- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
46.—(1) Caiff unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad rheoliad 45 iddo, wneud cais i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad.
(2) Rhaid i’r canlynol gael eu cyflwyno ynghyd â’r cais am gyfarwyddyd sgrinio—
(a)copi o’r hysbysiad rheoliad 45;
(b)copi o’r hysbysiad gorfodi a oedd yn dod gydag ef; ac
(c)yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan reoliad 6(2), a’r sylwadau a gyflwynir yn unol â’r rheoliad hwnnw, y mae’n rhaid i’r ceisydd eu llunio wrth gydymffurfio â rheoliad 6(4).
(3) Ar yr un pryd ag y gwneir cais i Weinidogion Cymru, rhaid i’r ceisydd anfon copi o’r cais a’r wybodaeth ac unrhyw sylwadau a ddarperir neu a gyflwynir yn unol â pharagraff (2)(c) i’r awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad rheoliad 45.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (2) yn ddigonol i wneud cyfarwyddyd, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd a’r awdurdod am y materion y mae angen gwybodaeth ychwanegol mewn cysylltiad â hwy; a rhaid i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani felly gael ei darparu gan y ceisydd o fewn pa bynnag gyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.
(5) Mae rheoliad 7(6) i (8) yn gymwys i gyfarwyddyd y ceisir yn unol â pharagraff (1).
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cyfarwyddyd at y ceisydd.
(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo nad yw’r materion yr honnir eu bod yn torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA nac yn cynnwys datblygiad AEA, rhaid iddynt anfon copi o’r cyfarwyddyd at bob person yr anfonwyd copi o’r hysbysiad rheoliad 45 atynt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: