- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
1 | Safonau ynghylch gohebiaeth a anfonir gan gorff |
(1) Pan fo corff yn ateb gohebiaeth | |
Safon 1: | Os byddwch yn cael unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg oddi wrth berson, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb), oni bai bod y person wedi dweud nad oes angen ateb yn Gymraeg. |
(2) Pan fo corff yn gohebu | |
(a) Pan fo corff yn gohebu ag unigolyn | |
Safon 2: | Pan fyddwch yn gohebu ag unigolyn (“A”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg, ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny rhaid ichi— (a) cadw cofnod o ddymuniad A, (b) gohebu yn Gymraeg ag A wrth ohebu ag A o hynny ymlaen, ac (c) anfon unrhyw ffurflenni y byddwch yn eu hanfon at A o hynny ymlaen yn Gymraeg. |
(b) Pan fo corff yn gohebu â mwy nag un aelod o’r un aelwyd | |
Safon 3: | Pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at ddau unigolyn sy’n aelodau o’r un aelwyd (er enghraifft, rhieni plentyn) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i’r unigolion hynny a ydynt yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg, ac os— (a) yw’r ddau unigolyn yn ymateb i ddweud eu bod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’u dymuniad, a gohebu yn Gymraeg o hynny ymlaen pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at y ddau unigolyn hynny; (b) yw un o’r unigolion (ond nid y ddau) yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’i ddymuniad, a darparu fersiwn Gymraeg o ohebiaeth o hynny ymlaen pan fyddwch yn anfon gohebiaeth a gyfeirir at y ddau unigolyn hynny. |
(c) Pan fo corff yn gohebu â sawl person (er enghraifft, pan fydd yn anfon cylchlythyr, neu’n anfon yr un llythyr at nifer o gartrefi) | |
Safon 4: | Pan fyddwch yn anfon yr un ohebiaeth at nifer o bersonau, rhaid ichi anfon fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth ar yr un pryd ag y byddwch yn anfon unrhyw fersiwn Saesneg ohoni. |
(3) Safonau cyffredinol ynghylch gohebu | |
Safon 5: | Os nad ydych yn gwybod a yw person yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg rhaid ichi ddarparu fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth pan fyddwch yn gohebu â’r person hwnnw. |
Safon 6: | Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg gyfatebol o ohebiaeth, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg (er enghraifft, os yw’r fersiwn Saesneg wedi ei llofnodi, neu os oes manylion cyswllt wedi eu darparu ar y fersiwn Saesneg, rhaid i’r fersiwn Gymraeg gael ei thrin yn yr un modd). |
Safon 7: | Rhaid ichi ddatgan— (a) mewn gohebiaeth, a (b) mewn cyhoeddiadau a hysbysiadau sy’n gwahodd personau i anfon ymateb neu i anfon gohebiaeth atoch, eich bod yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwch yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi. |
2 | Safonau ynghylch galwadau ffôn i gorff ac oddi wrth gorff |
(1) Galwadau ffôn i brif rif ffôn y corff ac i unrhyw linellau cymorth neu ganolfannau galwadau | |
Safon 8: | Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi gyfarch y person yn Gymraeg. |
Safon 9: | Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi roi gwybod i’r person bod gwasanaeth Cymraeg ar gael. |
Safon 10: | Pan fo person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd os yw’r person yn dymuno hynny (gan drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg os yw hynny’n angenrheidiol). |
Safon 11: | Pan fo person yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg os yw’r person yn dymuno hynny— (a) hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a (b) hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw. |
Safon 12: | Pan fyddwch yn hysbysebu rhifau ffôn, llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 13: | Os byddwch yn cynnig gwasanaeth Cymraeg ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid i rif ffôn y gwasanaeth Cymraeg fod yr un peth â rhif ffôn y gwasanaeth Saesneg cyfatebol. |
Safon 14: | Pan fyddwch yn cyhoeddi eich prif rif ffôn, neu unrhyw rifau sydd gennych ar gyfer llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid ichi nodi (yn Gymraeg) eich bod yn croesawu galwadau yn Gymraeg. |
Safon 15: | Os oes gennych ddangosyddion perfformiad ar gyfer delio â galwadau ffôn, rhaid ichi sicrhau nad yw’r dangosyddion perfformiad hynny yn trin galwadau ffôn a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na galwadau a wneir yn Saesneg. |
Safon 16: | Rhaid i’ch prif wasanaeth (neu wasanaethau) ateb galwadau ffôn roi gwybod i bersonau sy’n galw, yn Gymraeg, fod modd gadael neges yn Gymraeg. |
Safon 17: | Pan na fo gwasanaeth Cymraeg ar gael ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid ichi roi gwybod i’r personau sy’n galw (pa un ai drwy gyfrwng neges wedi ei hawtomeiddio neu fel arall) pryd y bydd gwasanaeth Cymraeg ar gael. |
(2) Galwadau ffôn i adrannau, ac i aelodau o staff corff | |
Safon 18: | Os bydd person yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau staff), a bod y person hwnnw’n dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd (os yw’n angenrheidiol drwy drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg). |
Safon 19: | Os bydd person yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau staff), a bod y person hwnnw’n dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg— (a) hyd nes ei bod yn angenrheidiol trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a (b) hyd nes nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw. |
Safon 20: | Pan fydd person yn cysylltu â chi ar rif llinell uniongyrchol (pa un ai ar rif llinell uniongyrchol adran neu ar rif llinell uniongyrchol aelod o staff), rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth gyfarch y person. |
(3) Galwadau ffôn a wneir gan gorff | |
Safon 21: | Pan fyddwch yn ffonio unigolyn (“A”) am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw’n dymuno cael galwadau ffôn oddi wrthych yn Gymraeg, ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o’i ddymuniad, a chynnal galwadau ffôn a wneir i A o hynny ymlaen yn Gymraeg. |
(4) Corff yn delio â galwadau ffôn drwy system wedi ei hawtomeiddio | |
Safon 22: | Rhaid i unrhyw system ffôn wedi ei hawtomeiddio sydd gennych ddarparu’r gwasanaeth cyfan wedi ei awtomeiddio yn Gymraeg. |
3 | Safonau ynghylch cyfarfodydd a gynhelir gan gorff nad ydynt yn agored i’r cyhoedd yn gyffredinol |
(1) Cyfarfodydd rhwng corff ac un person gwahoddedig arall | |
Safon 23: | Os byddwch yn gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg; ac os yw P yn eich hysbysu ei fod yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, rhaid ichi gynnal y cyfarfod hwnnw yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). |
Safon 24: | Os byddwch yn gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, rhaid ichi ofyn i P a fyddai’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a hysbysu P y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw. |
Safon 24A: | Os byddwch wedi gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu). |
Safon 24B: | Os byddwch wedi gwahodd un person (“P”) yn unig i gyfarfod, a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu). |
(2) Cyfarfodydd rhwng corff a mwy nag un person gwahoddedig | |
Safon 25: | Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, rhaid ichi ofyn i bob person a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. |
Safon 25A: | Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 10% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod. |
Safon 25B: | Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 20% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod. |
Safon 25C: | Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod o leiaf 30% (ond llai na 100%) o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod. |
Safon 25CH: | Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod pawb a gafodd wahoddiad wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). |
Safon 25D: | Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod pawb a gafodd wahoddiad wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu). |
4 | Safonau ynghylch corff yn cynnal cyfweliadau nad ydynt yn agored i’r cyhoedd |
(1) Cyfweliadau rhwng corff a pherson | |
Safon 26 | Os byddwch yn gwahodd person (“P”) i gyfweliad neu os byddwch yn ei gwneud yn ofynnol iddo fynd i gyfweliad— (a) er mwyn eich cynorthwyo gydag ymholiad (er enghraifft fel tyst i ddigwyddiad); neu (b) os yw P wedi ei arestio rhaid ichi ofyn i P a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a hysbysu P y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw. |
Safon 26A | Os byddwch wedi gwahodd person (“P”) i gyfweliad neu os byddwch wedi ei gwneud yn ofynnol iddo fynd i gyfweliad— (a) er mwyn eich cynorthwyo gydag ymholiad (er enghraifft fel tyst i ddigwyddiad); neu (b) os yw P wedi ei arestio a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfweliad (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu). |
Safon 26B | Os byddwch wedi gwahodd person (“P”) i gyfweliad neu os byddwch wedi ei gwneud yn ofynnol iddo fynd i gyfweliad— (a) er mwyn eich cynorthwyo gydag ymholiad (er enghraifft fel tyst i ddigwyddiad); neu (b) os yw P wedi ei arestio a bod P wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfweliad (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu). |
(2) Cyfweliadau rhwng corff a mwy nag un person | |
Safon 27 | Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfweliad neu os byddwch yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fynd i gyfweliad— (a) er mwyn eich cynorthwyo gydag ymholiad (er enghraifft fel tyst i ddigwyddiad); neu (b) os yw un neu ragor o’r personau hynny wedi ei arestio rhaid ichi ofyn i bob person a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a’i hysbysu y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw. |
Safon 27A | Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfweliad neu os byddwch yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fynd i gyfweliad— (a) er mwyn eich cynorthwyo gydag ymholiad (er enghraifft fel tyst i ddigwyddiad); neu (b) os yw un neu ragor o’r personau hynny wedi ei arestio ac os yw un neu ragor o’r personau hynny wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfweliad (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu). |
Safon 27B | Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfweliad neu os byddwch yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fynd i gyfweliad— (a) er mwyn eich cynorthwyo gydag ymholiad (er enghraifft fel tyst i ddigwyddiad); neu (b) os yw un neu ragor o’r personau hynny wedi ei arestio ac os yw un neu ragor o’r personau hynny wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, rhaid ichi drefnu bod gwasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfweliad (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu). |
5 | Safonau ynghylch cyfarfodydd a drefnir gan gorff sy’n agored i’r cyhoedd |
Safon 28: | Os byddwch yn trefnu cyfarfod sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi ddatgan ar unrhyw ddeunydd sy’n ei hysbysebu, ac ar unrhyw wahoddiad iddo, bod croeso i unrhyw un sy’n bresennol ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. |
Safon 29: | Pan fyddwch yn anfon gwahoddiadau i gyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi eu hanfon yn Gymraeg. |
Safon 30: | Os byddwch yn gwahodd personau i siarad mewn cyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd rhaid ichi— (a) gofyn i bob person a wahoddir i siarad a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg, a (b) os yw’r person hwnnw (neu o leiaf un o’r personau hynny) yn eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu). |
Safon 31: | Os byddwch yn trefnu cyfarfod sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod, a rhaid ichi hysbysu’r rheini sy’n bresennol ar lafar yn Gymraeg— (a) bod croeso iddynt ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael. |
Safon 32: | Os byddwch yn arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig mewn cyfarfod yr ydych yn ei drefnu sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi sicrhau bod y deunydd yn cael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw destun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg. |
6 | Safonau ynghylch digwyddiadau cyhoeddus a drefnir neu a ariennir gan gorff |
Safon 33: | Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth hybu’r digwyddiad (er enghraifft, o ran y ffordd y mae’r digwyddiad yn cael ei hysbysebu neu y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad). |
Safon 34: | Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yn y digwyddiad (er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaethau a gynigir i bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad, mewn perthynas ag arwyddion a arddangosir yn y digwyddiad, ac mewn perthynas â chyhoeddiadau sain a wneir ynddo). |
7 | Safon ynghylch cyhoeddusrwydd a hysbysebu gan gorff |
Safon 35: | Rhaid i unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu ddeunydd hysbysebu yr ydych yn ei lunio gael ei lunio yn Gymraeg, ac os byddwch yn llunio’r deunydd yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg. |
8 | Safonau ynghylch corff yn arddangos deunydd yn gyhoeddus |
Safon 36: | Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei arddangos yn gyhoeddus gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg. |
Safon 37: | Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei arddangos mewn arddangosfa gyhoeddus sydd wedi ei threfnu gennych gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg. |
9 | Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi dogfennau |
Safon 38: | Rhaid i unrhyw ddogfennau at ddefnydd y cyhoedd yr ydych yn eu llunio gael eu llunio yn Gymraeg. |
Safon 39: | Os byddwch yn llunio agendâu, cofnodion a phapurau eraill ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau neu seminarau sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi eu llunio yn Gymraeg. |
Safon 40: | Rhaid i unrhyw drwydded, hawlen neu dystysgrif yr ydych yn ei llunio gael ei llunio yn Gymraeg. |
Safon 41: | Rhaid i unrhyw lyfryn, taflen, pamffled neu gerdyn yr ydych yn ei lunio neu ei llunio er mwyn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd gael ei lunio neu ei llunio yn Gymraeg. |
Safon 42: | Os byddwch yn llunio’r dogfennau a ganlyn, a’u bod ar gael i’r cyhoedd, rhaid ichi eu llunio yn Gymraeg— (a) polisïau, strategaethau, adroddiadau blynyddol a chynlluniau corfforaethol; (b) canllawiau a chodau ymarfer; (c) papurau ymgynghori. |
Safon 43: | Rhaid i unrhyw reolau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n gymwys i’r cyhoedd gael eu cyhoeddi yn Gymraeg. |
Safon 44: | Pan fyddwch yn rhyddhau unrhyw ddatganiad i’r wasg, rhaid ichi ei ryddhau yn Gymraeg, ac os oes fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddatganiad, rhaid ichi ryddhau’r ddwy fersiwn ar yr un pryd. |
Safon 45: | Os byddwch yn llunio dogfen sydd ar gael i’r cyhoedd, a phan nad oes safon arall wedi ei gwneud yn ofynnol ichi ei llunio yn Gymraeg, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg— (a) os yw pwnc y ddogfen yn awgrymu y dylid ei llunio yn Gymraeg, neu (b) os yw’r gynulleidfa a ragwelir, a’u disgwyliadau, yn awgrymu y dylid llunio’r ddogfen yn Gymraeg. |
Safon 46: | Os byddwch yn llunio dogfen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un ai ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg. |
Safon 47: | Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddogfen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ddogfen hefyd ar gael yn Gymraeg. |
10 | Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi ffurflenni |
Safon 48: | Rhaid i unrhyw ffurflen yr ydych yn ei rhoi ar gael i’r cyhoedd gael ei llunio yn Gymraeg. |
Safon 48A: | Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ffurflen ar wahân, rhaid ichi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn datgan yn glir bod y ffurflen hefyd ar gael yn Gymraeg. |
Safon 48B: | Os byddwch yn llunio ffurflen yn Gymraeg ac yn Saesneg (pa un ai ydynt yn fersiynau ar wahân ai peidio), rhaid ichi sicrhau nad yw’r fersiwn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg, a rhaid ichi beidio â gwahaniaethu rhyngddynt o ran unrhyw ofynion sy’n berthnasol i’r ffurflen (er enghraifft mewn perthynas ag unrhyw ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen neu mewn perthynas â’r amser a ganiateir ar gyfer ymateb i gynnwys y ffurflen). |
11 | Safonau ynghylch gwefannau a gwasanaethau ar-lein corff |
(1) Gwefannau a gyhoeddir gan gorff | |
Safon 49: | Rhaid ichi sicrhau— (a) bod testun pob tudalen ar eich gwefan ar gael yn Gymraeg, (b) bod pob tudalen Gymraeg ar eich gwefan yn gweithredu’n llawn, ac (c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich gwefan. |
Safon 50: | Rhaid ichi sicrhau— (a) bod testun hafan eich gwefan ar gael yn Gymraeg, (b) bod unrhyw destun Cymraeg ar hafan eich gwefan (neu, pan fo’n berthnasol, bod eich hafan Gymraeg) yn gweithredu’n llawn, ac (c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hafan eich gwefan. |
Safon 51: | Pan fyddwch yn cyhoeddi tudalen newydd ar eich gwefan neu’n diwygio tudalen, rhaid ichi sicrhau— (a) bod testun y dudalen honno ar gael yn Gymraeg, (b) bod unrhyw fersiwn Gymraeg o’r dudalen yn gweithredu’n llawn, ac (c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran testun y dudalen honno. |
Safon 52: | Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich gwefan sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi nodi’n glir ar y dudalen Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a darparu dolen uniongyrchol at y dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol. |
Safon 53: | Rhaid ichi ddarparu’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar bob tudalen ar eich gwefan yn Gymraeg. |
(2) Apiau a gyhoeddir gan gorff | |
Safon 54: | Rhaid i bob ap yr ydych yn ei gyhoeddi weithredu’n llawn yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg o ran yr ap hwnnw. |
12 | Safonau ynghylch defnydd corff o’r cyfryngau cymdeithasol |
Safon 55: | Pan fyddwch yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 56: | Os bydd person yn cysylltu â chi drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb). |
13 | Safon ynghylch peiriannau hunanwasanaeth |
Safon 57: | Rhaid ichi sicrhau bod unrhyw beiriannau hunanwasanaeth sydd gennych yn gweithio’n llawn yn Gymraeg, a rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â’r peiriant hwnnw. |
14 | Safonau ynghylch arwyddion a arddangosir gan gorff |
Safon 58: | Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro) rhaid i unrhyw destun sy’n cael ei arddangos ar yr arwydd gael ei arddangos yn Gymraeg (pa un ai ar yr un arwydd sy’n arddangos y testun cyfatebol yn Saesneg neu ar arwydd ar wahân); ac os yw’r un testun yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y testun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg. |
Safon 59: | Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro), a bod yr arwydd hwnnw’n cyfleu yr un wybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf. |
Safon 60: | Rhaid ichi sicrhau bod y testun Cymraeg ar arwyddion yn gywir o ran ystyr a mynegiant. |
15 | Safonau ynghylch derbyn ymwelwyr i adeiladau’r corff |
Safon 61: | Rhaid i unrhyw wasanaeth derbynfa yr ydych yn ei roi ar gael yn Saesneg hefyd fod ar gael yn Gymraeg, a rhaid i unrhyw berson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Cymraeg beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na pherson sydd am gael gwasanaeth derbynfa Saesneg. |
Safon 62: | Os byddwch yn trefnu ymweliad neu apwyntiad i berson (“P”) ymlaen llaw a fydd yn golygu y bydd P yn dod i’ch derbynfa, rhaid ichi ofyn i P a yw’n dymuno cael gwasanaeth derbynfa Cymraeg (oni bai eich bod yn gwybod eisoes a yw P yn dymuno cael y gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg). |
Safon 62A: | Rhaid ichi ddarparu gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg i berson (“P”) os byddwch wedi trefnu ymweliad neu apwyntiad ymlaen llaw i P, a— (a) bod P wedi eich hysbysu ymlaen llaw ei fod yn dymuno cael gwasanaeth Cymraeg, neu (b) eich bod eisoes yn gwybod bod P yn dymuno cael y gwasanaeth yn Gymraeg. |
Safon 63: | Os nad oes gwasanaeth derbynfa wyneb yn wyneb Cymraeg ar gael gennych, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth derbynfa yn Gymraeg ar gael dros ffôn yn eich derbynfa. |
Safon 64: | Rhaid ichi arddangos arwydd yn eich derbynfa sy’n datgan (yn Gymraeg) fod croeso i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg yn y dderbynfa. |
Safon 65: | Rhaid ichi sicrhau bod staff yn y dderbynfa sy’n gallu darparu gwasanaeth derbynfa Cymraeg yn gwisgo bathodyn sy’n cyfleu hynny. |
16 | Safonau ynghylch corff yn gwneud hysbysiadau |
Safon 66: | Rhaid i unrhyw hysbysiad yr ydych yn ei gyhoeddi neu ei arddangos gael ei gyhoeddi neu ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r hysbysiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono. |
Safon 67: | Pan fyddwch yn cyhoeddi neu’n arddangos hysbysiad sy’n cynnwys y testun Cymraeg yn ogystal â’r testun Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf. |
17 | Safonau ynghylch corff yn dyfarnu grantiau |
Safon 68: | Rhaid i unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n ymwneud â cheisiadau am grant gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohonynt. |
Safon 69: | Pan fyddwch yn gwahodd ceisiadau am grant, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg ac na fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. |
Safon 69A: | Rhaid ichi beidio â thrin ceisiadau am grant a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael ceisiadau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniadau). |
Safon 70: | Os byddwch yn cael cais am grant yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld ag ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfweliad yn Gymraeg ac, os yw’r ymgeisydd yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). |
Safon 71: | Os byddwch yn cael cais am grant yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld ag ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais rhaid ichi— (a) cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn i’r ymgeisydd allu defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a (b) os yw’r ymgeisydd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu). |
Safon 72: | Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ymgeisydd beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chais am grant, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y cais yn Gymraeg. |
18 | Safonau ynghylch corff yn dyfarnu contractau |
Safon 73: | Rhaid i unrhyw wahoddiadau i dendro am gontract yr ydych yn eu cyhoeddi gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o unrhyw wahoddiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono. |
Safon 74: | Pan fyddwch yn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro am gontract, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i dendrau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd tendr a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg. |
Safon 74A: | Rhaid ichi beidio â thrin tendr am gontract a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael tendrau, ac mewn perthynas ag amseriad rhoi gwybod i dendrwyr am benderfyniadau). |
Safon 75: | Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyfweld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfweliad hwnnw yn Gymraeg ac, os yw’r tendrwr yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol). |
Safon 76: | Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyfweld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr rhaid ichi— (a) cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg fel bod modd i’r tendrwr ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a (b) os yw’r tendrwr yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu). |
Safon 77: | Pan fyddwch yn rhoi gwybod i dendrwr beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â thendr, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y tendr yn Gymraeg. |
19 | Safonau ar gyfer codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gorff |
Safon 78: | Rhaid ichi hybu unrhyw wasanaeth Cymraeg a ddarperir gennych, a hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg. |
Safon 79: | Os byddwch yn darparu gwasanaeth yn Gymraeg sy’n cyfateb i wasanaeth yr ydych yn ei ddarparu yn Saesneg, rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd neu ddogfen yr ydych yn ei llunio, neu wefan yr ydych yn ei chyhoeddi, sy’n cyfeirio at y gwasanaeth Saesneg nodi bod gwasanaeth cyfatebol ar gael yn Gymraeg. |
20 | Safon ynghylch hunaniaeth gorfforaethol corff |
Safon 80: | Pan fyddwch yn llunio, yn diwygio neu’n cyflwyno eich hunaniaeth gorfforaethol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
21 | Safonau ynghylch cyrsiau a gynigir gan gorff |
Safon 81: | Os byddwch yn cynnig cwrs addysg sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg. |
Safon 82: | Os byddwch yn cynnig cwrs addysg sy’n agored i’r cyhoedd, ac sydd wedi ei anelu’n benodol at bersonau sy’n 18 oed neu’n iau, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg. |
Safon 83: | Os byddwch yn datblygu cwrs addysg sydd i’w gynnig i’r cyhoedd, rhaid ichi asesu’r angen i’r cwrs hwnnw gael ei gynnig yn Gymraeg; a rhaid ichi sicrhau bod yr asesiad wedi ei gyhoeddi ar eich gwefan. |
22 | Safon ynghylch systemau annerch cyhoeddus a ddefnyddir gan gorff |
Safon 84: | Pan fyddwch yn cyhoeddi neges dros system annerch gyhoeddus, rhaid ichi wneud y cyhoeddiad hwnnw yn Gymraeg, ac os yw’r cyhoeddiad yn cael ei wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn Gymraeg yn gyntaf. |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: