Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Newidiadau dros amser i: RHAN 6

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 6:

  • Regulations text amended by S.I. 2020/143 reg. 2-17 (These amendments not applied to legislation.gov.uk. Affecting Regulations revoked (14.2.2020) without ever being in force by S.I. 2020/154, regs. 2, 3)

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

RHAN 6LL+CBENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Amodau’r hawl i gael benthyciadau at gostau bywLL+C

41.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’r myfyriwr cymwys yn bodloni’r amod ym mharagraff (2) ac nad yw’n cael ei hepgor gan baragraff (3) neu reoliad 7.

(2Yr amod yw bod y myfyriwr cymwys o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod odano.

(4Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’r cwrs hwnnw—

(a)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009; a

(b)yn arwain at gymhwyster fel pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

(5Rhaid trin myfyriwr cymwys y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddiben bod â hawl i gael benthyciad at gostau byw.

(6Mae paragraff (5) yn gymwys i’r canlynol—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr cymwys anabl—

(i)nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud â’i anabledd; ac

(c)myfyriwr cymwys ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus.

(7Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan y Rhan hon os yw’r myfyriwr cymwys yn garcharor.

(8Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan y Rhan hon os yw’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 41 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

CyffredinolLL+C

42.  Cyfrifir uchafswm y benthyciad at gostau byw mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a)pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 neu’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio, yn unol â rheoliad 43;

(b)pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2011, yn unol â rheoliad 44;

(c)pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol, yn unol â rheoliad 45.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 42 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2010, yn fyfyrwyr carfan 2012 neu’n fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’u blwyddyn gyntaf o astudioLL+C

43.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 neu’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 46 i 51, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—

  • X i fyfyriwr o’r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £5,358 [F1ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £5,529];

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £9,697 [F2ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £10,007];

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £8,253 [F3ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £8,517];

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £8,253 [F4ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £8,517];

    (v)

    yng nghategori 5, yn £6,922 [F5ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £7,143];

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 46 i 51, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y) pan fo—

  • X i fyfyriwr o’r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £4,851 [F6ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £5,006];

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £8,830 [F7ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £9,112];

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £7,179 [F8ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £7,408];

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £7,179 [F9ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £7,408];

    (v)

    yng nghategori 5, yn £6,412 [F10ar gyfer myfyriwr carfan 2010, fel arall yn £6,617];

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

(4Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw’r canlynol—

(a)os oes gan y myfyriwr cymwys, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 36 i gael swm o grant cynhaliaeth, y swm sy’n hafal i £0.50 am bob £1 o grant cynhaliaeth y mae hawl gan y myfyriwr i’w gael, hyd at uchafswm gwerth Y o £2,580;

(b)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy o dan reoliad 36, dim.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 43 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2011LL+C

44.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2011.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 46 i 51, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—

  • X i fyfyriwr o’r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £5,358;

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £9,697;

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £8,253;

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £8,253;

    (v)

    yng nghategori 5, yn £6,922;

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 46 i 51, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y) pan fo—

  • X i fyfyriwr o’r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £4,851;

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £8,830;

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £7,179;

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £7,179;

    (v)

    yng nghategori 5, yn £6,412;

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

(4Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw’r canlynol—

(a)os oes gan y myfyriwr cymwys, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 37 i gael swm o grant cynhaliaeth, mae’r swm y mae hwnnw’n hafal iddo yn £0.50 am bob £1 o grant cynhaliaeth y mae hawl gan y myfyriwr i’w gael, hyd at uchafswm gwerth Y o £2,688;

(b)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy o dan reoliad 37, dim.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 44 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Myfyrwyr sydd â hawlogaeth ostyngolLL+C

45.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 46 i 51, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys, fel a ganlyn—

(a)os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 23(3), ar gyfer myfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn [F11£2,625];

(ii)yng nghategori 2, yn [F12£4,920];

(iii)yng nghategori 3, yn [F13£3,500];

(iv)yng nghategori 4, yn [F14£3,500];

(v)yng nghategori 5, yn [F15£3,500].

(b)os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 23(6), ar gyfer myfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn [F16£2,625];

(ii)yng nghategori 2, yn [F17£4,920];

(iii)yng nghategori 3, yn [F18£4,186];

(iv)yng nghategori 4, yn [F19£4,186];

(v)yng nghategori 5, yn [F20£3,500].

(c)os yw’r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i (X-Y) pan fo—

X i fyfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn [F21£4,147];

(ii)yng nghategori 2, yn [F22£7,505];

(iii)yng nghategori 3, yn [F23£6,388];

(iv)yng nghategori 4, yn [F24£6,388];

(v)yng nghategori 5, yn [F25£5,357] ;

Y yn ddim.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 46 i 51, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys, fel a ganlyn—

(a)os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 23(3), ar gyfer myfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn [F26£1,996];

(ii)yng nghategori 2, yn [F27£3,763];

(iii)yng nghategori 3, yn [F28£2,727];

(iv)yng nghategori 4, yn [F29£2,727];

(v)yng nghategori 5, yn [F30£2,727].

(b)os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 23(6), ar gyfer myfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn [F31£1,996];

(ii)yng nghategori 2, yn [F32£3,763];

(iii)yng nghategori 3, yn [F33£3,060];

(iv)yng nghategori 4, yn [F34£3,060];

(v)yng nghategori 5, yn [F35£2,727].

(c)os yw’r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i (X-Y) pan fo—

X i fyfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn [F36£3,755];

(ii)yng nghategori 2, yn £ [F37£6,834];

(iii)yng nghategori 3, yn [F38£5,556];

(iv)yng nghategori 4, yn £ [F39£5,556];

(v)yng nghategori 5, yn [F40£4,963];

Y yn ddim.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 45 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Myfyrwyr sy’n preswylio gyda’u rhieniLL+C

46.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo myfyriwr cymwys (“A” yn y paragraff hwn) yn preswylio yng nghartref ei rieni a Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’n rhesymol disgwyl, o dan yr holl amgylchiadau, i rieni A ei gynnal oherwydd oedran, analluedd neu reswm arall ac y byddai’n briodol i swm y benthyciad sy’n daladwy i fyfyriwr mewn categori ac eithrio categori 1 fod yn gymwys yn achos A, rhaid trin A fel pe na bai’n preswylio yng nghartref ei rieni.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n dechrau ar gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2004.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 46 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Benthyciadau at gostau byw sy’n daladwy ar gyfer tri chwarter o’r flwyddyn academaiddLL+C

47.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 49, mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o’r flwyddyn academaidd.

(2Nid yw benthyciad at gostau byw yn daladwy—

(a)yn achos myfyriwr cwrs gradd cywasgedig, mewn perthynas â’r chwarter a enwir gan Weinidogion Cymru;

(b)mewn unrhyw achos arall, mewn perthynas â’r chwarter y mae’r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo ym marn Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 47 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Myfyrwyr sy’n dod o fewn mwy nag un categoriLL+C

48.  Os yw myfyriwr cymwys yn dod o fewn mwy nag un o’r categorïau yn rheoliad 52 yn ystod y flwyddyn academaidd—

(a)uchafswm y benthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm uchafsymiau’r benthyciad at gostau byw am bob chwarter y mae’r benthyciad yn daladwy mewn perthynas ag ef;

(b)uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o’r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai’n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn y categori sy’n gymwys i’r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd; ac

(c)y categori sy’n gymwys i chwarter yw—

(i)y categori y mae’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn am y cyfnod hwy neu hwyaf yn y chwarter hwnnw; neu

(ii)os yw’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn mwy nag un categori am gyfnod cyfartal yn y cyfnod hwnnw, y categori sydd â’r gyfradd uchaf o fenthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 48 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaiddLL+C

49.—(1Os yw myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2), caiff y myfyriwr fod â hawl i gael benthyciad at gostau byw, mewn perthynas â’r chwarteri hynny o’r flwyddyn academaidd honno y mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â hwy ac sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (2) ddigwydd.

(2Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(d)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn gymwys iddo hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd ynddi.

(4Uchafswm y benthyciad at gostau byw sy’n daladwy yw cyfanswm uchafsymiau’r benthyciad am bob chwarter y mae gan y myfyriwr hawl i gael cymorth mewn perthynas ag ef o dan y rheoliad hwn.

(5Uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o’r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai’n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai’r myfyriwr yn dod o fewn y categori sy’n gymwys i’r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 49 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Codiadau yn yr uchafswmLL+C

50.—(1Os yw’n ofynnol i fyfyriwr cymwys fod yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod sy’n hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd, rhaid codi uchafswm y benthyciad at gostau byw a bennir yn [F41rheoliad 43 neu, yn ôl y digwydd, 44] am bob wythnos neu bob rhan o wythnos o bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd honno y tu hwnt i 30 wythnos a 3 diwrnod fel a ganlyn, i fyfyriwr o’r fath:

(a)yng nghategori 1, £80;

(b)yng nghategori 2, £153;

(c)yng nghategori 3, £166;

(d)yng nghategori 4, £166;

(e)yng nghategori 5, £120.

(2Os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod nad yw’n llai na 45 wythnos mewn unrhyw gyfnod di-dor o 52 wythnos, codir swm y benthyciad at gostau byw a bennir yn [F42rheoliad 43 neu, yn ôl y digwydd, 44] am bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr cymwys yn bresennol yn ôl y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(3Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys yn achos myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 50 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Didynnu o fenthyciadau at gostau bywLL+C

51.—(1Caniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys sydd â hawlogaeth lawn yn unol â rheoliad 56.

(2Ni chaniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol o dan reoliad 56.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 51 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Dehongli Rhan 6LL+C

52.  Yn y Rhan hon—

(a)mae myfyriwr yng nghategori 1 os yw’r myfyriwr, yn ddarostyngedig i reoliad 46, yn preswylio yng nghartref ei rieni tra bydd yn bresennol ar y cwrs; neu

(b)mae myfyriwr yng nghategori 2 os nad yw yng nghategori 1 a’r myfyriwr yn bresennol ar un neu ragor o’r canlynol—

(i)cwrs ym Mhrifysgol Llundain;

(ii)cwrs mewn sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o’r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd; neu

(iii)cwrs rhyngosod mewn sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ymgymryd â phrofiad gwaith neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r profiad gwaith hwnnw neu’r cyfuniad hwnnw o brofiad gwaith ac astudio am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o’r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle neu safleoedd sydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd;

(c)mae myfyriwr yng nghategori 3 os nad yw’r myfyriwr yng nghategori 1 ac os yw’r myfyriwr, fel rhan o’i gwrs, yn bresennol mewn sefydliad tramor, neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus;

(d)mae myfyriwr yng nghategori 4 os nad yw’r myfyriwr yng nghategori 1 a’i fod yn mynychu’r Athrofa;

(e)mae myfyriwr yng nghategori 5 os nad yw yng nghategorïau 1 i 4;

(f)“myfyriwr cymwys sydd â hawlogaeth lawn” (“eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol;

(g)rhaid dehongli “rhiant” (“parent”), ac eithrio pan ddynodir yn wahanol, yn unol â pharagraff 1(1)(f) o Atodlen 5;

(h)ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig a bennir;

(i)“myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol” (“student with reduced entitlement”) yw myfyriwr cymwys—

(i)nad yw’n gymwys i gael grant at gostau byw mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd yn rhinwedd rheoliad 23(3) neu reoliad 23(6); neu

(ii)sydd, wrth wneud cais am fenthyciad at gostau byw, yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd;

(j)os un flwyddyn academaidd yn unig yw hyd cwrs i raddedigion neu ar lefel ôl-radd ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, nid yw’r flwyddyn honno i gael ei thrin fel y flwyddyn derfynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 52 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources