- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, Adran 57.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
57.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael gwybodaeth gan Wladwriaeth AEE F2...F3... a gasglwyd oddi wrth ddatblygwr prosiect arfaethedig yn y Wladwriaeth AEE F2... gan y Wladwriaeth AEE honno, sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yng Nghymru, rhaid iddyntF4...—
(a)cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE honno ynghylch effeithiau sylweddol posibl y prosiect arfaethedig ar yr amgylchedd yng Nghymru a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a
(b)cyn y rhoddir cydsyniad datblygu i’r prosiect, penderfynu ar gyfnod rhesymol ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE honno pryd y caniateir i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru gyflwyno sylwadau i’r awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE honno, F5....
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—
(a)trefnu i’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) fod ar gael, o fewn cyfnod rhesymol ac am gyfnod nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau, i’r awdurdodau yng Nghymru sy’n debygol o fod â phryderon ynghylch y prosiect oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol, ac i’r cyhoedd dan sylw yng Nghymru hefyd;
(b)sicrhau bod yr awdurdodau hynny a’r cyhoedd dan sylw yn cael cyfle i anfon ymlaen eu barn ar yr wybodaeth a ddarparwyd at yr [F6awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb] o fewn cyfnod rhesymol o amser, cyn y rhoddir cydsyniad datblygu i’r prosiect; ac
(c)sicrhau bod unrhyw wybodaeth a geir gan [F7awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb] .
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 57 heading wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(12)(a); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F2Gair yn rhl. 57(1) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(12)(b)(i); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F3Geiriau yn rhl. 57(1) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(12)(b)(ii); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F4Geiriau yn rhl. 57(1) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(12)(b)(iii); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F5Geiriau yn rhl. 57(1)(b) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(12)(b)(iv); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F6Geiriau yn rhl. 57(2)(b) wedi eu hamnewid (7.3.2019) gan Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(12)(c)(i)
F7Geiriau yn rhl. 57(2)(c) wedi eu hamnewid (7.3.2019) gan Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(12)(c)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 57 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: