- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
15.—(1) Rhaid i ofyniad a wneir o dan y paragraff hwn yn unol â rheoliad 14(7) gynnwys—
(a)copi o’r gofyniad i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad 14(1);
(b)copi o unrhyw hysbysiad perthnasol o dan reoliad 14(3) ac o unrhyw ymateb;
(c)copi o unrhyw farn sgrinio berthnasol a gafwyd gan y person sy’n gwneud y gofyniad ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau sy’n dod gyda’r farn; a
(d)unrhyw sylwadau y dymuna’r person sy’n gwneud y gofyniad eu gwneud.
(2) Rhaid i berson sy’n gwneud gofyniad anfon copi o’r gofyniad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol, ond nid oes angen i’r copi hwnnw gynnwys y materion a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) i (c).
(3) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol er mwyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r person sy’n gwneud y cais.
(4) Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall ar unrhyw rai o’r pwyntiau hynny.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ymgynghori â’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i ofyniad o dan baragraff (1), a
(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi at y person sy’n gwneud y gofyniad ac i’r awdurdod cynllunio perthnasol, o fewn y 5 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir y gofyniad hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy a all fod yn rhesymol ofynnol.
(7) Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y materion a bennir yn rheoliad 14(6).
(8) Nid oes dim yn atal Gweinidogion Cymru, (ar ôl iddynt wneud cyfarwyddyd cwmpasu) na’r awdurdod cynllunio perthnasol rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gwneud y gofyniad ddarparu gwybodaeth ychwanegol.
(9) Ystyr “gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (8) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar gyfer yr un datblygiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: