xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gymraeg
Gwnaed
15 Mawrth 2016
Yn dod i rym
22 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 26, 27, 39 a 150(5) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1), ac wedi cael cymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 150(2) o’r Mesur hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Mawrth 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aelod o staff” (“member of staff”) yw cyflogai i gorff neu unigolyn sy’n gweithio i gorff ond nid person sydd wedi ei benodi i gorff gan Weinidogion Cymru, un o Weinidogion y Goron neu gan Gynghorau Sir neu Gynghorau Bwrdeistref Sirol yng Nghymru(2) (a rhaid dehongli “staff” (“staff”) yn unol â hynny);
ystyr “corff” (“body”) yw person a restrir yn Atodlen 6;
ystyr “unigolyn” (“individual”) yw aelod o’r cyhoedd.
(5) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)mae cyfeiriadau at unrhyw weithgaredd sy’n cael ei gyflawni gan gorff, neu at unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan gorff, i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at y gweithgaredd hwnnw yn cael ei gyflawni ar ran y corff, neu at y gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu ar ran y corff, gan drydydd parti o dan drefniadau a wneir rhwng y trydydd parti a’r corff;
(b)yn unol â hynny, oni bai bod hysbysiad cydymffurfio yn darparu i’r gwrthwyneb, bydd corff wedi methu â chydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd y mae wedi trefnu iddo gael ei gyflawni, neu wasanaeth y mae wedi trefnu iddo gael ei ddarparu, gan drydydd parti os nad yw’r gweithgaredd hwnnw neu’r gwasanaeth hwnnw wedi ei gyflawni neu ei ddarparu yn unol â’r safon.
(6) Nid oes dim byd yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd a gyflawnir ganddo neu wasanaeth a ddarperir ganddo pan fo’n cyflawni’r gweithgaredd hwnnw neu’n darparu’r gwasanaeth hwnnw ar ran trydydd parti o dan drefniadau a wneir rhyngddo ef a’r trydydd parti.
2.—(1) Yn Atodlen 1—
(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau;
(b)mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;
(c)mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
(2) Yn Atodlen 2—
(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau llunio polisi;
(b)mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
(3) Yn Atodlen 3—
(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau gweithredu;
(b)mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;
(c)mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
(4) Yn Atodlen 4—
(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau cadw cofnodion;
(b)mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
(5) Mae Atodlen 5 yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion sy’n atodol i’r materion yr ymdrinnir â hwy yn y safonau a bennir yn Atodlenni 1 i 4 ac, yn benodol—
(a)mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau sy’n ymdrin â materion atodol;
(b)mae Rhan 2 yn pennu safonau llunio polisi sy’n ymdrin â materion atodol;
(c)mae Rhan 3 yn pennu safonau gweithredu sy’n ymdrin â materion atodol;
(ch)mae Rhan 4 yn pennu safonau cadw cofnodion sy’n ymdrin â materion atodol;
(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli’r safonau atodol;
(dd)mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth atodol.
3.—(1) Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i’r personau a restrir yn Atodlen 6 sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau a bennir o dan reoliad 2 ac Atodlenni 1 i 5.
(2) Ond nid awdurdodir y Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i Dribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru, Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru a Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â’r safonau a ganlyn—
(i)92 i 139,
(ii)144 i 148,
(iii)161 i 166.
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru
15 Mawrth 2016
Rheoliad 2(1)
1 | Safonau ynghylch gohebiaeth a anfonir gan gorff |
(1) Pan fo corff yn ateb gohebiaeth | |
Safon 1: | Os byddwch yn cael unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg oddi wrth berson, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb), oni bai bod y person wedi dweud nad oes angen ateb yn Gymraeg. |
(2) Pan fo corff yn gohebu | |
(a) Pan fo corff yn gohebu ag unigolyn | |
Safon 2: | Pan fyddwch yn gohebu ag unigolyn (“A”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg, ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny rhaid ichi— (b) cadw cofnod o ddymuniad A, (c) gohebu yn Gymraeg ag A wrth ohebu ag A o hynny ymlaen, ac (d) anfon unrhyw ffurflenni y byddwch yn eu hanfon at A o hynny ymlaen yn Gymraeg. |
(b) Pan fo corff yn gohebu â mwy nag un aelod o’r un aelwyd | |
Safon 3: | Pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at ddau unigolyn sy’n aelodau o’r un aelwyd (er enghraifft, rhieni plentyn) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i’r unigolion hynny a ydynt yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg, ac os— (a) yw’r ddau unigolyn yn ymateb i ddweud eu bod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’u dymuniad, a gohebu yn Gymraeg o hynny ymlaen pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at y ddau unigolyn hynny; (b) yw un o’r unigolion (ond nid y ddau) yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’i ddymuniad, a darparu fersiwn Gymraeg o ohebiaeth o hynny ymlaen pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at y ddau unigolyn hynny. |
(c) Pan fo corff yn gohebu â sawl person (er enghraifft, pan fydd yn anfon cylchlythyr, neu’n anfon yr un llythyr at nifer o gartrefi) | |
Safon 4: | Pan fyddwch yn anfon yr un ohebiaeth at nifer o bersonau, rhaid ichi anfon fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth ar yr un pryd ag y byddwch yn anfon unrhyw fersiwn Saesneg ohoni. |
(3) Safonau cyffredinol ynghylch gohebu | |
Safon 5: | Os nad ydych yn gwybod a yw person yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg rhaid ichi ddarparu fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth pan fyddwch yn gohebu â’r person hwnnw. |
Safon 6: | Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg gyfatebol o ohebiaeth, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg (er enghraifft, os yw’r fersiwn Saesneg wedi ei llofnodi, neu os oes manylion cyswllt wedi eu darparu ar y fersiwn Saesneg, rhaid i’r fersiwn Gymraeg gael ei thrin yn yr un modd). |
Safon 7: | Rhaid ichi ddatgan— (a) mewn gohebiaeth, a (b) mewn cyhoeddiadau a hysbysiadau sy’n gwahodd personau i anfon ymateb neu i anfon gohebiaeth atoch, eich bod yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwch yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi. |
2 | Safonau ynghylch galwadau ffôn i gorff ac oddi wrth gorff |
(1) Galwadau ffôn i brif rif ffôn y corff ac i unrhyw linellau cymorth neu ganolfannau galwadau | |
Safon 8: | Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi gyfarch y person yn Gymraeg. |
Safon 9: | Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi roi gwybod i’r person bod gwasanaeth Cymraeg ar gael. |
Safon 10: | Pan fo person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd os yw’r person yn dymuno hynny (gan drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg os yw hynny’n angenrheidiol). |
Safon 11: | Pan fo person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg os yw’r person yn dymuno hynny— (a) hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a (b) hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw. |
Safon 12: | Pan fyddwch yn hysbysebu rhifau ffôn, llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 13: | Os byddwch yn cynnig gwasanaeth Cymraeg ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid i rif ffôn y gwasanaeth Cymraeg fod yr un peth â rhif ffôn y gwasanaeth Saesneg cyfatebol. |
Safon 14: | Pan fyddwch yn cyhoeddi eich prif rif ffôn, neu unrhyw rifau sydd gennych ar gyfer llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid ichi nodi (yn Gymraeg) eich bod yn croesawu galwadau yn Gymraeg. |
Safon 15: | Os oes gennych ddangosyddion perfformiad ar gyfer delio â galwadau ffôn, rhaid ichi sicrhau nad yw’r dangosyddion perfformiad hynny yn trin galwadau ffôn a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na galwadau a wneir yn Saesneg. |
Safon 16: | Rhaid i’ch prif wasanaeth (neu wasanaethau) ateb galwadau ffôn roi gwybod i bersonau sy’n galw, yn Gymraeg, fod modd gadael neges yn Gymraeg. |
Safon 17: | Pan na fo gwasanaeth Cymraeg ar gael ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi roi gwybod, yn Gymraeg, i’r personau sy’n galw (pa un ai drwy gyfrwng neges wedi ei hawtomeiddio neu fel arall) pryd y bydd gwasanaeth Cymraeg ar gael. |
(2) Galwadau ffôn i adrannau, ac i aelodau o staff corff | |
Safon 18: | Os bydd person yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau staff), a bod y person hwnnw’n dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd (os yw’n angenrheidiol drwy drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg). |
Safon 19: | Os bydd person yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau staff), a bod y person hwnnw’n dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg— (a) hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a (b) hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw. |
Safon 20: | Pan fydd person yn cysylltu â chi ar rif llinell uniongyrchol (pa un ai ar rif llinell uniongyrchol adran neu ar rif llinell uniongyrchol aelod o staff), rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth gyfarch y person. |
(3) Galwadau ffôn a wneir gan gorff | |
Safon 21: | Pan fyddwch yn ffonio unigolyn (“A”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno cael galwadau ffôn oddi wrthych yn Gymraeg, ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’i ddymuniad, a chynnal galwadau ffôn a wneir i A o hynny ymlaen yn Gymraeg. |
(4) Corff yn delio â galwadau ffôn drwy system wedi ei hawtomeiddio | |
Safon 22: | Rhaid i unrhyw system ffôn wedi ei hawtomeiddio sydd gennych ddarparu’r gwasanaeth cyfan wedi ei awtomeiddio yn Gymraeg. |
3 | Safonau ynghylch cyfarfodydd a gynhelir gan gorff nad ydynt yn agored i’r cyhoedd yn gyffredinol |
(1) Cyfarfodydd rhwng corff ac un person gwahoddedig arall | |
Safon 23: | Os byddwch yn gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg; ac os yw P yn eich hysbysu ei fod yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, rhaid ichi gynnal y cyfarfod hwnnw yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). |
Safon 24: | Os byddwch yn gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, rhaid ichi ofyn i P a fyddai’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a hysbysu P y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw. |
Safon 24A: | Os byddwch wedi gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu). |
Safon 24B: | Os byddwch wedi gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu). |
(2) Cyfarfodydd rhwng corff a mwy nag un person gwahoddedig | |
Safon 25: | Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, rhaid ichi ofyn i bob person a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. |
Safon 25A: | Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 10% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod. |
Safon 25B: | Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 20% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod. |
Safon 25C: | Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 30% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod. |
Safon 25CH: | Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod pawb a gafodd wahoddiad wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). |
Safon 25D: | Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod pawb a gafodd wahoddiad wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu). |
4 | Safonau ynghylch cyfarfodydd a drefnir gan gorff sy’n agored i’r cyhoedd |
Safon 26: | Os byddwch yn trefnu cyfarfod sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi ddatgan ar unrhyw ddeunydd sy’n ei hysbysebu, ac ar unrhyw wahoddiad iddo, bod croeso i unrhyw un sy’n bresennol ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. |
Safon 27: | Pan fyddwch yn anfon gwahoddiadau i gyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi eu hanfon yn Gymraeg. |
Safon 28: | Os byddwch yn gwahodd personau i siarad mewn cyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi— (a) gofyn i bob person a wahoddir i siarad a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg, a (b) os yw’r person hwnnw (neu o leiaf un o’r personau hynny) yn eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu). |
Safon 29: | Os byddwch yn trefnu cyfarfod sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod, a rhaid ichi hysbysu’r rheini sy’n bresennol ar lafar yn Gymraeg— (a) bod croeso iddynt ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael. |
Safon 30: | Os byddwch yn arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig mewn cyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi sicrhau bod y deunydd yn cael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw destun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg. |
5 | Safonau ynghylch digwyddiadau cyhoeddus a drefnir neu a ariennir gan gorff |
Safon 31: | Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth hybu’r digwyddiad (er enghraifft, o ran y ffordd y mae’r digwyddiad yn cael ei hysbysebu neu y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad). |
Safon 32: | Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yn y digwyddiad (er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaethau a gynigir i bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad, mewn perthynas ag arwyddion a arddangosir yn y digwyddiad, ac mewn perthynas â chyhoeddiadau sain a wneir ynddo). |
6 | Safon ynghylch cyhoeddusrwydd a hysbysebu gan gorff |
Safon 33: | Rhaid i unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu ddeunydd hysbysebu yr ydych yn ei lunio gael ei lunio yn Gymraeg, ac os byddwch yn llunio’r deunydd yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg. |
7 | Safonau ynghylch corff yn arddangos deunydd yn gyhoeddus |
Safon 34: | Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei arddangos yn gyhoeddus gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg. |
Safon 35: | Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei arddangos mewn arddangosfa gyhoeddus sydd wedi ei threfnu gennych gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg. |
8 | Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi dogfennau |
Safon 36: | Rhaid i unrhyw ddogfennau at ddefnydd y cyhoedd yr ydych yn eu llunio gael eu llunio yn Gymraeg. |
Safon 37: | Os byddwch yn llunio agendâu, cofnodion a phapurau eraill ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau neu seminarau sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi eu llunio yn Gymraeg. |
Safon 38: | Rhaid i unrhyw drwydded, hawlen neu dystysgrif yr ydych yn ei llunio gael ei llunio yn Gymraeg. |
Safon 39: | Rhaid i unrhyw lyfryn, taflen, pamffled neu gerdyn yr ydych yn ei lunio neu ei llunio er mwyn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd gael ei lunio neu ei llunio yn Gymraeg. |
Safon 40: | Os byddwch yn llunio’r dogfennau a ganlyn, a’u bod ar gael i’r cyhoedd, rhaid ichi eu llunio yn Gymraeg— (a) polisïau, strategaethau, adroddiadau blynyddol a chynlluniau corfforaethol; (b) canllawiau a chodau ymarfer; (c) papurau ymgynghori. |
Safon 41: | Rhaid i unrhyw reolau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n gymwys i’r cyhoedd gael eu cyhoeddi yn Gymraeg. |
Safon 42: | Pan fyddwch yn rhyddhau unrhyw ddatganiad i’r wasg, rhaid ichi ei ryddhau yn Gymraeg, ac os oes fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddatganiad, rhaid ichi ryddhau’r ddwy fersiwn ar yr un pryd. |
Safon 43: | Os byddwch yn llunio dogfen sydd ar gael i’r cyhoedd, a phan nad oes safon arall wedi ei gwneud yn ofynnol ichi ei llunio yn Gymraeg, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg— (a) os yw pwnc y ddogfen yn awgrymu y dylid ei llunio yn Gymraeg, neu (b) os yw’r gynulleidfa a ragwelir, a’u disgwyliadau, yn awgrymu y dylid llunio’r ddogfen yn Gymraeg. |
Safon 44: | Os byddwch yn llunio dogfen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un ai ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg. |
Safon 45: | Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddogfen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ddogfen hefyd ar gael yn Gymraeg. |
9 | Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi ffurflenni |
Safon 46: | Rhaid i unrhyw ffurflen yr ydych yn ei rhoi ar gael i’r cyhoedd gael ei llunio yn Gymraeg. |
Safon 46A: | Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ffurflen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ffurflen hefyd ar gael yn Gymraeg. |
Safon 46B: | Os byddwch yn llunio ffurflen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un ai ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi sicrhau nad yw’r fersiwn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg, a rhaid ichi beidio â gwahaniaethu rhyngddynt o ran unrhyw ofynion sy’n berthnasol i’r ffurflen (er enghraifft mewn perthynas ag unrhyw ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen neu mewn perthynas â’r amser a ganiateir ar gyfer ymateb i gynnwys y ffurflen). |
Safon 47: | Os byddwch yn mewnosod gwybodaeth ar fersiwn Gymraeg o ffurflen (er enghraifft, cyn ei hanfon at aelod o’r cyhoedd er mwyn iddo wirio’r cynnwys neu er mwyn iddo lenwi gweddill y ffurflen), rhaid ichi sicrhau bod yr wybodaeth yr ydych yn ei mewnosod yn cael ei mewnosod yn Gymraeg. |
10 | Safonau ynghylch achosion cyfreithiol |
Safon 48: | Rhaid ichi ddatgan mewn cyhoeddiadau, canllawiau a hysbysiadau yr ydych yn eu llunio sy’n hysbysu personau am achosion cyfreithiol y cânt gyflwyno ffurflenni a dogfennau a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ichi yn Gymraeg. |
Safon 49: | Pan fo person yn cysylltu â chi i gychwyn achos cyfreithiol neu i ymateb i achos cyfreithiol, rhaid ichi ofyn i’r person ddynodi a yw’n dymuno siarad yn Gymraeg mewn unrhyw achosion cyfreithiol(3). |
Safon 50: | Pan fo person (“P”) yn cysylltu â chi am y tro cyntaf i gychwyn achos cyfreithiol neu i ymateb i achos cyfreithiol, rhaid ichi ofyn i P ddynodi a yw’n dymuno cael copïau yn Gymraeg o ffurflenni a dogfennau yr ydych yn eu llunio ac sydd i fod ar gael i P (gan gynnwys, er enghraifft, benderfyniadau neu orchmynion ysgrifenedig mewn perthynas â’r achos cyfreithiol hwnnw). |
Safon 50A: | Pan fo person (“P”) yn cysylltu â chi i gychwyn achos cyfreithiol neu i ymateb i achos cyfreithiol, a bod P yn dynodi ei fod yn dymuno cael copïau yn Gymraeg o ffurflenni a dogfennau yr ydych yn eu llunio ac sydd i gael eu rhoi ar gael i P, rhaid ichi— (a) darparu’r ffurflenni a’r dogfennau hynny yn Gymraeg mewn perthynas â’r achos cyfreithiol hwnnw, a (b) peidio â’u trin wrth eu llunio yn llai ffafriol na ffurflenni a dogfennau yr ydych yn eu llunio yn Saesneg. |
Safon 51: | Pan foch yn cael ffurflenni neu ddogfennau yn Gymraeg gan berson (“P”) sy’n cychwyn achos cyfreithiol neu’n ymateb i achos cyfreithiol, rhaid ichi beidio â thrin y ffurflenni neu’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na’r rhai y byddech yn eu cael yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg materion eraill, mewn perthynas â’r amserlen ar gyfer cael y ffurflenni a’r dogfennau hynny a hysbysu P am benderfyniadau). |
11 | Safonau ynghylch gwefannau a gwasanaethau ar-lein corff |
(1) Gwefannau a gyhoeddir gan gorff | |
Safon 52: | Rhaid ichi sicrhau— (a) bod testun pob tudalen ar eich gwefan ar gael yn Gymraeg, (b) bod pob tudalen Gymraeg ar eich gwefan yn gweithredu’n llawn, ac (c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich gwefan. |
Safon 53: | Rhaid ichi sicrhau— (a) bod testun hafan eich gwefan ar gael yn Gymraeg, (b) bod unrhyw destun Cymraeg ar hafan eich gwefan (neu, pan fo’n berthnasol, bod eich hafan Gymraeg) yn gweithredu’n llawn, ac (c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hafan eich gwefan. |
Safon 54: | Pan fyddwch yn cyhoeddi tudalen newydd ar eich gwefan neu’n diwygio tudalen, rhaid ichi sicrhau— (a) bod testun y dudalen honno ar gael yn Gymraeg, (b) bod unrhyw fersiwn Gymraeg o’r dudalen yn gweithredu’n llawn, ac (c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran testun y dudalen honno. |
Safon 55: | Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich gwefan sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi nodi’n glir ar y dudalen Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a darparu dolen uniongyrchol at y dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol. |
Safon 56: | Rhaid ichi ddarparu’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar bob tudalen ar eich gwefan yn Gymraeg. |
(2) Apiau a gyhoeddir gan gorff | |
Safon 57: | Rhaid i bob ap yr ydych yn ei gyhoeddi weithredu’n llawn yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran yr ap hwnnw. |
12 | Safonau ynghylch defnydd corff o’r cyfryngau cymdeithasol |
Safon 58: | Pan fyddwch yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 59: | Os bydd person yn cysylltu â chi drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb). |
13 | Safon ynghylch peiriannau hunanwasanaeth |
Safon 60: | Rhaid ichi sicrhau bod unrhyw beiriannau hunanwasanaeth sydd gennych yn gweithio’n llawn yn Gymraeg, a rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â’r peiriant hwnnw. |
14 | Safonau ynghylch arwyddion a arddangosir gan gorff |
Safon 61: | Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro) rhaid i unrhyw destun sy’n cael ei arddangos ar yr arwydd gael ei arddangos yn Gymraeg (pa un ai ar yr un arwydd sy’n arddangos y testun cyfatebol yn Saesneg neu ar arwydd ar wahân); ac os yw’r un testun yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y testun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg. |
Safon 62: | Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro), a bod yr arwydd hwnnw’n cyfleu yr un wybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf. |
Safon 63: | Rhaid ichi sicrhau bod y testun Cymraeg ar arwyddion yn gywir o ran ystyr a mynegiant. |
15 | Safonau ynghylch derbyn ymwelwyr i adeiladau’r corff |
Safon 64: | Rhaid i unrhyw wasanaeth derbynfa yr ydych yn ei roi ar gael yn Saesneg hefyd fod ar gael yn Gymraeg, a rhaid i unrhyw berson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Cymraeg beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na pherson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Saesneg. |
Safon 65: | Os byddwch yn trefnu ymweliad neu apwyntiad i berson (“P”) ymlaen llaw a fydd yn golygu y bydd P yn dod i’ch derbynfa, rhaid ichi ofyn i P a yw’n dymuno cael gwasanaeth derbynfa Cymraeg (oni bai eich bod yn gwybod eisoes a yw P yn dymuno cael y gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg). |
Safon 65A: | Rhaid ichi ddarparu gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg i berson (“P”) os byddwch wedi trefnu ymweliad neu apwyntiad ymlaen llaw i P, a— (a) bod P wedi eich hysbysu ymlaen llaw ei fod yn dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, neu (b) eich bod eisoes yn gwybod bod P yn dymuno cael y gwasanaeth yn Gymraeg. |
Safon 66: | Os nad oes gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg ar gael gennych, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth derbynfa yn Gymraeg ar gael dros ffôn yn eich derbynfa. |
Safon 67: | Rhaid ichi arddangos arwydd yn eich derbynfa sy’n datgan (yn Gymraeg) fod croeso i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg yn y dderbynfa. |
Safon 68: | Rhaid ichi sicrhau bod staff yn y dderbynfa sy’n gallu darparu gwasanaeth derbynfa Cymraeg yn gwisgo bathodyn sy’n cyfleu hynny. |
16 | Safonau ynghylch corff yn gwneud hysbysiadau |
Safon 69: | Rhaid i unrhyw hysbysiad yr ydych yn ei gyhoeddi neu ei arddangos gael ei gyhoeddi neu ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r hysbysiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono. |
Safon 70: | Pan fyddwch yn cyhoeddi neu’n arddangos hysbysiad sy’n cynnwys y testun Cymraeg yn ogystal â’r testun Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf. |
17 | Safonau ynghylch corff yn dyfarnu contractau |
Safon 71: | Rhaid i unrhyw wahoddiadau i dendro am gontract yr ydych yn eu cyhoeddi gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o unrhyw wahoddiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono. |
Safon 72: | Pan fyddwch yn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro am gontract, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i dendrau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg. |
Safon 72A: | Rhaid ichi beidio â thrin tendr am gontract a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael tendrau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i dendrwyr am benderfyniadau). |
Safon 73: | Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyfweld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfweliad hwnnw yn Gymraeg ac, os yw’r tendrwr yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). |
Safon 74: | Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyfweld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr rhaid ichi— (a) cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg fel bod modd i’r tendrwr ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a (b) os yw’r tendrwr yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu). |
Safon 75: | Pan fyddwch yn rhoi gwybod i dendrwr beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â thendr, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y tendr yn Gymraeg. |
18 | Safonau ar gyfer codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gorff |
Safon 76: | Rhaid ichi hybu unrhyw wasanaeth Cymraeg a ddarperir gennych, a hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg. |
Safon 77: | Os byddwch yn darparu gwasanaeth yn Gymraeg sy’n cyfateb i wasanaeth yr ydych yn ei ddarparu yn Saesneg, rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd neu ddogfen yr ydych yn ei llunio, neu wefan yr ydych yn ei chyhoeddi, sy’n cyfeirio at y gwasanaeth Saesneg nodi bod gwasanaeth cyfatebol ar gael yn Gymraeg. |
19 | Safon ynghylch hunaniaeth gorfforaethol corff |
Safon 78: | Pan fyddwch yn llunio, yn diwygio neu’n cyflwyno eich hunaniaeth gorfforaethol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
20 | Safonau ynghylch cyrsiau a gynigir gan gorff |
Safon 79: | Os byddwch yn cynnig cwrs addysg sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg. |
Safon 80: | Os byddwch yn cynnig cwrs addysg sy’n agored i’r cyhoedd, ac sydd wedi ei anelu’n benodol at bersonau sy’n 18 oed neu’n iau, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg. |
Safon 81: | Os byddwch yn datblygu cwrs addysg sydd i’w gynnig i’r cyhoedd, rhaid ichi asesu’r angen i’r cwrs hwnnw gael ei gynnig yn Gymraeg; a rhaid ichi sicrhau bod yr asesiad wedi ei gyhoeddi ar eich gwefan. |
21 | Safon ynghylch systemau annerch cyhoeddus a ddefnyddir gan gorff |
Safon 82: | Pan fyddwch yn cyhoeddi neges dros system annerch gyhoeddus, rhaid ichi wneud y cyhoeddiad hwnnw yn Gymraeg, ac os yw’r cyhoeddiad yn cael ei wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn Gymraeg yn gyntaf. |
22 | Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y gwêl Comisiynydd y Gymraeg yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2 (neu ag un neu ragor o’r safonau hynny pan nodir hynny). |
Colofn 1 | Colofn 2 | |
---|---|---|
Rhes | Prif safon | Safon ddibynnol |
(1) | Ateb gohebiaeth | |
Safon 1 | Safon 7 | |
(2) | Gohebu ag aelodau o’r un aelwyd | |
Safon 3 | Safon 6 | |
(3) | Gohebu â sawl person | |
Safon 4 | Safon 6 Safon 7 | |
(4) | Safonau cyffredinol ynghylch gohebu | |
Safon 5 | Safon 6 Safon 7 | |
(5) | Codi ymwybyddiaeth ynghylch gohebu yn Gymraeg | |
Safon 7 | Safon 1 | |
(6) | Cael galwadau ffôn | |
Safon 9 | Un neu ragor o’r canlynol: Safon 10 Safon 11 | |
(7) | Cael galwadau ffôn | |
Safon 10 neu 11 | Safon 9 Safon 14 | |
(8) | Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau ffôn yn Gymraeg | |
Safon 14 | Un neu ragor o’r canlynol: Safon 10 Safon 11 a hefyd Safon 16, a Safon 17 | |
(9) | Cyfarfodydd ag un person | |
Safon 24 | Un neu ragor o’r canlynol: Safon 24A Safon 24B | |
(10) | Cyfarfodydd ag un person | |
Safon 24A neu 24B | Safon 24 | |
(11) | Cyfarfodydd â mwy nag un person | |
Safon 25 | Un neu ragor o’r canlynol: Safon 25A Safon 25B Safon 25C a hefyd un neu ragor o’r canlynol: Safon 25CH Safon 25D | |
(12) | Cyfarfodydd â mwy nag un person | |
Safon 25A, 25B, 25C, 25CH neu 25D | Safon 25 | |
(13) | Cyfarfodydd cyhoeddus | |
Safon 26 | Safon 29 | |
(14) | Cyfarfodydd cyhoeddus | |
Safon 29 | Safon 26 | |
(15) | Dogfennau | |
Safon 36, 37, 38, 39, 40, 41 neu 43 40, 41 neu 43 | Safon 44 Safon 45 | |
(16) | Ffurflenni | |
Safon 46 | Safon 46A Safon 46B | |
(17) | Achosion cyfreithiol | |
Safon 50 | Safon 50A | |
(18) | Achosion cyfreithiol | |
Safon 50A | Safon 50 | |
(19) | Gwefannau | |
Safon 52, 53 neu 54 | Safon 55 | |
(20) | Arwyddion | |
Safon 61 neu 62 | Safon 63 | |
(21) | Derbynfa | |
Safon 64 | Safon 67 Safon 68 | |
(22) | Derbynfa | |
Safon 65 | Safon 65A | |
(23) | Derbynfa | |
Safon 66 | Safon 67 | |
(24) | Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg mewn derbynfa | |
Safon 67 | Un neu ragor o’r canlynol: Safon 64 Safon 66 | |
(25) | Contractau | |
Safon 72 | Safon 72A Safon 75 | |
(26) | Contractau | |
Safon 73 neu 74 | Safon 72 Safon 72A |
23 | Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn. |
24 | Nid yw’r safonau a bennir ond yn gymwys i’r graddau y mae corff yn— (a) cyflenwi gwasanaethau i berson, neu (b) yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau— (i) i’r person arall hwnnw, neu (ii) i drydydd person. |
25 | Nid yw’n ofynnol i gorff lunio, arddangos nac anfon deunydd yn Gymraeg i’r graddau y mae deddfiad arall wedi pennu geiriad dogfen, arwydd neu ffurflen a fyddai’n groes i’r gofyniad hwnnw. |
26 | At ddibenion y safonau— (a) nid yw gofyniad i lunio unrhyw ddeunydd ysgrifenedig i’w anfon, i’w gyhoeddi, i’w arddangos, i’w roi ar gael neu i’w ddyroddi yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid llunio’r deunydd, ei anfon, ei gyhoeddi, ei arddangos, ei roi ar gael neu ei ddyroddi, nac yn golygu y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny’n cael ei nodi’n benodol yn y safon); (b) nid yw gofyniad bod gwasanaeth i gael ei ddarparu yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid darparu’r gwasanaeth hwnnw (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon). |
27 | (1) Nid yw’n ofynnol i gorff gyfieithu i’r Gymraeg unrhyw destun nad yw wedi ei lunio (“testun A”). (2) Ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol os nad yw’n cyfieithu testun A i’r Gymraeg ond gweler is-baragraff (3). (3) Rhaid i gorff ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg o destun A os yw person arall wedi llunio testun A yn Gymraeg yn unol— (a)â’i Gynllun Iaith Gymraeg; (b)â dyletswydd i gydymffurfio â safonau; (c)â Rheolau Sefydlog y Cynulliad; (ch)ag adran 35(1C) o Ddeddf 2006; neu (e)â Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad. (4) Yn y paragraff hwn— (a)ystyr “Cynllun Iaith Gymraeg” yw cynllun iaith Gymraeg a lunnir yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(4); (b)ystyr “dyletswydd i gydymffurfio â safonau” yw dyletswydd i gydymffurfio â safon o dan adran 25 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011; (c)ystyr “Deddf 2006” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006(5); (ch)ystyr “Rheolau Sefydlog y Cynulliad” yw rheolau sefydlog a wnaed o dan adran 31 o Ddeddf 2006; (d)ystyr “Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad” yw’r Cynllun a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan baragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006. |
28 | At ddibenion y safonau, nid yw “cyfarfodydd” yn cynnwys achosion cyfreithiol. |
29 | At ddibenion safonau 2, 3, 21, 49 a 50, mae corff yn cysylltu ag unigolyn, yn gohebu ag unigolyn neu’n ffonio unigolyn am y tro cyntaf pan fydd yn cysylltu, yn gohebu neu’n ffonio’r person am y tro cyntaf ar ôl y dyddiad y mae hysbysiad cydymffurfio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon. |
30 | Yn safon 22, ystyr system ffôn “wedi ei hawtomeiddio” yw system sy’n ateb galwadau ffôn ac yn arwain personau drwy drefn benodedig gyda neges wedi ei recordio sy’n gofyn, er enghraifft, i berson bwyso bysellau gwahanol er mwyn dewis opsiynau gwahanol. |
31 | Nid yw safon 32 yn gymwys i— (a) perfformiadau o gerddoriaeth; (b) cynyrchiadau artistig neu ddramatig; (c) seminarau neu gyflwyniadau llafar sy’n ymwneud â’r perfformiad neu’r cynhyrchiad; (ch) unrhyw recordiad o’r perfformiad, y cynhyrchiad, y seminar neu’r cyflwyniad llafar. |
32 | Nid yw safonau 32 ac 82 yn gymwys pan wneir y neges y byddwch yn ei chyhoeddi dros system annerch gyhoeddus yn ystod argyfwng neu ymarfer argyfwng. |
33 | Pan fo safon yn cyfeirio at ddeunydd sydd i’w lunio yn Gymraeg (ac eithrio safonau 52 i 57 (gwefannau ac apiau), 58 a 59 (cyfryngau cymdeithasol) a 71 (gwahoddiad i dendro)), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg neu at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran— (a) golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun); (b) maint y deunydd; (c) lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus; (ch) pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos; (d) fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd. |
34 | At ddibenion safonau 36, 40, a 43 a 46, nid yw’r cyfeiriadau at ddogfennau neu ddeunydd arall sydd ar gael i’r cyhoedd, neu sy’n cael eu llunio at ddefnydd y cyhoedd, yn cynnwys dogfennau neu ddeunyddiau nad ydynt ond ar gael i’r cyhoedd yn rhinwedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(6). |
35 | (1) Nid yw safonau 46, 46A a 46B yn gymwys i’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3). (2) At ddibenion safon 2, nid yw’n ofynnol i gorff anfon fersiwn Gymraeg o’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3). (3) Y ffurflenni yw— (a)ffurflenni a ddefnyddir gan gorff i recriwtio cyflogeion (gweler safonau 132A, 133 a 134 mewn perthynas â recriwtio); (b)ffurflenni a ddefnyddir pan gyflwynir tendr i gontractio gyda chorff (gweler safonau 71 i 75 mewn perthynas â thendro am gontract). |
36 | Nid yw safonau 36, 41, 43, 44 a 45 yn gymwys i ddeddfiad a wneir gan gorff neu i ddeddfiad drafft a lunnir gan gorff. |
37 | Nid yw safonau 36, 39, 40 a 43 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu a gynhwysir mewn dogfen, llyfryn, taflen, pamffled neu gerdyn. |
38 | Nid yw safon 41 yn gymwys i reolau a bennir mewn deddfiad neu mewn deddfiad drafft a lunnir gan gorff. |
39 | Nid yw safonau 52 i 56 (gwefannau) yn gymwys i— (a) dogfennau y darperir dolen iddynt ar wefan, deunydd hysbysebu ar wefan, na chlipiau fideo a sain ar wefan (gweler safonau 36 i 45 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 33 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff); (b) gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar wefan corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau, neu ar fforwm drafod). |
40 | (1) At ddiben safon 57, ystyr “ap” yw cymhwysiad meddalwedd sydd wedi ei gynllunio i gyflawni tasg benodol ar ddyfais electronig. (2) Nid yw safon 57 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu ar ap (gweler safon 33 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff). |
41 | At ddiben safonau 52 i 57 (gwefannau ac apiau) a safonau 58 a 59 (cyfryngau cymdeithasol), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran— (a) golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), neu (b) pan gyhoeddir deunydd ar y wefan, yr ap neu’r cyfryngau cymdeithasol; ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar yr un dudalen â deunydd Saesneg, nac ar dudalen y mae person yn debygol o ddod o hyd iddi cyn y dudalen Saesneg wrth chwilio. |
42 | (1) Nid yw safonau 1 i 7 (gohebu) yn gymwys i ohebiaeth a anfonir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 58 a 59 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol). (2) Nid yw safonau 52 i 57 (gwefannau ac apiau) yn gymwys i’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 58 a 59 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol). |
43 | Nid yw safonau 58 a 59 (cyfryngau cymdeithasol) yn gymwys i— (a) dogfennau y darperir dolen iddynt drwy’r cyfryngau cymdeithasol, nac i glipiau fideo a sain a ddarperir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 36 i 45 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 33 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff); (b) gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau). |
44 | At ddiben safon 60 (peiriannau hunanwasanaeth), mae cyfeiriad at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar sgrin yr un pryd â deunydd Saesneg. |
45 | At ddibenion safonau 64 i 68 (derbyn ymwelwyr)— (a) ystyr “derbynfa” yw ardal yn swyddfeydd corff lle y mae staff ar gael at ddiben croesawu personau; (b) ystyr “gwasanaeth derbynfa” yw gwasanaeth croesawu personau i swyddfeydd neu leoliadau gwasanaeth y corff gan staff sydd ar gael at y diben hwnnw. |
46 | At ddibenion safonau 7, 69 a 70 ystyr “hysbysiad” yw unrhyw hysbysiad y mae corff yn ei gyhoeddi, ond nid yw’n cynnwys hysbysiadau a ragnodir gan ddeddfiad. |
47 | At ddibenion safon 71 (gwahoddiad i dendro)— (1) Nid yw’n ofynnol i gorff gyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. (2) Mae cyfeiriad at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran— (a)golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun); (b)maint y deunydd; (c)lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus; (ch)pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos; (d)fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd; ond ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg drwy beidio â chyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. |
48 | (1) At ddibenion safon 78, mae’r cyfeiriad at gorff yn llunio neu’n cyflwyno ei “hunaniaeth gorfforaethol” yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y ffordd y mae corff yn ei gyflwyno ei hun drwy ddatganiadau gweledol, yr enw neu’r enwau a ddefnyddir gan gorff, a’r brandio a’r sloganau a ddefnyddir gan gorff (er enghraifft, brandio a sloganau a argraffir ar ei bapur ysgrifennu). (2) Nid yw safon 78 yn berthnasol i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ddefnyddio enw cyfreithiol. |
49 | At ddibenion safonau 79, 80 ac 81 (cyrsiau), ystyr “cwrs addysg” yw unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy neu ddarpariaeth debyg sy’n cael ei ddarparu neu ei darparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau aelodau o’r cyhoedd; ond nid yw’n cynnwys— (a) gweithgareddau na chyrsiau sy’n cael eu darparu fel rhan o’r cwricwlwm yn unol ag unrhyw ddeddfiad; neu (b) seminarau na chyflwyniadau llafar sy’n ymwneud â pherfformiad neu gynhyrchiad. |
50 | At ddibenion y safonau, ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y cafodd ei ddeddfu neu ei wneud) sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol— (a) Deddf Seneddol; neu (b) Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. |
Rheoliad 2(2)
1 | Safonau ynghylch ystyried effeithiau penderfyniadau polisi a wneir gan gorff ar y Gymraeg |
Safon 83: | Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un a yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 84: | Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel y byddai’r penderfyniad polisi’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 85: | Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel na fyddai’r penderfyniad polisi’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 86: | Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch yr effeithiau (pa un a yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi o dan ystyriaeth yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 87: | Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch sut y gellid llunio neu addasu’r polisi o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 88: | Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch sut y gellid llunio neu addasu’r polisi o dan ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 89: | Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried pa effeithiau, os o gwbl (a pha un ai ydynt yn rhai positif neu’n rhai andwyol), y byddai’r penderfyniad polisi sydd o dan ystyriaeth yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 90: | Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi sydd o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 91: | Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi sydd o dan ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
2 | Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, ystyr “penderfyniad polisi” yw unrhyw benderfyniad a wneir gan gorff sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau neu gynnal ei fusnes neu ymgymeriad arall, ac mae hynny’n cynnwys, ymysg pethau eraill (ac fel y bo’n briodol i’r corff), penderfyniadau ynghylch— (a) cynnwys deddfwriaeth; (b) arfer pwerau statudol; (c) cynnwys datganiadau polisi; (ch) strategaethau neu gynlluniau strategol; (d) strwythurau mewnol a lleoliadau swyddfa. |
3 | Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, mae cyfeiriad at effeithiau positif neu effeithiau andwyol yn gyfeiriad at yr effeithiau hynny pa un ai ydynt yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. |
Rheoliad 2(3)
1 | Safonau ynghylch defnyddio’r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth fewnol corff |
Safon 92: | Rhaid ichi ddatblygu polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol, gyda’r bwriad o hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, a rhaid ichi gyhoeddi’r polisi hwnnw ar eich mewnrwyd. |
Safon 93: | Pan fyddwch yn cynnig swydd newydd i unigolyn, rhaid ichi ofyn i’r unigolyn hwnnw a yw’n dymuno i’r contract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau gael ei ddarparu yn Gymraeg; ac os yw’r unigolyn yn dymuno hynny rhaid ichi ddarparu’r contract yn Gymraeg. |
Safon 94: | Rhaid ichi— (a) gofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ohebiaeth bapur sy’n ymwneud â’i gyflogaeth, ac sydd wedi ei chyfeirio ato’n bersonol, yn Gymraeg, a (b) os yw cyflogai yn dymuno hynny, darparu unrhyw ohebiaeth o’r fath iddo yn Gymraeg. |
Safon 95: | Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu anghenion neu ofynion ei hyfforddiant yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg. |
Safon 96: | Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu ei amcanion perfformiad yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg. |
Safon 97: | Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu neu’n cofnodi ei gynllun gyrfa yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg. |
Safon 98: | Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ffurflenni sy’n cofnodi ac yn awdurdodi— (a) gwyliau, (b) absenoldebau o’r gwaith, ac (c) oriau gwaith hyblyg, yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ffurflenni o’r fath iddo yn Gymraeg. |
Safon 99: | Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch ymddygiad yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg. |
Safon 100: | Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch iechyd a lles yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg. |
Safon 101: | Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch cyflogau neu fuddion yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg. |
Safon 102: | Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch rheoli perfformiad, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg. |
Safon 103: | Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch absenoldeb o’r gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg. |
Safon 104: | Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch amodau gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg. |
Safon 105: | Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch patrymau gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg. |
2 | Safonau ynghylch cwynion a wneir gan aelod o staff corff |
Safon 106: | Rhaid ichi ganiatáu i bob aelod o’ch staff— (a) gwneud cwynion ichi yn Gymraeg, a (b) ymateb i unrhyw gŵyn a wnaed amdano ef yn Gymraeg. |
Safon 106A: | Rhaid ichi ddatgan mewn unrhyw ddogfen sydd gennych sy’n nodi eich gweithdrefnau ar gyfer gwneud cwynion y caiff pob aelod o staff— (a) gwneud cwyn ichi yn Gymraeg, a (b) ymateb i gŵyn a wnaed amdano ef yn Gymraeg; a rhaid ichi hefyd roi gwybod i bob aelod o staff am yr hawl honno. |
Safon 107: | Os byddwch yn cael cwyn gan aelod o staff neu’n cael cwyn ynghylch aelod o staff, a bod angen cyfarfod â’r aelod hwnnw o staff, rhaid ichi— (a) cynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg, a (b) os yw’r aelod o staff yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). |
Safon 108: | Os byddwch yn cael cwyn gan aelod o staff neu’n cael cwyn ynghylch aelod o staff, a bod angen cyfarfod â’r aelod hwnnw o staff, rhaid ichi— (a) gofyn i’r aelod o staff a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod; (b) esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw os yw’n ofynnol; ac os yw’r aelod o staff yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu). |
Safon 109: | Pan fyddwch yn rhoi gwybod i aelod o staff beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chŵyn a wneir gan yr aelod hwnnw, neu mewn perthynas â chŵyn a wneir amdano ef, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os yw’r aelod hwnnw o staff— (a) wedi gwneud y gŵyn yn Gymraeg, (b) wedi ymateb yn Gymraeg i gŵyn amdano ef, (c) wedi gofyn bod cyfarfod ynglŷn â’r gŵyn yn cael ei gynnal yn Gymraeg, neu (ch) wedi gofyn am gael defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfod ynglŷn â’r gŵyn. |
3 | Safonau ynghylch corff yn disgyblu staff |
Safon 110: | Rhaid ichi ganiatáu i bob aelod o staff ymateb yn Gymraeg i honiadau a wneir yn ei erbyn mewn unrhyw broses ddisgyblu fewnol. |
Safon 110A: | Rhaid ichi— (a) datgan mewn unrhyw ddogfen sydd gennych sy’n nodi eich trefniadau ar gyfer disgyblu staff y caiff unrhyw aelod o staff ymateb yn Gymraeg i unrhyw honiadau a wneir yn ei erbyn, a (b) os byddwch yn dechrau gweithdrefn ddisgyblu mewn perthynas ag aelod o staff, rhoi gwybod i’r aelod hwnnw o staff am yr hawl honno. |
Safon 111: | Os byddwch yn trefnu cyfarfod ag aelod o staff ynghylch achos disgyblu mewn perthynas â’i ymddygiad, rhaid ichi— (a) cynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg, a (b) os yw’r aelod o staff yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). |
Safon 112: | Os byddwch yn trefnu cyfarfod ag aelod o staff ynghylch achos disgyblu mewn perthynas â’i ymddygiad, rhaid ichi— (a) gofyn i’r aelod o staff a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a (b) esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu at y diben hwnnw os yw’n ofynnol; ac, os yw’r aelod o staff yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu). |
Safon 113: | Pan fyddwch yn rhoi gwybod i aelod o staff beth yw’ch penderfyniad yn dilyn proses ddisgyblu, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os yw’r aelod hwnnw o staff— (a) wedi ymateb i honiadau yn ei erbyn yn Gymraeg, (b) wedi gofyn bod cyfarfod ynglŷn â’r broses ddisgyblu yn cael ei gynnal yn Gymraeg, neu (c) wedi gofyn am gael defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfod ynglŷn â’r broses ddisgyblu. |
4 | Safonau ynghylch technoleg gwybodaeth a deunyddiau cymorth a ddarperir gan gorff, ac ynghylch y fewnrwyd |
Safon 114: | Rhaid ichi ddarparu meddalwedd gyfrifiadurol ar gyfer gwirio sillafu a gramadeg y Gymraeg i’ch staff, a darparu rhyngwynebau Cymraeg ar gyfer meddalwedd (pan fo rhyngwyneb ar gael). |
Safon 115: | Rhaid ichi sicrhau— (a) bod testun pob tudalen ar eich mewnrwyd ar gael yn Gymraeg, (b) bod pob tudalen Gymraeg ar eich mewnrwyd yn gweithredu’n llawn, ac (c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich mewnrwyd. |
Safon 116: | Rhaid ichi sicrhau— (a) bod testun hafan eich mewnrwyd ar gael yn Gymraeg, (b) bod unrhyw destun Cymraeg ar hafan eich mewnrwyd (neu, pan fo’n berthnasol, bod hafan Gymraeg eich mewnrwyd) yn gweithredu’n llawn, ac (c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hafan eich mewnrwyd. |
Safon 117: | Bob tro y byddwch yn cyhoeddi tudalen newydd neu’n diwygio tudalen ar eich mewnrwyd, rhaid ichi sicrhau— (a) bod testun y dudalen honno ar gael yn Gymraeg, (b) bod unrhyw fersiwn Gymraeg o’r dudalen yn gweithredu’n llawn, ac (c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â thestun y dudalen honno. |
Safon 118: | Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich mewnrwyd sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi nodi’n glir ar y dudalen Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a rhaid darparu dolen uniongyrchol i’r dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol. |
Safon 119: | Rhaid ichi neilltuo a chynnal tudalen (neu dudalennau) ar eich mewnrwyd sy’n darparu gwasanaethau a deunydd cymorth i hybu’r Gymraeg ac i gynorthwyo eich staff i ddefnyddio’r Gymraeg. |
Safon 120: | Rhaid ichi ddarparu’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar eich tudalennau mewnrwyd yn Gymraeg. |
5 | Safonau ynghylch corff yn meithrin sgiliau yn y Gymraeg drwy gynllunio a hyfforddi ei weithlu |
Safon 121: | Rhaid ichi asesu sgiliau Cymraeg eich cyflogeion. |
Safon 122: | Rhaid ichi ddarparu hyfforddiant yn Gymraeg yn y meysydd a ganlyn, os ydych yn darparu hyfforddiant o’r fath yn Saesneg— (a) recriwtio a chyfweld; (b) rheoli perfformiad; (c) gweithdrefnau cwyno a disgyblu; (ch) ymsefydlu; (d) delio â’r cyhoedd; ac (dd) iechyd a diogelwch. |
Safon 123: | Rhaid ichi ddarparu hyfforddiant (yn Gymraeg) ar ddefnyddio’r Gymraeg yn effeithiol mewn— (a) cyfarfodydd; (b) cyfweliadau; ac (c) gweithdrefnau cwyno a disgyblu. |
Safon 124: | Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd yn ystod oriau gwaith— (a) i’ch cyflogeion gael gwersi Cymraeg sylfaenol, a (b) i gyflogeion sy’n rheoli pobl eraill gael hyfforddiant ar ddefnyddio’r Gymraeg yn eu rôl fel rheolwyr. |
Safon 125: | Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd i’ch cyflogeion sydd wedi cwblhau hyfforddiant Cymraeg sylfaenol gael hyfforddiant pellach, yn rhad ac am ddim, er mwyn datblygu eu sgiliau yn yr iaith. |
Safon 126: | Rhaid ichi ddarparu cyrsiau hyfforddi er mwyn i’ch cyflogeion ddatblygu— (a) ymwybyddiaeth o’r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth am hanes yr iaith a’i lle yn niwylliant Cymru); (b) dealltwriaeth o’r ddyletswydd i weithredu yn unol â safonau’r Gymraeg; (c) dealltwriaeth am y modd y gellir defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. |
Safon 127: | Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth i gyflogeion newydd (er enghraifft, fel rhan o broses ymsefydlu), rhaid ichi ddarparu gwybodaeth er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o’r Gymraeg. |
Safon 128: | Rhaid ichi ddarparu geiriad neu logo ar gyfer llofnodion e-bost eich staff sy’n eu galluogi i ddynodi a ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl neu’n dysgu’r iaith. |
Safon 129: | Rhaid ichi ddarparu geiriad ar gyfer eich cyflogeion fydd yn eu galluogi i gynnwys fersiwn Gymraeg o’u manylion cyswllt mewn negeseuon e-byst, ac i ddarparu fersiwn Gymraeg o unrhyw neges sy’n hysbysu pobl eraill nad ydynt ar gael i ateb negeseuon ebost. |
Safon 130: | Rhaid ichi roi ar gael i aelodau’r staff sy’n gallu siarad Cymraeg fathodyn iddynt ei wisgo sy’n cyfleu hynny. |
Safon 130A: | Rhaid ichi hybu ymhlith aelodau’r staff wisgo bathodyn sy’n cyfleu bod aelod o staff yn gallu siarad Cymraeg. |
6 | Safonau ynghylch recriwtio ac apwyntio |
Safon 131: | Pan fyddwch yn asesu’r anghenion ar gyfer swydd newydd neu swydd wag, rhaid ichi asesu’r angen am sgiliau yn y Gymraeg, a’i chategoreiddio fel swydd pan fo un neu ragor o’r canlynol yn gymwys— (a) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol; (b) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir rhywun i’r swydd; (c) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu (ch) nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol. |
Safon 131A: | Os byddwch wedi categoreiddio swydd fel un sy’n gofyn bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol, yn ddymunol neu fod angen eu dysgu, rhaid ichi— (a) pennu hynny wrth hysbysebu’r swydd, a (b) hysbysebu’r swydd yn Gymraeg. |
Safon 132: | Pan fyddwch yn hysbysebu swydd, rhaid ichi ddatgan y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. |
Safon 132A: | Os byddwch yn cyhoeddi— (a) ffurflenni cais am swyddi; (b) deunydd esboniadol ynghylch eich proses ar gyfer ymgeisio am swyddi; (c) gwybodaeth am eich proses gyfweld, neu am unrhyw ddulliau asesu eraill wrth ymgeisio am swyddi; (ch) swydd-ddisgrifiadau; rhaid ichi eu cyhoeddi yn Gymraeg a rhaid ichi sicrhau nad ydych yn trin unrhyw fersiynau Cymraeg o’r dogfennau yn llai ffafriol na fersiynau Saesneg ohonynt. |
Safon 132B: | Rhaid ichi beidio â thrin cais am swydd a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, o ran y dyddiad cau yr ydych yn ei osod ar gyfer cael ceisiadau, ac o ran amseriad rhoi gwybod i unigolion ynghylch penderfyniadau). |
Safon 133: | Rhaid ichi sicrhau bod eich ffurflenni cais am swyddi yn rhoi lle i unigolion nodi eu bod yn dymuno cael cyfweliad neu ddull arall o asesiad yn Gymraeg ac, os yw unigolyn yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal unrhyw gyfweliad neu ddull arall o asesiad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). |
Safon 134: | Rhaid ichi sicrhau bod eich ffurflenni cais am swyddi— (a) yn rhoi lle i unigolion nodi eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg mewn cyfweliad neu mewn unrhyw ddull arall o asesiad, a (b) yn esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw os oes angen; ac, os yw’r unigolyn yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad neu’r asesiad, rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn y cyfweliad neu asesiad (os nad ydych yn cynnal y cyfweliad neu’r asesiad yn Gymraeg heb y gwasanaeth cyfieithu hwnnw). |
Safon 135: | Pan fyddwch yn rhoi gwybod i unigolyn beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chais am swydd, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os gwnaed y cais yn Gymraeg. |
7 | Safonau ynghylch arwyddion a arddangosir yng ngweithle corff |
Safon 136: | Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd yn eich gweithle (gan gynnwys arwyddion dros dro), rhaid i unrhyw destun sy’n cael ei arddangos ar yr arwydd gael ei arddangos yn Gymraeg (pa un ai ar yr un arwydd sy’n arddangos y testun Saesneg cyfatebol neu ar arwydd ar wahân), ac os yw’r un testun yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y testun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg. |
Safon 137: | Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd yn eich gweithle (gan gynnwys arwyddion dros dro), a bod yr arwydd hwnnw’n cyfleu yr un wybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf. |
Safon 138: | Rhaid ichi sicrhau bod y testun Cymraeg ar arwyddion a arddangosir yn eich gweithle yn gywir o ran ystyr a mynegiant. |
8 | Safon ynghylch cyhoeddiadau a negeseuon sain yng ngweithle corff |
Safon 139: | Pan fyddwch yn gwneud cyhoeddiadau dros offer sain yn eich gweithle, rhaid i’r cyhoeddiad hwnnw gael ei wneud yn Gymraeg, ac os gwneir y cyhoeddiad yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn Gymraeg yn gyntaf. |
9 | Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y gwêl Comisiynydd y Gymraeg yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2. |
Colofn 1 | Colofn 2 | |
---|---|---|
Rhes | Prif safon | Safon ddibynnol |
Gweithdrefnau cwyno | ||
(1) | Safon 106 | Safon 106A |
Gweithdrefnau cwyno | ||
(2) | Safon 106A | Safon 106 |
Disgyblu staff | ||
(3) | Safon 110 | Safon 110A |
Disgyblu staff | ||
(4) | Safon 110A | Safon 110 |
Y fewnrwyd | ||
(5) | Safon 115, 116 neu 117 | Safon 118 |
Codi ymwybyddiaeth o’r bathodyn Cymraeg | ||
(6) | Safon 130 | Safon 130A |
Codi ymwybyddiaeth o’r bathodyn Cymraeg | ||
(7) | Safon 130A | Safon 130 |
Recriwtio ac apwyntio | ||
(8) | Safon 131 | Safon 131A |
Recriwtio | ||
(9) | Safon 132 | Safon 132A Safon 132B Safon 135 |
Arwyddion mewnol | ||
(10) | Safon 136 | Safon 138 |
10 | Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn. |
11 | (1) Nid yw’n ofynnol i gorff gyfieithu i’r Gymraeg unrhyw destun nad yw wedi ei lunio (“testun A”). (2) Ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol os nad yw’n cyfieithu testun A i’r Gymraeg ond gweler is-baragraff (3). (3) Rhaid i gorff ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg o destun A os yw person arall wedi llunio testun A yn Gymraeg yn unol— (a)â’i Gynllun Iaith Gymraeg; (b)â dyletswydd i gydymffurfio â safonau; (c)â Rheolau Sefydlog y Cynulliad; (ch)ag adran 35(1C) o Ddeddf 2006; neu (d)â Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad. (4) Yn y paragraff hwn— (a)ystyr “Cynllun Iaith Gymraeg” yw cynllun iaith Gymraeg a lunnir yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993; (b)ystyr “dyletswydd i gydymffurfio â safonau” yw dyletswydd i gydymffurfio â safon o dan adran 25 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011; (c)ystyr “Deddf 2006” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006; (ch)ystyr “Rheolau Sefydlog y Cynulliad” yw rheolau sefydlog a wnaed o dan adran 31 o Ddeddf 2006; (d)ystyr “Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad” yw’r Cynllun a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan baragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006. |
12 | At ddibenion safonau 115, 116 a 117 (mewnrwyd corff), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg pethau eraill (ac yn ogystal â materion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran— (a) golwg y deunydd (er enghraifft o ran lliw, maint, ffont, a fformat unrhyw destun); (b) pryd y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar y fewnrwyd; ond nid yw’n golygu bod yn rhaid i’r deunydd Cymraeg ymddangos ar yr un dudalen â’r deunydd Saesneg, nac ar dudalen a fydd yn debygol o agor cyn y fersiwn Saesneg gyfatebol o’r dudalen. |
13 | At ddibenion safonau 132A (recriwtio) a 136 (arwyddion mewnol), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg pethau eraill (ac yn ogystal â materion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran— (a) golwg y deunydd (er enghraifft o ran lliw neu ffont unrhyw destun); (b) maint y deunydd; (c) lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus; (ch) pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos; (d) fformat cyhoeddi’r deunydd. |
14 | At ddibenion y safonau, nid yw gofyniad i gyhoeddi, darparu neu arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu y dylid cyhoeddi, darparu neu arddangos deunydd yn Gymraeg yn unig, ac nid yw’n golygu ychwaith y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni nodir hynny yn benodol yn y safon). |
15 | Nid yw safonau 115 i 118 (y fewnrwyd) yn gymwys i— (a) dogfennau y darperir dolen iddynt ar y fewnrwyd, deunydd hysbysebu ar y fewnrwyd, na chlipiau fideo a sain ar y fewnrwyd (gweler safonau 99 i 105 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau); (b) gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar fewnrwyd corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau neu ar fforwm trafod). |
16 | At ddibenion safonau 131 a 131A yn unig— (a) mae “swydd” yn cynnwys penodiad cyhoeddus; (b) ystyr “penodiad cyhoeddus” yw unrhyw benodiad i gorff cyhoeddus neu swydd gyhoeddus. |
17 | Nid yw safon 139 yn gymwys pan wneir y neges y byddwch yn ei chyhoeddi dros system annerch gyhoeddus yn ystod argyfwng neu ymarfer argyfwng. |
Rheoliad 2(4)
1 | Safonau ynghylch cadw cofnodion gan gorff |
Safon 140: | Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y cwynion yr ydych yn eu cael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau. |
Safon 141: | Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
Safon 142: | Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’r Gymraeg (pa un a yw’r gŵyn yn ymwneud â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy ai peidio). |
Safon 143: | Rhaid ichi gadw cofnod o’r camau yr ydych wedi eu cymryd i sicrhau y cydymffurfir â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
Safon 144: | Rhaid ichi gadw cofnod (yn dilyn asesiadau o sgiliau iaith Gymraeg eich cyflogeion a wnaed gennych yn unol â safon 121), o nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a, phan fo hynny’n wybyddus ichi, rhaid ichi gadw cofnod o lefel sgiliau’r cyflogeion hynny. |
Safon 145: | Rhaid ichi gadw cofnod, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, o— (a) nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a ddarparwyd yn Gymraeg (yn unol â safon 122), a (b) os darparwyd fersiwn Gymraeg o gwrs yn unol â safon 122, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y fersiwn honno o’r cwrs. |
Safon 146: | Rhaid ichi gadw cofnod o nifer yr aelodau o staff sy’n gwisgo bathodyn (a roddir ar gael iddynt yn unol â safon 130) ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. |
Safon 147: | Rhaid ichi gadw cofnod o bob asesiad a gynhaliwch (yn unol â safon 131) mewn cysylltiad â’r sgiliau Cymraeg y gallai fod eu hangen mewn perthynas â swydd newydd neu swydd wag. |
Safon 148: | Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a gategoreiddiwyd (yn unol â safon 131) fel swyddi sy’n gofyn— (a) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol; (b) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg unwaith y penodir rhywun i’r swydd; (c) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu (ch) nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol. |
2 | Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn. |
3 | At ddibenion safonau 140, 144, 145, 146 a 148, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun. |
Rheoliad 2(5)
1 | Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau cyflenwi gwasanaethau |
Safon 149: | Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael ar eich gwefan. |
2 | Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno |
Safon 150: | Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn— (i) sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a (ii) sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny, a (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan. |
3 | Corff yn cyhoeddi trefniadau goruchwylio, hybu etc. |
Safon 151: | Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer— (i) goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, (ii) hybu’r gwasanaethau a gynigir gennych yn unol â’r safonau hynny, a (iii) hwyluso defnyddio’r gwasanaethau hynny, a (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich gwefan. |
4 | Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau cyflenwi gwasanaethau |
Safon 152: | (1) Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno. (2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn honno a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. (3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi. (4) Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol. (5) Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael ar eich gwefan. |
5 | Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau cyflenwi gwasanaethau |
Safon 153: | Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
6 | Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg |
Safon 154: | Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
7 | Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau llunio polisi |
Safon 155: | Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael ar eich gwefan. |
8 | Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno |
Safon 156: | Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn— (i) sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a (ii) sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny, a (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan. |
9 | Corff yn cyhoeddi trefniadau goruchwylio |
Safon 157: | Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich gwefan. |
10 | Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau llunio polisi |
Safon 158: | (1) Rhaid ichi lunio adroddiad, (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno. (2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. (3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi. (4) Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol. (5) Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael ar eich gwefan. |
11 | Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau llunio polisi |
Safon 159: | Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
12 | Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg |
Safon 160: | Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
13 | Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau gweithredu |
Safon 161: | Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael ar eich gwefan. |
14 | Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno |
Safon 162: | Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn— (i) sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a (ii) sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny, a (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich mewnrwyd. |
15 | Corff yn cyhoeddi trefniadau goruchwylio, hybu etc. |
Safon 163: | Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer— (i) goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, (ii) hybu’r gwasanaethau a gynigir gennych yn unol â’r safonau hynny, a (iii) hwyluso defnyddio’r gwasanaethau hynny, a (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich mewnrwyd. |
16 | Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau gweithredu |
Safon 164: | (1) Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau gweithredu yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno. (2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn (pan fo’n berthnasol, i’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau y cyfeirir atynt)— (a)nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd y flwyddyn o dan sylw (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 144); (b)nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd gennych yn y Gymraeg yn ystod y flwyddyn (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 145); (c)os cynigiwyd fersiwn Gymraeg o gwrs gennych yn ystod y flwyddyn, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y cwrs a fynychodd y fersiwn Gymraeg (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 145); (ch)nifer yr aelodau o staff sy’n gwisgo bathodyn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 146); (d)nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd gennych yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd fel swyddi sy’n gofyn— (i)bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol, (ii)bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir i’r swydd, (iii)bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol, neu (iv)nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol, (ar sail y cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 148); (dd)nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. (3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi. (4) Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol. (5) Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael ar eich gwefan. |
17 | Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau gweithredu |
Safon 165: | Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
18 | Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg |
Safon 166: | Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
19 | Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau cadw cofnodion |
Safon 167: | Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael ar eich gwefan. |
20 | Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg |
Safon 168: | Rhaid ichi ddarparu unrhyw gofnodion a gadwasoch yn unol â’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy i Gomisiynydd y Gymraeg, os bydd y Comisiynydd yn gofyn am y cofnodion hynny. |
21 | Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhannau 1 i 4 fel a ganlyn. |
22 | At ddibenion safonau 152, 158 a 164, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun. |
23 | At ddiben y safonau, nid yw gofyniad i lunio neu gyhoeddi unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu y dylid llunio neu gyhoeddi’r deunydd hwnnw yn Gymraeg yn unig, ac nid yw’n golygu ychwaith y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni nodir hynny yn benodol yn y safon). |
24 | Gweithdrefnau cwyno |
(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff— (a)cydymffurfio â hwy mewn un weithdrefn gwyno; (b)diwygio gweithdrefn gwyno sy’n bodoli eisoes. (2) Y safonau yw— (a)safon 150; (b)safon 156; (c)safon 162. | |
25 | Trefniadau goruchwylio |
(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy drwy un set o drefniadau goruchwylio. (2) Y safonau yw— (a)safon 151; (b)safon 157; (c)safon 163. | |
26 | Adroddiadau blynyddol |
(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy drwy gynnwys yr wybodaeth angenrheidiol mewn un adroddiad blynyddol o’r enw “Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg”. (2) Y safonau yw— (a)safon 152; (b)safon 158; (c)safon 164. | |
27 | Rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae corff yn bwriadu cydymffurfio â safonau |
(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy mewn un ddogfen. (2) Y safonau yw— (a)safon 153; (b)safon 159; (c)safon 165. |
Rheoliad 3
Cyngor y Gweithlu Addysg (“Education Workforce Council”)
Tribiwnlys Adolygiad Iechyd Meddwl Cymru (“The Mental Health Review Tribunal for Wales”)
Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (“The Special Educational Needs Tribunal for Wales”)
Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru (“The Residential Property Tribunal Wales”)
Tribiwnlys Prisio Cymru (“Valuation Tribunal for Wales”)
Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru (“Agricultural Land Tribunal (Wales)”)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (“Mesur 2011”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg (“safonau”). Mae’r rhain yn disodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg y darperir ar eu cyfer yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p. 38).
Mae adran 26 o Fesur 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau, ac mae adran 39 yn eu galluogi i ddarparu bod safon yn benodol gymwys i berson drwy awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) i roi hysbysiad i’r person hwnnw sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safon (“hysbysiad cydymffurfio”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad y cyrff a restrir yn Atodlen 6 i’r Rheoliadau. Y cyrff a restrir yw:
Cyngor y Gweithlu Addysg
Tribiwnlys Adolygiad Iechyd Meddwl Cymru
Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru
Tribiwnlys Prisio Cymru
Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru.
Ymysg pethau eraill, caiff y cyrff hyn wneud penderfyniadau mewn cysylltiad ag achosion cyfreithiol a ddygir ger eu bron. Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gwneud darpariaeth ynghylch siarad Cymraeg mewn achosion cyfreithiol.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn awdurdodi’r Comisiynydd (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a nodir yn rheoliad 3(2)) i roi hysbysiad cydymffurfio i’r cyrff hynny, mewn perthynas â safonau a bennir gan y Rheoliadau.
Yn unol ag adran 44 o Fesur 2011, caiff y Comisiynydd drwy hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau sy’n benodol gymwys iddo. I adlewyrchu hynny, mae’r safonau a bennir yn y Rheoliadau wedi eu geirio ar ffurf naratif ail berson, hynny yw ar ffurf “rhaid ichi” (ac ystyr “chi” yw’r corff perthnasol ym mhob achos).
Gan ddefnyddio’r hyblygrwydd a ddarperir gan adran 44 o Fesur 2011, caiff y Comisiynydd (os yw hynny’n rhesymol ac yn gymesur a’i fod yn dymuno gwneud hynny) ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un safon o dan rai amgylchiadau, a safon arall o dan amgylchiadau eraill. Er enghraifft, os yw un safon yn benodol gymwys i gorff, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon honno o dan rai amgylchiadau, ond nid o dan amgylchiadau eraill, neu ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon honno mewn rhai ardaloedd yn unig. Yn yr un modd os oes dwy neu ragor o safonau yn ymwneud ag ymddygiad penodol (er enghraifft, safonau 8 i 11 mewn perthynas ag ateb galwadau ffôn), caiff y Comisiynydd drwy gyfrwng hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau hynny’n unig, neu â safonau gwahanol ar adegau gwahanol, o dan amgylchiadau gwahanol, neu mewn ardaloedd gwahanol, fel sy’n briodol i’r corff. Nid oes rheidrwydd ar y Comisiynydd felly i’w gwneud yn ofynnol i bob corff gydymffurfio â phob safon.
Yn unol ag adran 46 o Fesur 2011, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio a roddir i gorff ddatgan y diwrnod gosod, neu’r diwrnodau gosod; hynny yw, y diwrnod neu’r diwrnodau y daw’n ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon (neu gydymffurfio â safon mewn modd penodol). Gan ddefnyddio’r hyblygrwydd a ddarperir gan adran 46, caiff y Comisiynydd osod diwrnod gosod buan i gorff gydymffurfio â safon (cyn belled â bod hynny o leiaf 6 mis ar ôl dyddiad rhoi’r hysbysiad cydymffurfio perthnasol i’r corff), neu osod diwrnod gosod ymhellach i’r dyfodol (er enghraifft mewn perthynas â safonau sy’n fwy heriol).
Pan fo safon a bennir yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeunydd ysgrifenedig gael ei arddangos neu ei ddarparu yn Gymraeg, neu i wasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg, nid yw hyn yn golygu bod rhaid arddangos neu ddarparu’r deunydd yn Gymraeg yn unig, na bod rhaid i’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg yn unig (oni bai bod hynny’n cael ei nodi’n benodol).
Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau. Mae adran 28 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon cyflenwi gwasanaethau” yw safon sy’n ymwneud â gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau, ac y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio’r Gymraeg, neu weithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, pan gyflawnir y gweithgaredd hwnnw. Ystyr “gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau” yw bod person yn cyflenwi gwasanaethau i berson arall, neu yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau i’r person hwnnw neu i drydydd person.
Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau yn pennu safonau llunio polisi. Mae adran 29 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon llunio polisi” yw safon sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi ac y bwriedir iddi sicrhau, neu gyfrannu at sicrhau, bod y person sy’n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried un neu ragor o’r canlynol—
(a)pa effeithiau, os o gwbl, (a pha un a yw’r effeithiau’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;
(b)sut y gellid gwneud y penderfyniad fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;
(c)sut y gellid gwneud y penderfyniad fel nad yw’r penderfyniad yn cael effeithiau andwyol, neu fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau llai andwyol, ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Mae Atodlen 3 i’r Rheoliadau yn pennu safonau gweithredu. Mae adran 30 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon gweithredu” yw safon sy’n ymwneud â swyddogaethau, neu fusnes neu ymgymeriad arall (“gweithgareddau perthnasol”) person (“A”), ac y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio’r Gymraeg—
(a)gan A wrth i A wneud ei weithgareddau perthnasol,
(b)gan A a pherson arall wrth iddynt ddelio â’i gilydd mewn cysylltiad â gweithgareddau perthnasol A, neu
(c)gan berson heblaw A wrth iddo wneud gweithgareddau at ddibenion gweithgareddau perthnasol A, neu mewn cysylltiad â hwy.
Mae Atodlen 4 i’r Rheoliadau yn pennu safonau cadw cofnodion. Mae adran 32 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon cadw cofnodion” yw safon sy’n ymwneud â chadw cofnodion ynghylch safonau penodedig eraill, cofnodion ynghylch cwynion mewn perthynas â chydymffurfedd â safonau penodedig eraill, neu gofnodion ynghylch cwynion eraill sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
Mae Atodlen 5 i’r Rheoliadau yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion atodol. Mae’r rhain yn fathau penodol o safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau llunio polisi, safonau gweithredu a safonau cadw cofnodion sy’n ymdrin â’r materion y cyfeirir atynt yn adran 27(4) o Fesur 2011 (sy’n atodol i’r materion hynny yr ymdrinnir â hwy yn Atodlenni 1 i 4).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Uned y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2011 mccc 1.
gweler adran 20(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae adran 22 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p. 38) yn gwneud darpariaeth ynghylch siarad Cymraeg mewn achosion cyfreithiol.