Search Legislation

Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu” (“the Outstanding Liability”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7;

ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad a geir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2017/2018 o dan Ran 6 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(1);

ystyr “y benthyciwr” (“the borrower”) yw person sydd wedi cael benthyciad at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2017/2018;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Medi, 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr, ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf, neu ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst, yn y drefn honno;

ystyr “Blwyddyn Academaidd 2017/2018” (“Academic Year 2017/2018”) yw blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2017 ond cyn 1 Medi 2018;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Gwerthu Benthyciadau Myfyrwyr 2008(2);

ystyr “y Dyddiad Ad-dalu” (“the Repayment Date”) yw’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr ystyrir bod ad-daliad cyntaf y benthyciwr ar ei fenthyciad wedi ei gael naill ai gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu gan Weinidogion Cymru, pa un bynnag yr ystyrir iddo ei gael gyntaf (yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998(3));

mae i “y Dyddiad Bodloni” (“the Satisfaction Date”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 9;

mae “Gweinidogion Cymru” (“Welsh Ministers”) yn cynnwys unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi dirprwyo eu swyddogaethau iddo o dan adran 23 o Ddeddf 1998(4) neu unrhyw berson y maent wedi trosglwyddo eu hawliau iddo o dan adran 9 o Ddeddf 2008; ac mae i “y Swm Penodedig” (“the Specified Amount”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6.

(3)

Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, penderfynir ar y dyddiad yr ystyrir bod ad-daliad benthyciwr wedi ei gael yn unol â rheoliad 17 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (O.S. 2009/470) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/661, O.S. 2010/1010, O.S. 2011/784, O.S. 2012/836, O.S. 2012/1309, O.S. 2013/388, O.S. 2013/591, O.S. 2013/607, O.S. 2013/1881 ac O.S. 2014/651.

(4)

Diwygiwyd adran 23 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), O.S. 2002/808 ac O.S. 2010/1158.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources