Cyflenwi gwybodaeth gan Weinidogion Cymru i bersonau a oedd yn meddu ar yr wybodaeth honno yn gyfreithlon neu a allai fod wedi ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth honno gael ei chyflenwi
8.—(1) At ddibenion adran 114(6) o Ddeddf 2005, mae’r canlynol yn bersonau rhagnodedig—
(a)awdurdod lleol yng Nghymru;
(b)perchennog yr ysgol lle—
(i)y mae’r gweithiwr cymhwysol yn gweithio neu i fod i ddechrau gweithio;
(ii)y mae’r hyfforddai cymhwysol yn hyfforddi neu i fod i ddechrau hyfforddi; ac
(c)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad â phersonau sydd neu sydd wedi bod yn weithwyr cymhwysol neu’n hyfforddeion cymhwysol i unrhyw berson a ragnodir ym mharagraff (1).