Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Gorchymyn)

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”). Mae Rhan 2 o Ddeddf 2014 yn rhoi swyddogaethau iʼr Cyngor mewn perthynas â phersonau y maeʼn ofynnol iddynt gofrestru yn y gofrestr y maeʼr Cyngor yn ei chynnal yn unol ag adran 9 oʼr Ddeddf honno (“y Gofrestr”).

Maeʼr categorïau o bersonau cofrestredig wedi eu nodi yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer ym mharagraff 2 oʼr Atodlen honno i ychwanegu, diwygio neu ddileu categori cofrestru. Yn unol â hynny, maeʼr Gorchymyn hwn yn diwygio Tabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 i ychwaneguʼr categorïau a ganlyn o berson cofrestredig (Rhan 4 oʼr Gorchymyn hwn)—

(a)gweithiwr ieuenctid;

(b)gweithiwr cymorth ieuenctid; ac

(c)ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.

Effaith Rhan 2 oʼr Gorchymyn hwn yw creu system cofrestru gwirfoddol ar gyfer gweithwyr ieuenctid, fel y caiff unrhyw berson syʼn darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid gofrestru âʼr Cyngor. Fodd bynnag, mae Rhan 2 hefyd yn darparu bod rhaid i berson gofrestru âʼr Cyngor os ywʼn dymuno darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol (fel yʼi diffinnir yn y Gorchymyn hwn) (erthygl 3(1)).

Mae erthygl 3(2) yn nodi eithriad iʼr cyfyngiad yn erthygl 3(1); maeʼr eithriad hwnnw yn gymwys pan fo person yn symud iʼr DU o aelod-wladwriaeth arall yn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn gweithio fel gweithiwr ieuenctid ar sail dros dro ac achlysurol. Nid ywʼr person hwnnw yn ddarostyngedig iʼr gofyniad i gofrestru (“yr esemptiad i weithwyr dros dro ac achlysurol oʼr UE”). Maeʼr ddarpariaeth hon yn sicrhau cydymffurfedd â Rhan 2 o Reoliadauʼr Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015.

Effaith Rhan 3 oʼr Gorchymyn hwn yw creu system cofrestru gwirfoddol ar gyfer gweithwyr cymorth ieuenctid, fel y caiff unrhyw berson syʼn darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid gofrestru âʼr Cyngor. Fodd bynnag, mae Rhan 3 hefyd yn darparu bod rhaid i berson gofrestru âʼr Cyngor os ywʼn dymuno darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol. Mae erthygl 5(2) yn darparu bod yr esemptiad i weithwyr dros dro ac achlysurol oʼr UE hefyd yn gymwys iʼr cyfyngiad yn erthygl 5(1).

Effaith Rhan 4 oʼr Gorchymyn hwn yw creu system cofrestru gorfodol ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, fel bod rhaid i unrhyw berson syʼn darparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer neu ar ran corff dysgu seiliedig ar waith (fel yʼi diffinnir yn y Gorchymyn hwn), gofrestru âʼr Cyngor (erthygl 7(1)). Nid oes darpariaeth i ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith gofrestruʼn wirfoddol.

Maeʼr tabl diwygiedig ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 yn disgrifio ymarferydd dysgu seiliedig ar waith fel person syʼn darparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer neu ar ran corff dysgu seiliedig ar waith. Corff dysgu seiliedig ar waith yw corff a gyllidir gan Weinidogion Cymru i ddarparu gwasanaethau dysgu seiliedig ar waith. Gellir gweld rhestr o gyrff oʼr fath ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.dysgu.llyw.cymru.

Maeʼr disgrifiad o ymarferydd dysgu seiliedig ar waith yn cynnwys nifer o rolau proffesiynol syʼn ymwneud â chyflenwi dysgu seiliedig ar waith. O fewn y proffesiwn, adwaenir y rolau hyn yn aml fel “mentoriaid”, “hyfforddwyr” ac “aseswyr”. Mae erthygl 7(2) yn darparu bod yr esemptiad i weithwyr dros dro ac achlysurol oʼr UE hefyd yn gymwys iʼr cyfyngiad yn erthygl 7(1).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.