xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Cartrefi Symudol, Cymru
Gwnaed
28 Medi 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Medi 2016
Yn dod i rym
31 Hydref 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 58(3)(a) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Hydref 2016.
2.—(1) Mae Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1 o Ran B (swyddogaethau trwyddedu a chofrestru (i’r graddau nad oes unrhyw baragraff arall yn yr Atodlen hon yn ymdrin â hwy))—
(a)yng ngholofn (1) y Tabl ar ôl “Y pŵer i ddyroddi trwyddedau sy’’n awdurdodi defnyddio tir fel safle carafannau”, mewnosoder “neu safle cartrefi symudol”; a
(b)yng ngholofn (2) y Tabl, ar ôl “Adran 3(3) o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (p.62)" mewnosoder “ac adran 7(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (dccc 6)”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Taliadau Sŵn Priffyrdd (Cartrefi Symudol) (Cymru) 2001(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “cartref symudol”—
(a)hepgorer paragraff (a);
(b)ar ddiwedd paragraff (b) yn lle “;” rhodder “, neu”; ac
(c)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(c)cartref symudol o fewn ystyr adran 60 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013;”.
(3) Yn rheoliad 7(1)(a) (cartrefi cymwys)—
(a)yn lle “carafán, wedi’i lleoli’n” rhodder “cartref symudol, wedi’i leoli’n”; a
(b)yn lle “adran 1(2) o Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968” rhodder “adran 2(2) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013”.
4. Yn Rhan 5 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(4), o dan Ddosbarth B (datblygu a ganiateir) ar ôl “the 1960 Act” mewnosoder “and the Mobile Homes (Wales) Act 2013”.
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
28 Medi 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) a daw i rym ar 31 Hydref 2016.
Mae erthygl 2 yn mewnosod cyfeiriadau at safle cartrefi symudol ac at Ddeddf 2013 yn Rhan B y Tabl yn Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007.
Mae erthygl 3 yn gwneud newidiadau i reoliadau 2 a 7(1)(a) o Reoliadau Taliadau Sŵn Priffyrdd (Cartrefi Symudol) (Cymru) 2001.
Mae erthygl 4 yn mewnosod cyfeiriad at Ddeddf 2013 yn Rhan 5 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.