Search Legislation

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2017

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 2

YR ATODLENDiwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010

1.  Yn erthygl 2, yn y mannau priodol, mewnosoder—

ystyr “ardal TB ganolradd” (“intermediate TB area”) yw’r holl dir sydd wedi ei liwio a’i ddynodi fel “TB Canolradd” ar y map a adneuwyd;

ystyr “ardal TB isel” (“low TB area”) yw’r holl dir sydd wedi ei liwio a’i ddynodi fel “TB Isel” ar y map a adneuwyd;

ystyr “ardal TB uchel” (“high TB area”) yw’r holl dir sydd wedi ei liwio a’i ddynodi fel “TB Uchel” ar y map a adneuwyd;

ystyr “canolfan gasglu” (“collection centre”) yw mangre a ddefnyddir ar gyfer cael, yn y tymor byr, anifeiliaid y bwriedir eu symud i rywle arall (ond nid yw’n cynnwys marchnad na rhywle arall a ddefnyddir ar gyfer gwerthiant neu fasnach anifeiliaid oni fwriedir i’r holl anifeiliaid sydd yno gael eu cigydda yn syth)”;

ystyr “map a adneuwyd” (“deposited map”) yw’r map o’r enw “ardaloedd TB Rhanbarthol Cymru” a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru ac sy’n ddyddiedig 23 Mehefin 2017(1);

ystyr “prawf ar ôl symud” (“post-movement test”) yw prawf croen a gynhelir yn unol ag erthygl 13A;

ystyr “uned besgi drwyddedig” (“licensed finishing unit”) yw daliad hunangynhaliol ar wahân—

(a)

lle y mae’r holl anifeiliaid buchol yn cael eu lletya’n barhaol yn yr uned hyd nes y gellir eu symud i’w cigydda; a

(b)

sydd wedi ei drwyddedu gan arolygydd i dewhau a phesgi anifeiliaid buchol nad ydynt yn dod o fuchesi dan gyfyngiadau;.

2.  Ym mharagraff (3)(b) o erthygl 10 (ymchwiliad milfeddygol i bresenoldeb clefyd)—

(a)ar ôl “ferwi” mewnosoder “neu’i basteureiddio”; a

(b)ar ôl “rywfodd arall,” mewnosoder “oni chaiff ei waredu rywfodd arall,”.

3.  Yn erthygl 11A (hysbysiad gwella bioddiogelwch)—

(a)yn y pennawd, yn lle “gwella” rhodder “gofynion”; a

(b)ym mharagraff (2) yn lle “(“hysbysiad gwella bioddiogelwch”) (“biosecurity improvement notice”)” rhodder “(“hysbysiad gofynion bioddiogelwch”) (“biosecurity requirements notice”)”.

4.  Yn erthygl 12 (profi ar gyfer twbercwlosis), ar ôl paragraff (2)(ch) mewnosoder—

(d)cigydda’r anifail hwnnw ar y fferm a’i symud wedi hynny,.

5.  Yn erthygl 13 (profion cyn symud) —

(a)yn lle paragraff 2(c) rhodder—

(c)unrhyw symudiadau a bennir yn Atodlen 2; ac; a

(b)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) At ddibenion paragraff (1)(a)—

(a)mae’r cyfnod o 60 diwrnod yn cychwyn gyda’r diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir pigiad gyda thwbercwlin i’r anifail; a

(b)ni chaniateir i’r prawf croen fod yn un a gyflawnir ar anifail sy’n ddarostyngedig i hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 16 (ynysu a gwahardd symud anifeiliaid) oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo hynny.

6.  Ar ôl erthygl 13 (profion cyn symud) mewnosoder—

Profion ar ôl symud

13A.(1) Ceir tair ardal twbercwlosis yng Nghymru, sef—

(a)ardal TB isel;

(b)ardal TB ganolradd;

(c)ardal TB uchel.

(2) Pan symudir anifail buchol i’r ardal TB isel o fuches a leolir yn—

(a)yr ardal TB ganolradd;

(b)yr ardal TB uchel;

(c)Lloegr; neu

(ch)Gogledd Iwerddon,

rhaid i’r ceidwad sy’n cael yr anifail drefnu i brawf ar ôl symud gael ei gynnal arno gan filfeddyg cymeradwy ddim llai na 60 diwrnod, ond ddim mwy na 120 diwrnod, ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd yr anifail y fangre sy’n ei gael.

(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i—

(a)anifeiliaid buchol sy’n cael eu cigydda o fewn 120 diwrnod i gyrraedd y fangre sy’n cael yr anifail;

(b)symud anifail buchol i le ar gyfer triniaeth filfeddygol, ar yr amod y’i dychwelir yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol ar ôl y driniaeth, neu y’i lleddir neu y’i hanfonir yn uniongyrchol i’w gigydda;

(c)unrhyw symudiadau a bennir yn Atodlen 3; ac

(ch)unrhyw symudiad a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru.

(4) Pan fo’n ofynnol i anifail buchol gael prawf ar ôl symud o dan baragraff (2), ni chaiff neb symud yr anifail hwnnw o’r fangre sy’n cael yr anifail hyd nes y bydd y prawf croen wedi ei gwblhau, a bod canlyniad y prawf yn negyddol, oni bai bod yr anifail hwnnw yn cael ei symud—

(a)yn uniongyrchol (neu drwy grynhoad cigydda) i’w gigydda;

(b)i uned besgi gymeradwy; neu

(c)o dan awdurdod trwydded symud a ddyroddir gan arolygydd.

(5) Pan fo’n ofynnol i anifail buchol gael prawf ar ôl symud, ond ei fod yn parhau heb ei brofi ar ôl 120 diwrnod ers cyrraedd y fangre sy’n cael yr anifail—

(a)bydd y prawf yn cael ei drin fel prawf hwyr gan Weinidogion Cymru; a

(b)rhaid i arolygydd osod cyfyngiadau ar symud ar yr holl anifeiliaid buchol yn y fangre hyd nes y bydd y prawf ar ôl symud hwyr wedi ei gwblhau, a bod canlyniad y prawf yn negyddol.

(6) Rhaid trefnu’r prawf ar ôl symud gyda milfeddyg cymeradwy ar draul ceidwad yr anifail buchol oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd yn unol ag erthygl 12(1) i gynnal prawf ar gyfer twbercwlosis o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (2).

7.  Yn erthygl 26 (iawndal am anifeiliaid buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “â’r Atodlen” rhodder “ag Atodlen 1”; a

(b)ym mharagraff (3), yn lle “o’r Atodlen” rhodder “ o Atodlen 1”.

8.  Yn yr Atodlen (cyfrifo gwerth anifail buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis), ym mhennawd yr Atodlen, yn lle “Atodlen” rhodder “Atodlen 1”.

9.  Ym mharagraff 1 (cyfrifiad) o’r Atodlen (cyfrifo gwerth anifail buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis)—

(a)yn is-baragraff (1), yn lle “£15,000” rhodder “£5,000, oni bai bod SV yn fwy na £5,000,”; a

(b)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Pan na fo anifail buchol yn cael ei adnabod drwy gyfrwng tagiau clust a phasbort gwartheg yn unol â gofynion Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007, C yw £1.

10.  Ym mharagraff 3 (methu â chydymffurfio â hysbysiad) o’r Atodlen (cyfrifo gwerth anifail buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis)—

(a)yn is-baragraff (1)(a)(iii) yn lle “gwella” rhodder “gofynion”; a

(b)yn is-baragraff (2)(d), yn lle “gwella” rhodder “gofynion”.

11.  Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder—

(1)

Mae’r map wedi ei adneuo ac ar gael i edrych arno yn Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Gellir gweld copi o’r map ar www.llyw.cymru/tbmewngwartheg.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources