xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
7 Rhagfyr 2016
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(1), a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi, ar ôl ymgynghori âʼr personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft oʼr Gorchymyn hwn hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac feʼi cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enwʼr Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016.
(2) Dawʼr Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mawrth 2017 ac eithrio erthyglau 4, 6 a 7 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2017.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “corff dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning body”) yw corff y darperir adnoddau ariannol iddo yn unol ag adran 34(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(2) mewn cysylltiad â darparu dysgu seiliedig ar waith;
ystyr “corff gwirfoddol” (“voluntary body”) yw corff, ac eithrio corff syʼn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, nad yw ei weithgareddau yn cael eu cynnal er mwyn gwneud elw;
ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) yw —
awdurdod lleol yng Nghymru;
corff llywodraethu ysgol;
sefydliad addysg bellach yng Nghymru;
corff gwirfoddol, iʼr graddau bod y gwasanaethau datblygu ieuenctid a ddarperir ar gyfer neu ar ran y corff gwirfoddol yn cael eu darparu i bobl yng Nghymru;
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;
ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadauʼr Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015(3).
3.—(1) Mae Rhan 1 o Atodlen 1 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr cymwysterau gweithwyr ieuenctid at ddibenion y disgrifiad oʼr categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.
(2) Mae Rhan 2 o Atodlen 1 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr gofynion eraill sy’n bodloni dibenion y disgrifiad hwnnw.
4.—(1) Ni chaiff person syʼn dod o fewn y categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol, (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr ieuenctid.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau gweithiwr ieuenctid y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).
5.—(1) Mae Rhan 1 o Atodlen 2 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y disgrifiad oʼr categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.
(2) Mae Rhan 2 o Atodlen 2 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr gofyniad arall sy’n bodloni dibenion y disgrifiad hwnnw.
6.—(1) Ni chaiff person syʼn dod o fewn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 yn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau gweithiwr cymorth ieuenctid y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).
7.—(1) Ni chaiff person ddarparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer neu ar ran corff dysgu seiliedig ar waith (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 yn y categori ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).
8.—(1) Mae Atodlen 2 i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel y’i nodir ym mharagraffau (2) a (3).
(2) Yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 mewnosoder ar ddiwedd y Tabl—
“Gweithiwr ieuenctid | Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd— (a) yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu (b) fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw. |
Gweithiwr cymorth ieuenctid | Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd– (c) yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu (d) fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw. |
Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith | Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.” |
(3) Yn lle paragraff 3 rhodder—
“3. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning”) yw addysg neu hyfforddiant a ddarperir—
ar gyfer personau syʼn 16 oed neu’n hŷn (ni waeth pa un a yw hefyd yn cael ei ddarparu i bersonau o dan 16 oed), a
er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau syʼn berthnasol i grefft, swydd neu gyflogwr penodol;
“gwasanaethau datblygu ieuenctid” (“youth development services”) yw gwasanaethau—
a ddarperir yn bennaf i bersonau nad ydynt yn iau nag 11 oed nac yn hŷn na 25 oed, a
syʼn hybu—
datblygu sgiliau neu wybodaeth y personau hynny, neu
ddatblygiad deallusol, emosiynol neu gymdeithasol y personau hynny;
“gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning practitioner services”) yw—
cydgysylltu a chyflenwi dysgu seiliedig ar waith;
asesu gwybodaeth a sgiliau person sy’n cael (neu sydd ar fin cael) dysgu seiliedig ar waith;
ystyr “ysgol” (“school”) yw—
ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru;
ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.”
Julie James
Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
7 Rhagfyr 2016
erthygl 3
1. Nodir y cymwysterau gweithiwr ieuenctid yn y Rhan hon fel a ganlyn—
(a)mae Tabl 1 yn nodi cymwysterau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu yng Nghymru;
(b)mae Tabl 2 yn nodi cymwysterau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu yn Lloegr;
(c)mae Tabl 3 yn nodi cymwysterau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu yn yr Alban;
(d)mae Tabl 4 yn nodi cymwysterau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu yng Ngogledd Iwerddon;
(e)mae Tabl 5 yn nodi cymwysterau a ddyfernir yn y Deyrnas Unedig gan gyrff dyfarnu eraill.
Cymwysterau o ran Cymru | Corff dyfarnu |
---|---|
Diploma addysg uwch mewn addysg gymunedol | Prifysgol Metropolitan Caerdydd |
Diploma addysg uwch mewn gwaith ieuenctid a chymunedol | Prifysgol Glyndŵr |
Diploma ôl-raddedig mewn addysg ieuenctid a chymunedol | Prifysgol Glyndŵr Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru |
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol | Prifysgol Metropolitan Caerdydd Prifysgol Glyndŵr Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru Coleg y Drindod, Caerfyrddin Prifysgol De Cymru Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd |
Diploma ôl-raddedig mewn proffesiynau cymunedol (gwaith ieuenctid a chymunedol) | Prifysgol Metropolitan Caerdydd Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd |
Gradd israddedig mewn addysg gymunedol | Prifysgol Metropolitan Caerdydd Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd |
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol | Prifysgol Metropolitan Caerdydd Prifysgol Glyndŵr Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd Coleg y Drindod, Caerfyrddin Prifysgol De Cymru Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd |
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol (cyfiawnder ieuenctid) | Prifysgol De Cymru Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd |
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol (chwaraeon) | Prifysgol De Cymru Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd |
Gradd ôl-raddedig mewn addysg ieuenctid a chymunedol | Prifysgol Glyndŵr Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru |
Gradd ôl-raddedig mewn astudiaethau ieuenctid a chymunedol | Prifysgol Glyndŵr Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru |
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol | Coleg y Drindod, Caerfyrddin Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant |
Gradd ôl-raddedig yn y proffesiynau cymunedol | Prifysgol Metropolitan Caerdydd Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd |
Cymwysterau o ran Lloegr | Corff dyfarnu |
---|---|
Diploma addysg uwch mewn gwaith ieuenctid a chymuned | Bristol Polytechnic John Moores University University of the West of England |
Diploma graddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol | University of Cumbria St Martin’s College |
Diploma graddedig mewn gwaith a gweinidogaeth ieuenctid | Oasis College Oasis Trust |
Diploma graddedig mewn gwaith datblygu ieuenctid a chymunedol | University of Cumbria St Martin’s College |
Diploma graddedig mewn gwaith ieuenctid | Sheffield Hallam University |
Diploma mewn astudiaethau gwaith cymunedol ac ieuenctid | University of Manchester |
Diploma ôl-raddedig mewn anthropoleg gymhwysol a gwaith cymunedol ac ieuenctid | Goldsmiths College, University of London Turning Point College |
Diploma ôl-raddedig mewn astudiaethau proffesiynol (gwaith ieuenctid a chymunedol) | University of Huddersfield |
Diploma ôl-raddedig mewn datblygu gwaith ieuenctid a chymunedol | De Montfort University Manchester Metropolitan University Leicester Polytechnic |
Diploma ôl-raddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol | Bradford College Brunel University College of St Mark & St John Plymouth Leeds Beckett University Leeds Metropolitan University Manchester Metropolitan University University College Birmingham University College Plymouth, St Mark & St John University of Cumbria University of East London University of St Mark & St John |
Diploma ôl-raddedig mewn diwinyddiaeth gymhwysol (gwaith ieuenctid a chymunedol) | Moorlands College |
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid | University of Gloucestershire University of Teesside |
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol | Bradford College Brunel University Leeds Beckett University Leeds Metropolitan University Newman University Manchester Metropolitan University St Martin’s College University College Birmingham University of Cumbria University of East London University of St Mark & St John College of St Mark & St John Plymouth University College Plymouth, St Mark & St John |
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol | University of Teesside |
Gradd israddedig mewn astudiaethau cymunedol ac ieuenctid | Bulmershe College of Higher Education University of Reading |
Gradd israddedig mewn astudiaethau gwaith cymunedol ac ieuenctid | University of Durham |
Gradd israddedig mewn astudiaethau gwaith cymunedol ac ieuenctid cymhwysol | University of Derby University of Manchester |
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid cymunedol | Sunderland University |
Gradd israddedig mewn astudiaethau ieuenctid | University of Cumbria St Martin’s College |
Gradd israddedig mewn astudiaethau ieuenctid a chymunedol | University of Cumbria University of Sunderland |
Gradd israddedig mewn datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid | Ruskin College, Oxford |
Gradd israddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol | De Montfort University Leicester Polytechnic |
Gradd israddedig mewn diwinyddiaeth, gwaith ieuenctid a gweinidogaeth | Nazarene Theological College |
Gradd israddedig mewn diwinyddiaeth gymhwysol (gwaith ieuenctid a chymunedol) | Moorlands College |
Gradd israddedig mewn gwaith a chymorth ieuenctid integredig | Middlesex University |
Gradd israddedig mewn gwaith a gweinidogaeth ieuenctid | Oasis College Oasis Trust |
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid | Brunel University Coventry University London Metropolitan University Middlesex University University of Brighton University of Chester University of Cumbria University of Gloucestershire |
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid Cristnogol | University of Chester |
Gradd israddedig mewn astudiaethau gwaith ieuenctid a chymunedol | Sunderland University |
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol | Anglia Polytechnic University Anglia Ruskin University Bradford College Brunel University Leeds Metropolitan University Manchester Metropolitan University Ruskin College, Oxford Sheffield Hallam University St Helens College St Martin’s College Thames Polytechnic University College Plymouth, St Mark & St John University of Bedfordshire University of Bolton University of Chichester University of Cumbria University of East London University of Greenwich University of Huddersfield University of St Mark & St John University of Worcester York St John University |
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol gyda llwybrau Cristnogol, Mwslimaidd a seciwlar | Newman University |
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol | De Montfort University Leeds Beckett University Leeds Metropolitan University University of Cumbria University of Hull |
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a gwasanaethau cymunedol | University of Teesside |
Gradd israddedig mewn gwasanaethau ieuenctid a chymunedol | University of Worcester |
Gradd israddedig mewn gweithio gyda phobl ifanc a chymunedau (gwaith ieuenctid) | University of Derby |
Gradd israddedig mewn gwyddor gymdeithasol, datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid | Goldsmiths College, University of London |
Gradd ôl-raddedig mewn anthropoleg gymhwysol a gwaith cymunedol ac ieuenctid | Goldsmiths College, University of London |
Gradd ôl-raddedig mewn astudiaethau proffesiynol (gwaith ieuenctid a chymunedol) | University of Huddersfield |
Gradd ôl-raddedig mewn datblygu gwaith ieuenctid a chymunedol | De Montfort University |
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid | University of Gloucestershire University of Teesside |
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol | College of St Mark & St John Edgehill University Liverpool Hope University University College Plymouth, St Mark & St John Newman University University of Durham University of Hull University of Northampton University of St Mark & St John |
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol | University of Teesside |
Tystysgrif ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol | Brunel University |
Cymwysterau o ran yr Alban | Corff dyfarnu |
---|---|
Diploma ôl-raddedig mewn addysg gymunedol | Northern College of Education Moray House Institute of Education University of Aberdeen University of Edinburgh |
Diploma ôl-raddedig mewn dysgu a datblygu cymunedol | Northern College of Education University of Aberdeen University of Dundee University of Glasgow |
Diploma ôl-raddedig mewn dysgu a datblygu cymunedol gyda diwinyddiaeth gymhwysol | International Christian College |
Diploma mewn addysg gymunedol | Moray House Institute of Education University of Edinburgh |
Diploma mewn addysg oedolion ac addysg barhaus | University of Glasgow |
Gradd israddedig mewn addysg gymunedol | Jordanhill College of Education Northern College of Education Moray House Institute of Education University of Aberdeen University of Edinburgh West of Scotland University University of Strathclyde |
Gradd israddedig mewn datblygu a dysgu cymunedol | University of Dundee |
Gradd israddedig mewn datblygu cymunedol | University of Glasgow |
Gradd israddedig mewn dysgu a chyfranogi cymunedol | West of Scotland University |
Gradd israddedig mewn dysgu a datblygu cymunedol | University of Glasgow Northern College of Education University of Aberdeen University of Dundee |
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid | Edinburgh Napier University |
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid gyda diwinyddiaeth gymhwysol | International Christian College |
Gradd ôl-raddedig mewn addysg gymunedol | Moray House Institute of Education University of Edinburgh |
Gradd ôl-raddedig mewn addysg oedolion ac addysg barhaus | University of Glasgow |
Tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg gymunedol | Jordanhill College of Education Moray House Institute of Education Northern College of Education University of Aberdeen University of Edinburgh University of Strathclyde West of Scotland University |
Tystysgrif ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid | Jordanhill College of Education Moray House Institute of Education University of Edinburgh University of Strathclyde |
Cymwysterau o ran Gogledd Iwerddon | Corff dyfarnu |
---|---|
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid cymunedol | University of Ulster |
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid cymunedol | University of Ulster |
Cymwysterau | Corff dyfarnu |
---|---|
Gradd israddedig mewn addysg anffurfiol | YMCA George Williams College |
Gradd israddedig mewn addysg anffurfiol (gwaith ieuenctid a dysgu a datblygu cymunedol) | YMCA George Williams College |
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid | Open University |
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol | Institute for Children Youth and Mission |
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol a diwinyddiaeth ymarferol | Centre for Youth Ministry Institute for Children Youth and Mission |
Gradd israddedig mewn gwaith ysgolion, ieuenctid a chymunedol a diwinyddiaeth ymarferol | Institute for Children, Youth and Mission |
Gradd israddedig mewn gweithio gyda phobl ifanc/gwaith ieuenctid | Open University |
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a dysgu a datblygu cymunedol | YMCA George Williams College |
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a dysgu a datblygu cymunedol | YMCA George Williams College |
2. Mae person yn bodloni’r gofynion eraill at ddibenion y categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014—
(a)os oedd y person hwnnw yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig, cyn 31 Rhagfyr 1988, o fewn ystyr Rhan 3 o Reoliadau Addysg (Athrawon) 1982(4) (gweler rheoliad 13), neu
(b)os yw’r person hwnnw wedi ei awdurdodi i ymarfer fel gweithiwr ieuenctid yn rhinwedd Rhan 3 o Reoliadau 2015 (rhyddid ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig).
erthygl 5
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “CCEA” (“CCEA”) yw Cyngor Cwricwlwm, Arholiadau ac Asesu Gogledd Iwerddon y parheir â’i fodolaeth drwy erthygl 73 o Orchymyn 1998;
ystyr “Cymwysterau Cymru” (“Qualifications Wales”) yw’r corff a sefydlwyd o dan adran 2(1) o Deddf 2015;
ystyr “Deddf (Yr Alban) 1996” (“the 1996 (Scotland) Act”) yw Deddf Addysg (Yr Alban) 1996(5);
ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(6);
ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015(7);
ystyr “Gorchymyn 1998” (“the 1998 Order”) yw Gorchymyn Addysg (Gogledd Iwerddon) 1998(8);
ystyr “Ofqual” (“Ofqual”) yw’r Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau a sefydlwyd o dan adran 127 o Ddeddf 2009;
ystyr “SQA” (“SQA”) yw Awdurdod Cymwysterau’r Alban a sefydlwyd o dan adran 1 Deddf (Yr Alban) 1996.
2. Mae paragraffau 2 i 5 yn nodi’r cymwysterau gweithwyr cymorth ieuenctid.
3.—(1) Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan gorff a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.
(2) Y cymwysterau yw—
(a)dyfarniad Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(b)tystysgrif Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(c)tystysgrif Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(d)diploma Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid.
4.—(1) Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan gorff a gydnabyddir gan Ofqual o dan adran 132 o Ddeddf 2009 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.
(2) Y cymwysterau yw—
(a)tystysgrif Lefel 2 mewn gweithio gyda phobl ifanc;
(b)dyfarniad Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(c)tystysgrif Lefel 2 mewn gweithio gyda phobl ifanc;
(d)tystysgrif Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(e)dyfarniad Lefel 3 mewn gweithio gyda phobl ifanc hyglwyf;
(f)dyfarniad Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(g)tystysgrif Lefel 3 mewn gweithio gyda phobl ifanc hyglwyf;
(h)diploma Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(i)dyfarniad Lefel 4 mewn gweithio gyda phobl ifanc hyglwyf.
5.—(1) Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan yr SQA, neu unrhyw gorff a gymeradwyir gan yr SQA o dan adran 2(1) o Ddeddf (yr Alban) 1996 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.
(2) Y cymwysterau yw—
(a)SVQ 2 mewn gwaith ieuenctid;
(b)SVQ 3 mewn gwaith ieuenctid;
(c)SVQ 3 mewn cyfiawnder ieuenctid.
6.—(1) Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan y CCEA, neu unrhyw gorff a gydnabyddir gan y CCEA o dan Ran 8 o Orchymyn 1998 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.
(2) Y cymwysterau yw—
(a)dyfarniad Lefel 2 mewn cysylltiadau cymunedol, cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(b)dyfarniad Lefel 2 mewn deall rôl y cyngor ieuenctid;
(c)tystysgrif Lefel 2 mewn cysylltiadau cymunedol, cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(d)tystysgrif Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(e)diploma Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(f)dyfarniad Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(g)tystysgrif Lefel 3 mewn gwaith ieuenctid allgymorth a datgysylltiedig;
(h)tystysgrif Lefel 3 mewn gweithwyr cefnogi cymheiriaid - theori ac ymarfer.
7. Mae person yn bodloni’r gofynion eraill at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014—
(a)os oedd y person hwnnw yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig, cyn 31 Rhagfyr 1988, o fewn ystyr Rhan 3 o Reoliadau Addysg (Athrawon) 1982 (gweler rheoliad 13), neu
(b)os yw’r person hwnnw wedi ei awdurdodi i ymarfer fel gweithiwr cymorth ieuenctid yn rhinwedd Rhan 3 o Reoliadau 2015 (rhyddid ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig).
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Gorchymyn)
Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”). Mae Rhan 2 o Ddeddf 2014 yn rhoi swyddogaethau iʼr Cyngor mewn perthynas â phersonau y maeʼn ofynnol iddynt gofrestru yn y gofrestr y maeʼr Cyngor yn ei chynnal yn unol ag adran 9 oʼr Ddeddf honno (“y Gofrestr”).
Maeʼr categorïau o bersonau cofrestredig wedi eu nodi yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer ym mharagraff 2 oʼr Atodlen honno i ychwanegu, diwygio neu ddileu categori cofrestru. Yn unol â hynny, maeʼr Gorchymyn hwn yn diwygio Tabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 i ychwaneguʼr categorïau a ganlyn o berson cofrestredig (Rhan 4 oʼr Gorchymyn hwn)—
(a)gweithiwr ieuenctid;
(b)gweithiwr cymorth ieuenctid; ac
(c)ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.
Effaith Rhan 2 oʼr Gorchymyn hwn yw creu system cofrestru gwirfoddol ar gyfer gweithwyr ieuenctid, fel y caiff unrhyw berson syʼn darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid gofrestru âʼr Cyngor. Fodd bynnag, mae Rhan 2 hefyd yn darparu bod rhaid i berson gofrestru âʼr Cyngor os ywʼn dymuno darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol (fel yʼi diffinnir yn y Gorchymyn hwn) (erthygl 3(1)).
Mae erthygl 3(2) yn nodi eithriad iʼr cyfyngiad yn erthygl 3(1); maeʼr eithriad hwnnw yn gymwys pan fo person yn symud iʼr DU o aelod-wladwriaeth arall yn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn gweithio fel gweithiwr ieuenctid ar sail dros dro ac achlysurol. Nid ywʼr person hwnnw yn ddarostyngedig iʼr gofyniad i gofrestru (“yr esemptiad i weithwyr dros dro ac achlysurol oʼr UE”). Maeʼr ddarpariaeth hon yn sicrhau cydymffurfedd â Rhan 2 o Reoliadauʼr Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015.
Effaith Rhan 3 oʼr Gorchymyn hwn yw creu system cofrestru gwirfoddol ar gyfer gweithwyr cymorth ieuenctid, fel y caiff unrhyw berson syʼn darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid gofrestru âʼr Cyngor. Fodd bynnag, mae Rhan 3 hefyd yn darparu bod rhaid i berson gofrestru âʼr Cyngor os ywʼn dymuno darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol. Mae erthygl 5(2) yn darparu bod yr esemptiad i weithwyr dros dro ac achlysurol oʼr UE hefyd yn gymwys iʼr cyfyngiad yn erthygl 5(1).
Effaith Rhan 4 oʼr Gorchymyn hwn yw creu system cofrestru gorfodol ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, fel bod rhaid i unrhyw berson syʼn darparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer neu ar ran corff dysgu seiliedig ar waith (fel yʼi diffinnir yn y Gorchymyn hwn), gofrestru âʼr Cyngor (erthygl 7(1)). Nid oes darpariaeth i ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith gofrestruʼn wirfoddol.
Maeʼr tabl diwygiedig ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 yn disgrifio ymarferydd dysgu seiliedig ar waith fel person syʼn darparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer neu ar ran corff dysgu seiliedig ar waith. Corff dysgu seiliedig ar waith yw corff a gyllidir gan Weinidogion Cymru i ddarparu gwasanaethau dysgu seiliedig ar waith. Gellir gweld rhestr o gyrff oʼr fath ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.dysgu.llyw.cymru.
Maeʼr disgrifiad o ymarferydd dysgu seiliedig ar waith yn cynnwys nifer o rolau proffesiynol syʼn ymwneud â chyflenwi dysgu seiliedig ar waith. O fewn y proffesiwn, adwaenir y rolau hyn yn aml fel “mentoriaid”, “hyfforddwyr” ac “aseswyr”. Mae erthygl 7(2) yn darparu bod yr esemptiad i weithwyr dros dro ac achlysurol oʼr UE hefyd yn gymwys iʼr cyfyngiad yn erthygl 7(1).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
O.S. 1982/106 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1988/542 ac O.S. 1989/329. Dirymwyd O.S. 1982/106 gan O.S. 1989/1319.
O.S. 1998/1759 (G.I. 13) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2006/1915 (N.I. 11).