriadau iechyd planhigion a wneir ar lwythi (neu rannau o lwythi) y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd.
Mae Atodlen 2 i’r prif Reoliadau yn nodi’r ffioedd cyfradd ostyngol ar gyfer planhigion a chynhyrchion planhigion penodol sy’n ddarostyngedig i wiriadau iechyd planhigion lefel is a gytunwyd o dan y weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 13a(2) a 18(2) o’r Gyfarwyddeb. Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 er mwyn rhoi effaith i’r hysbysiad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ar 30 Medi 2014 am y gwiriadau iechyd planhigion lefel is sy’n gymwys i blanhigion a chynhyrchion planhigion penodol.
Mae’r cyfraddau arolygu ar gyfer Citrus o Dunisia ac Uruguay wedi cynyddu (o 25% i 75% ac o 15% i 75% yn y drefn honno) ac mae’r ffioedd wedi codi i gyfateb â hynny.
Nid yw ffrwythau Mangifera o Frasil yn gymwys mwyach ar gyfer ffioedd cyfradd ostyngol gan fod y nwydd hwn yn ddarostyngedig i gyfradd arolygu o 100%. Mae’r cofnod perthnasol, felly, wedi ei dynnu o Atodlen 2 ac mae’r ffioedd yn Atodlen 1 i’r prif Reoliadau yn cael eu cymhwyso i’r llwythi hyn.
Mae cyfraddau arolygu’r canlynol wedi gostwng ac mae’r ffioedd wedi gostwng i gyfateb â hynny: Rosa o Zambia (o 25% i 15%), Citrus o Fecsico a Pheriw (o 15% i 10%), Prunus o Dwrci ac UDA (15% i 10%), Psidium o Frasil (o 100% i 75%) a Pyrus o Chile (o 25% i 15%).
Mae ffrwythau Capsicum o Foroco yn gymwys ar gyfer ffi ar gyfradd ostyngol sy’n cyfateb i’w cyfradd arolygu o 10%. Mae’r ffi ostyngol ar gyfer y nwydd hwn wedi ei hychwanegu at Atodlen 2.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: