xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Hadau, Cymru
Gwnaed
15 Rhagfyr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Rhagfyr 2016
Yn dod i rym
11 Ionawr 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 16(1), (1A), (2), (3) a (4) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn ymwneud â hyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 11 Ionawr 2017.
(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012(3) wedi eu diwygio yn unol â’r darpariaethau a ganlyn.
3. Yn rheoliad 16, yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Rhaid i becyn gael ei selio gan samplwr hadau trwyddedig, neu o dan oruchwyliaeth samplwr hadau trwyddedig, gan ddefnyddio sêl swyddogol.”
4. Yn rheoliad 24, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3) Rhaid dal gafael ar y ddwy ran o’r sampl a anfonir i orsaf brofi swyddogol am o leiaf ddwy flynedd.”
5. Ar ôl rheoliad 28 mewnosoder—
28A.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud y cyfryw drefniadau gydag unrhyw berson (“A”) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol at ddiben galluogi A i gyflawni mesurau swyddogol ar ran Gweinidogion Cymru.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw drefniant o dan y rheoliad hwn oni bai eu bod wedi eu bodloni bod y trefniant yn gwneud darpariaeth at ddiben atal unrhyw berson rhag—
(a)cael unrhyw elw preifat o unrhyw fesurau swyddogol a gyflawnir o dan y trefniant; a
(b)cyflawni unrhyw fesurau swyddogol o dan y trefniant ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru gynnwys mewn unrhyw drefniant y cyfryw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol at y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2), gan gynnwys amodau—
(a)sy’n pennu—
(i)y mesurau swyddogol y mae’n rhaid i A eu cyflawni;
(ii)y rhywogaethau a’r cenedlaethau o hadau y caiff A gyflawni’r mesurau swyddogol mewn cysylltiad â hwy;
(iii)y dulliau i’w defnyddio mewn cysylltiad â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;
(iv)y ffioedd y caiff A eu codi mewn perthynas â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;
(v)y cofnodion y mae’n rhaid i A eu cadw mewn cysylltiad â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;
(b)sy’n gwahardd A rhag—
(i)codi ffioedd mewn perthynas â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A o dan y trefniant ac eithrio i’r graddau nad yw’r ffioedd yn uwch na’r costau y mae A yn mynd iddynt wrth eu cyflawni;
(ii)cyflawni’r mesurau swyddogol ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol;
(c)sy’n gwahardd A rhag gwneud unrhyw drefniant pellach gydag unrhyw berson arall (“B”) at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â chyflawni’r mesurau swyddogol y mae A wedi gwneud trefniadau gyda Gweinidogion Cymru i’w cyflawni, oni bai—
(i)bod Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo holl amodau’r trefniant pellach a bod A wedi cael cymeradwyaeth ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw i wneud y trefniant pellach;
(ii)bod y trefniant pellach yn cynnwys amod sy’n gwahardd B rhag gwneud unrhyw drefniadau dilynol at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â chyflawni’r mesurau swyddogol y mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniant gydag A mewn cysylltiad â hwy;
(iii)bod y trefniant pellach yn cynnwys cydnabyddiaeth gan A y caiff Gweinidogion Cymru amrywio, ddirymu neu atal dros dro y trefniant pellach os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru nad yw B yn cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r trefniant pellach, neu bod B wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r amodau hynny; a
(iv)bod y trefniant pellach yn cynnwys yr amodau a bennir yn is-baragraffau (a) a (b) o’r paragraff hwn ac at y dibenion hyn mae cyfeiriadau yn yr is-baragraffau hynny at A i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at B, ac mae cyfeiriadau at “y trefniant” i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y trefniant pellach.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chymeradwyo gwneud unrhyw drefniant pellach o dan y rheoliad hwn oni bai eu bod wedi eu bodloni na fydd B—
(a)yn cael unrhyw elw preifat o unrhyw fesurau swyddogol y mae B i gael ei awdurdodi i’w cyflawni o dan y trefniant pellach;
(b)yn cyflawni unrhyw fesurau swyddogol o dan y trefniant pellach ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig i A neu B (yn ôl y digwydd), amrywio, atal dros dro neu ddirymu unrhyw drefniant neu drefniant pellach, neu unrhyw amodau trefniant neu amodau trefniant pellach a wneir o dan y rheoliad hwn.
(6) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (5) bennu—
(a)mewn cysylltiad ag amrywiad neu ddirymiad, y dyddiad y mae’r amrywiad neu’r dirymiad yn cael effaith ohono;
(b)mewn cysylltiad ag atal dros dro, y cyfnod pryd y mae’r atal dros dro yn cael effaith.
(7) Pan fydd amrywiad, dirymiad neu atal dros dro yn cael effaith, caiff Gweinidogion Cymru, at unrhyw ddibenion mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn, barhau i roi sylw i’r cyfryw fesurau swyddogol a gyflawnir o dan drefniant (neu drefniant pellach) a gafodd ei amrywio, ei ddirymu neu ei atal dros dro yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn fesurau swyddogol a gyflawnir yn unol â darpariaethau’r Rheoliadau hyn.
(8) Yn y rheoliad hwn, mae “mesurau swyddogol” (“official measures”) yn cynnwys archwiliadau swyddogol, treialon tyfu, profion ac asesiadau.”
6. Yn Atodlen 2, yn lle paragraff 29 (safonau gwirfoddol uwch ar gyfer hadau porthiant) rhodder—
“29. Caniateir marchnata’r canlynol fel hadau o safon wirfoddol uwch—
(a)troed y ceiliog, festulolium, rhygwellt hybrid, rhygwellt yr Eidal, peiswellt, rhygwellt parhaol, meillion coch, peiswellt coch, y godog, rhonwellt bach, rhonwellt, gweunwellt llyfn, peiswellt tal a meillion gwyn, pan fo unrhyw un neu ragor o’r rhain wedi eu dosbarthu’n hadau ardystiedig (CS);
(b)maglys rhuddlas, a ddosbarthwyd naill ai’n hadau ardystiedig o’r genhedlaeth gyntaf (CI) neu’n hadau ardystiedig o’r ail genhedlaeth (C2).”
7.—(1) Mae Atodlen 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 22 (hadau porthiant ac eithrio cymysgedd: gofynion labelu), yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—
“(b)enw a chyfeiriad neu rif adnabod y person sy’n gosod y label;”.
(3) Ym mharagraff 25 (hadau llysiau: labeli cyflenwr), yn lle is-baragraff (5)(b) rhodder—
“(b)enw a chyfeiriad neu rif adnabod y person sy’n gosod y label;”.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
15 Rhagfyr 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 (O.S. 2012/245 (Cy. 39)).
Mae rheoliad 3 yn diwygio un o’r gofynion ynghylch selio pecynnau hadau. Mae rheoliad 4 yn diwygio’r gofynion ynghylch samplu hadau at ddibenion gorfodi.
Mae rheoliad 5 yn mewnosod darpariaeth newydd sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud trefniadau i unrhyw berson gyflawni mesurau swyddogol. Mae rheoliadau 6 a 7 yn gwneud mân ddiwygiadau.
Nid oes asesiad effaith wedi’i lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn cael unrhyw effaith ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol na’r sector cyhoeddus, neu na ragwelir y bydd yn cael unrhyw effaith sylweddol ar y sectorau hynny.
1964 (p. 14). Diwygiwyd adran 16(1) a mewnosodwyd adran 16(1A) gan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68).
Gweler adran 38(1) am ddiffiniad o “the Minister” (“y Gweinidog”). O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i’r Ysgrifennydd Gwladol ac o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), mae’r swyddogaethau hyn bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
O.S. 2012/245 (Cy. 39), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/889 (Cy. 101) ac O.S. 2014/519 (Cy. 61).