Search Legislation

Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) (Diwygio) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Trefniadau ar gyfer mesurau swyddogol

5.  Ar ôl rheoliad 28 mewnosoder—

Trefniadau ar gyfer mesurau swyddogol

28A.(1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud y cyfryw drefniadau gydag unrhyw berson (“A”) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol at ddiben galluogi A i gyflawni mesurau swyddogol ar ran Gweinidogion Cymru.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw drefniant o dan y rheoliad hwn oni bai eu bod wedi eu bodloni bod y trefniant yn gwneud darpariaeth at ddiben atal unrhyw berson rhag—

(a)cael unrhyw elw preifat o unrhyw fesurau swyddogol a gyflawnir o dan y trefniant; a

(b)cyflawni unrhyw fesurau swyddogol o dan y trefniant ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru gynnwys mewn unrhyw drefniant y cyfryw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol at y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2), gan gynnwys amodau—

(a)sy’n pennu—

(i)y mesurau swyddogol y mae’n rhaid i A eu cyflawni;

(ii)y rhywogaethau a’r cenedlaethau o hadau y caiff A gyflawni’r mesurau swyddogol mewn cysylltiad â hwy;

(iii)y dulliau i’w defnyddio mewn cysylltiad â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;

(iv)y ffioedd y caiff A eu codi mewn perthynas â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;

(v)y cofnodion y mae’n rhaid i A eu cadw mewn cysylltiad â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;

(b)sy’n gwahardd A rhag—

(i)codi ffioedd mewn perthynas â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A o dan y trefniant ac eithrio i’r graddau nad yw’r ffioedd yn uwch na’r costau y mae A yn mynd iddynt wrth eu cyflawni;

(ii)cyflawni’r mesurau swyddogol ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol;

(c)sy’n gwahardd A rhag gwneud unrhyw drefniant pellach gydag unrhyw berson arall (“B”) at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â chyflawni’r mesurau swyddogol y mae A wedi gwneud trefniadau gyda Gweinidogion Cymru i’w cyflawni, oni bai—

(i)bod Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo holl amodau’r trefniant pellach a bod A wedi cael cymeradwyaeth ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw i wneud y trefniant pellach;

(ii)bod y trefniant pellach yn cynnwys amod sy’n gwahardd B rhag gwneud unrhyw drefniadau dilynol at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â chyflawni’r mesurau swyddogol y mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniant gydag A mewn cysylltiad â hwy;

(iii)bod y trefniant pellach yn cynnwys cydnabyddiaeth gan A y caiff Gweinidogion Cymru amrywio, ddirymu neu atal dros dro y trefniant pellach os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru nad yw B yn cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r trefniant pellach, neu bod B wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r amodau hynny; a

(iv)bod y trefniant pellach yn cynnwys yr amodau a bennir yn is-baragraffau (a) a (b) o’r paragraff hwn ac at y dibenion hyn mae cyfeiriadau yn yr is-baragraffau hynny at A i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at B, ac mae cyfeiriadau at “y trefniant” i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y trefniant pellach.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chymeradwyo gwneud unrhyw drefniant pellach o dan y rheoliad hwn oni bai eu bod wedi eu bodloni na fydd B—

(a)yn cael unrhyw elw preifat o unrhyw fesurau swyddogol y mae B i gael ei awdurdodi i’w cyflawni o dan y trefniant pellach;

(b)yn cyflawni unrhyw fesurau swyddogol o dan y trefniant pellach ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol.

(5) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig i A neu B (yn ôl y digwydd), amrywio, atal dros dro neu ddirymu unrhyw drefniant neu drefniant pellach, neu unrhyw amodau trefniant neu amodau trefniant pellach a wneir o dan y rheoliad hwn.

(6) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (5) bennu—

(a)mewn cysylltiad ag amrywiad neu ddirymiad, y dyddiad y mae’r amrywiad neu’r dirymiad yn cael effaith ohono;

(b)mewn cysylltiad ag atal dros dro, y cyfnod pryd y mae’r atal dros dro yn cael effaith.

(7) Pan fydd amrywiad, dirymiad neu atal dros dro yn cael effaith, caiff Gweinidogion Cymru, at unrhyw ddibenion mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn, barhau i roi sylw i’r cyfryw fesurau swyddogol a gyflawnir o dan drefniant (neu drefniant pellach) a gafodd ei amrywio, ei ddirymu neu ei atal dros dro yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn fesurau swyddogol a gyflawnir yn unol â darpariaethau’r Rheoliadau hyn.

(8) Yn y rheoliad hwn, mae “mesurau swyddogol” (“official measures”) yn cynnwys archwiliadau swyddogol, treialon tyfu, profion ac asesiadau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources