Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016

RHAN 5DIWYGIADAU I DDEDDF 2014

Diwygiadau i Ddeddf 2014

8.—(1Mae Atodlen 2 i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel y’i nodir ym mharagraffau (2) a (3).

(2Yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 mewnosoder ar ddiwedd y Tabl—

Gweithiwr ieuenctid

Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd—

(a)

yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu

(b)

fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw.

Gweithiwr cymorth ieuenctid

Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd–

(c)

yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu

(d)

fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw.

Ymarferydd dysgu seiliedig ar waithPerson syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.

(3Yn lle paragraff 3 rhodder—

3.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning”) yw addysg neu hyfforddiant a ddarperir—

(a)

ar gyfer personau syʼn 16 oed neu’n hŷn (ni waeth pa un a yw hefyd yn cael ei ddarparu i bersonau o dan 16 oed), a

(b)

er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau syʼn berthnasol i grefft, swydd neu gyflogwr penodol;

“gwasanaethau datblygu ieuenctid” (“youth development services”) yw gwasanaethau—

(a)

a ddarperir yn bennaf i bersonau nad ydynt yn iau nag 11 oed nac yn hŷn na 25 oed, a

(b)

syʼn hybu—

(i)

datblygu sgiliau neu wybodaeth y personau hynny, neu

(ii)

ddatblygiad deallusol, emosiynol neu gymdeithasol y personau hynny;

“gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning practitioner services”) yw—

(a)

cydgysylltu a chyflenwi dysgu seiliedig ar waith;

(b)

asesu gwybodaeth a sgiliau person sy’n cael (neu sydd ar fin cael) dysgu seiliedig ar waith;

ystyr “ysgol” (“school”) yw—

(a)

ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)

ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.