- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
12.—(1) Mae’r disgrifiadau a ganlyn o wariant yr aeth panel iddo neu y mae panel i fynd iddo wedi eu rhagnodi at ddibenion paragraff 16(2) o Atodlen 2A i Ddeddf 2004—
(a)costau tâl neu gyflogau, cyfraniadau pensiwn a chostau diswyddo gorfodol neu wirfoddol neu gostau staff eraill;
(b)cydnabyddiaeth i aelod enwebedig o’r panel;
(c)costau lesio a/neu rentu mewn cysylltiad â llogi mangre;
(d)costau mewn cysylltiad ag ardrethi a chyfleustodau y mae’r panel yn atebol amdanynt mewn cysylltiad â meddiannu mangre;
(e)ffioedd proffesiynol, ffioedd ymgynghorol a ffioedd technegol;
(f)costau mewn cysylltiad â swyddogaethau’r panel o ran paratoi ac adolygu cynllun strategol yn unol â Rhan 6 o Ddeddf 2004;
(g)costau offer, gan gynnwys costau prynu, prydlesu neu gynnal dodrefn, deunyddiau dodrefnu, a meddalwedd a chaledwedd cyfrifiadurol;
(h)cydnabyddiaeth i unrhyw aelod cyfetholedig o’r panel, ac at ddibenion y paragraff hwn, nid yw aelod cyfetholedig yn aelod enwebedig o banel;
(i)costau sy’n gysylltiedig â galluogi panel i ymgymryd â’i swyddogaethau o dan Ran 6 o Ddeddf 2004.
(2) Nid yw costau cydnabyddiaeth i aelod awdurdod cynllunio lleol cyfansoddol o’r panel yn wariant cymwys at ddibenion paragraff 16(2) o Atodlen 2A i Ddeddf 2004.
(3) Yn y rheoliad hwn—
mae “costau staff” (“staff costs”) mewn perthynas â phanel yn cynnwys unrhyw gyfraniadau pensiwn ac yswiriant gwladol cyflogwr a wneir gan y panel;
ystyr “cyfraniadau pensiwn” (“pension contributions”) yw unrhyw gostau y mae panel yn mynd iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw gynllun pensiwn a sefydlwyd at y diben o ddarparu pensiynau i bersonau a gyflogir ar hyn o bryd neu a fu’n gyflogedig gan banel, unrhyw swm a osodir o’r neilltu ar gyfer talu pensiynau yn uniongyrchol yn y dyfodol gan banel i gyflogeion presennol neu gyn-gyflogeion, ac unrhyw bensiynau a delir yn uniongyrchol i bersonau o’r fath heb yn gyntaf eu gosod o’r neilltu;
mae “ffioedd proffesiynol” (“professional fees”) yn cynnwys costau mewn perthynas â chorff proffesiynol ac aelodaeth o gorff proffesiynol;
mae “ffioedd technegol” (“technical fees”) yn cynnwys costau mewn perthynas â chyfrifyddiaeth, archwilio, materion cyfreithiol, yswiriant, cyfathrebu, cyfieithu a chaffael.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: