xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Caiff person sy’n bwriadu cynnal datblygiad ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol fabwysiadu barn sgrinio.
(2) Rhaid i gais am farn sgrinio mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio ddod gyda—
(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
(b)disgrifiad o’r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—
(i)disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad a, phan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel;
(ii)disgrifiad o leoliad y datblygiad, gan roi sylw penodol i sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio;
(c)disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd y mae’r datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol arnynt;
(d)disgrifiad o unrhyw effeithiau sylweddol y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o’u cael ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae gwybodaeth ar gael ar yr effeithiau hynny, o ganlyniad i—
(i)y gwaddodion a’r allyriadau disgwyliedig a’r gwastraff a gynhyrchir, pan fo’n berthnasol; a
(ii)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth; ac
(e)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno gan gynnwys unrhyw rai o nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.
(3) Rhaid i gais am farn sgrinio mewn perthynas â chais dilynol ddod gyda—
(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
(b)digon o wybodaeth i alluogi’r awdurdod cynllunio perthnasol i ganfod unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad y gwnaed cais dilynol mewn cysylltiad ag ef;
(c)yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2)(c) a (d), ond dim ond i’r graddau y mae hyn yn ymwneud ag effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd nas nodwyd yn flaenorol; a
(d)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno, gan gynnwys unrhyw rai o nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.
(4) Rhaid i’r person sy’n gwneud y cais am y farn sgrinio, pan fo’r person hwnnw yn darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (2) neu (3), gymryd i ystyriaeth y meini prawf yn Atodlen 3 a’r canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill a gynhaliwyd yn unol â [F1chyfraith [F2a gymathwyd] (ac eithrio deddfiad a weithredodd y Gyfarwyddeb)].
(5) Os nad yw awdurdod y gofynnir iddo am farn sgrinio yn ystyried ei fod wedi cael digon o wybodaeth i fabwysiadu barn, rhaid iddo roi gwybod i’r person sy’n gwneud y cais am ba bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol arno.
(6) Rhaid i awdurdod fabwysiadu barn sgrinio o fewn—
(a)21 o ddiwrnodau; neu
(b)y fath gyfnod hwy nad yw’n hwy na 90 o ddiwrnodau fel y cytunir yn ysgrifenedig â’r person sy’n gofyn am y farn sgrinio,
yn y naill achos neu’r llall, o’r dyddiad y mae’r person sy’n gofyn am y farn sgrinio yn cyflwyno’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraff (2) neu (3).
(7) Rhaid i awdurdod sy’n mabwysiadu barn sgrinio yn unol â pharagraff (6) anfon copi at y person a ofynodd amdani.
(8) Pan fo awdurdod—
(a)yn methu â mabwysiadu barn sgrinio yn unol â pharagraff (6); neu
(b)yn mabwysiadu barn i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA;
caiff y person a ofynnodd am y farn ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio.
(9) Caiff y person ofyn am farn sgrinio yn unol â pharagraff (8) hyd yn oed os nad yw’r awdurdod wedi cael gwybodaeth ychwanegol y mae wedi ei cheisio o dan baragraff (5).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 6(4) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(5); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F2Gair yn rhl. 6(4) wedi ei amnewid (1.1.2024) gan Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1332), rhlau. 1(2), 19(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)