Search Legislation

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

15.  Brics glo Charglow, a weithgynhyrchir gan Polchar Spolka z organiczona odpowiedzialnoscia, Police, Zachodniopomorskie, Gwlad Pwyl—

(a)a gyfansoddir o gols glo meddal (sef tua 45 i 95% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 110°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.

Back to top

Options/Help